Tad Rhun ap Iorwerth 'methu credu' llwyddiant Plaid Cymru

Edward Morus Jones a Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Edward Morus Jones a Rhun ap Iorwerth yn cofleidio yn ystod y cyfrif ddydd Gwener

  • Cyhoeddwyd

Mae tad Rhun ap Iorwerth wedi dweud ei fod "methu credu" llwyddiant Plaid Cymru, gyda'i fab yn debygol o gael ei ethol yn Brif Weinidog Cymru yn y dyddiau nesaf.

Wrth siarad ar raglen Post Prynhawn, dywedodd Edward Morus Jones ei fod yn teimlo "mor emosiynol" bod ei fab yn y fath sefyllfa.

Yn wreiddiol o Lanuwchllyn, mae Mr Jones yn gyn-athro a chanwr adnabyddus, ac mae wedi ymgyrchu dros y Gymraeg a Phlaid Cymru ers degawdau.

Bellach yn byw ar Ynys Môn ers peth amser, bu'n siarad gyda Nia Thomas brynhawn Llun am lwyddiant Plaid Cymru yn yr etholiad, a'i fab fel arweinydd.

'Dal ati yn ddiwyro a chadw gobaith'

Yn ôl Mr Jones mae'n "deimlad swreal iawn, iawn - dwi methu credu fod o'n wir".

"Dwi wrth fy modd, a methu [credu] bod rhywun o 'nheulu bach i hefo cymaint o ran i'w chwarae yn y cyfan sy'n digwydd!"

Dywedodd nad oedd yn synnu i'w fab droi at fyd gwleidyddiaeth, a'i fod - "pan oedd Rhun yn fach iawn - rhyw dair neu bedair oed", yn "chwarae swyddfa'r Blaid".

Esboniodd Mr Jones, pan holwyd ef am yr ymgyrchu a wnaeth ef ei hun dros Blaid Cymru am fwy na 50 mlynedd, fod datblygiad y blaid wedi digwydd yn "ara' deg bach" dros amser.

Edward Morus Jones a Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Edward Morus Jones, mae'r ffaith bod ei fab yn y fath sefyllfa yn "deimlad swreal iawn, iawn"

"Pan o'n i'n 15 oed ac yn ymgyrchu dros ŵr nid anenwog, Gwynfor Evans, ym Meirionnydd, oedd pobl yn gwneud hwyl am eich pen chi - yn meddwl rhyw blaid fach oedd hi," meddai.

"Yn ara' deg bach, dod 'nôl rhyw 15 i 20 mlynedd wedyn, gweld ffrind i mi - rhywun o'r enw Dafydd Elis-Thomas - yn mynd i mewn ac ro'n i'n ymgyrchu efo fo.

"Roedd tristwch yma ac acw ar y ffordd, ond wedyn yn cyrraedd i Fôn fues i'n ymgyrchu dros ffrind arall - Ieuan Wyn Jones - a ddaeth yn ŵr amlwg iawn i ni am flynyddoedd.

"Mae rhywun wedi bod wrthi ers blynyddoedd lawer ac wedi gweld yr anawsterau mawr yn mynd yn llai, ond dal ati ydi'r gair mawr wedi bod - dal ati yn ddiwyro a chadw gobaith, cadw ffydd.

"'Da ni 'di gweld hynny'n digwydd a dwi'n credu bod 'na gymaint o ddiolch i'r rhai sydd wedi bod o'n blaenau ni dros y blynyddoedd.

"Mae hi 'di bod yn 100 mlynedd, ond mae'r 100 mlynedd yma wedi deillio ar rywbeth go arbennig eleni."

'Teimlad swreal iawn, iawn - dwi methu credu fod o'n wir'

Gwrandewch ar gyfweliad Edward Morus Jones gyda Nia Thomas

Dywedodd ei fod hefyd yn synnu gyda pha mor sydyn mae'r gefnogaeth wedi cynyddu i Blaid Cymru dros y blynyddoedd diwethaf.

"A bod yn hollol onest, o'n i'n meddwl falle' y byddai o'n cymryd mwy o amser," meddai.

"Ond pan gaethon ni'r Cynulliad, a drodd yn Senedd, a gweld pethau'n dal i fynd - doedd 'na ddim stopio'r garafan rhywsut - a gweld pobl dda yn datblygu, a Rhun ei hun yn dod [i'r amlwg]."

Ychwanegodd Mr Jones ei fod wedi cadw ei ffydd yn ei fab, wrth iddo newid gyrfa yn 2013 "o ohebu am wleidyddiaeth i fynd mewn i wleidyddiaeth".

"Gwneud gwahaniaeth gobeithio" oedd nod ei fab ar y pryd, meddai.

"Ar ôl hynny 'nes i ei weld o'n cryfhau ac yn cryfhau ac yn wir yn dod yn rhywun yr o'n i'n gallu ei ddeall o'n siarad.

"Ac roedd pobl eraill wedyn wrth eu boddau yn ei gefnogi o."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.