Penodi Deon newydd â 'phrofiad helaeth' i Gadeirlan Bangor

Nia Ffynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
  • Cyhoeddwyd

Mae'r Parchedig Nia Catrin Williams wedi cael ei phenodi yn Ddeon Cadeirlan Bangor ac yn arweinydd ar ardal Weinidogaeth Bro Deiniol.

Bydd hi'n dechrau ar y swydd ym mis Ionawr 2027, gan olynu'r Gwir Barchedig Manon Ceridwen James - sydd bellach yn Esgob Bangor.

Cyn hynny bu cyfnod cythryblus i'r Gadeirlan wedi i ddau adroddiad beirniadol amlinellu pryderon ac fe wnaeth y cyn-Archesgob Andrew John ymddeol yn 2025.

Dywedodd Esgobaeth Bangor ddydd Llun fod penodiad Ms Williams yn "parhau i fynd i'r afael â'r pryderon" hynny a gafodd eu codi.

Dywedodd y Deon newydd ei bod hi'n "fraint aruthrol cael fy mhenodi" a'i bod hefyd yn "edrych ymlaen at ddychwelyd ar ôl gwasanaethu fel Canon dros Genhadaeth a Chaplan y Brifysgol dros ddegawd yn ôl".

Manon Ceridwen JamesFfynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Gwir Barchedig Manon Ceridwen James fod "doniau Nia yn y weinidogaeth a'i phrofiad o arwain yn golygu ei bod mewn sefyllfa arbennig o dda i arwain y Gadeirlan"

Mae Nia Catrin Williams yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf ac mae ganddi dros 25 mlynedd o brofiad mewn gweinidogaeth ordeiniedig.

Cafodd ei hordeinio yn offeiriad yng Nghadeirlan Llanelwy yn 1999, a dechreuodd ei gweinidogaeth fel curad cynorthwyol ym Mywoliaeth Reithorol Llanrhos.

Bu'n Ganon dros Genhadaeth yng Nghadeirlan Bangor rhwng 2012 a 2015.

Mae ei gwaith ehangach yn yr Eglwys yng Nghymru wedi cynnwys gweinidogaeth gyda phlant a phobl ifanc, diogelu, galwedigaethau a Phwyllgor Taleithiol y Gymraeg.

Y tu allan i'w gweinidogaeth, mae Nia'n mwynhau teithio, ceir clasurol, gwneud gwaith DIY a chefnogi tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru. Mae'n briod â Nigel ac mae ganddynt ddwy ferch sydd bellach yn oedolion, ac wyres.

'Dod â'r genhedlaeth nesaf at Grist'

Yn ôl Nia Catrin Williams mae hi eisiau "adeiladu ar y gwaith diwygio ac adnewyddu y mae'r Esgob Manon a thimau'r esgobaeth a'r Gadeirlan eisoes wedi'i wneud".

"Hoffwn barhau i ddatblygu'r Gadeirlan yn le o weddi a chroeso i bobl y ddinas, a hefyd yn fam eglwys yr Esgobaeth.

"Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd fel cymuned i dyfu'n ddisgyblion a helpu i ddod â'r genhedlaeth nesaf at Grist," meddai.

Dywedodd yr Esgob Manon Ceridwen James fod "doniau Nia yn y weinidogaeth a'i phrofiad o arwain yn golygu ei bod mewn sefyllfa arbennig o dda i arwain y Gadeirlan a Bro Deiniol i'r bennod nesaf".

"Yn ogystal â'i phrofiad fel offeiriad plwyf, mae ei gwasanaeth fel Caplan yn y Fyddin wedi rhoi iddi arbenigedd helaeth mewn gofal bugeiliol, datblygu timau a datrys anghydfodau, ynghyd â'r gallu i arwain gydag empathi a gwytnwch drwy gyfnodau o her a newid.

"Bydd ei chreadigrwydd, ei hegni a'i phrofiad helaeth o weinidogaethu gyda phlant a phobl ifanc yn datblygu ymhellach faes sy'n ganolog i genhadaeth a gweinidogaeth y Gadeirlan."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig