'Rhaid buddsoddi' mewn sgiliau pobl ifanc cyn 'colli cenhedlaeth i ddiweithdra'

Myfyrwyr yn graddioFfynhonnell y llun, AFP via Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer y bobl ifanc yng Nghymru sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf

GanRhodri LewisGohebydd BBC CymruaGwen Aeron
  • Cyhoeddwyd

Mae'r sector hyfforddiant i bobl ifanc yng Nghymru yn dweud bod angen eglurder ar frys gan Lywodraeth Cymru ynghylch cynlluniau i ddiwygio'r system sgiliau.

Daw hynny wrth i nifer y bobl ifanc sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) gynyddu, a phryderon y gallai oedi pellach olygu bod rhagor yn methu cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.

Dywedodd y Gweinidog Menter, Adam Price, wrth Bwyllgor Economi'r Senedd ddiwedd mis Medi nad yw'r system bresennol yn gweithio.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn gobeithio cyhoeddi manylion cynllun newydd yn ystod yr wythnosau nesaf.

Mae canran y bobl rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru sy'n NEET yn codi. Ar ddiwedd 2025, roedd y ffigwr yn 17%, cynnydd o 5.5 pwynt canrannol dros y flwyddyn flaenorol a 4.4 pwynt canrannol dros y pum mlynedd diwethaf.

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cynnig ystod eang o gyrsiau, o letygarwch i blymio. Nid yw'r myfyrwyr yno ymhlith yr amcangyfrif o 56,000 o bobl ifanc yng Nghymru sy'n NEET.

Dywed Pennaeth y Coleg, Sharon James Evans, fod cyrsiau fel y rhain yn hanfodol i economi Cymru.

"Mae angen mwy o fuddsoddiad mewn sgiliau arnon ni, a 'wi'n credu, os y'ch chi'n buddsoddi mewn sgiliau, eich bod yn buddsoddi yn eich adnodd mwyaf gwerthfawr, sef pobl ifanc, ac y'ch chi hefyd yn cyfrannu at economi Cymru."

Adam PriceFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Adam Price yn dweud bod angen syniadau newydd i fynd i'r afael â'r cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy'n NEET

Roedd y Gwarant Pobl Ifanc, sy'n helpu pobl ifanc i gael lle mewn addysg, hyfforddiant neu waith, yn gonglfaen i bolisi Llywodraeth Cymru flaenorol o dan Lafur.

Ond wrth annerch Pwyllgor Economi'r Senedd ar 30 Medi, dywedodd Adam Price nad oedd y ddarpariaeth bresennol wedi llwyddo i'r graddau oedd eu hangen.

"Mae angen i ni gydnabod nad yw'r mesurau presennol wedi gweithio i'r graddau angenrheidiol. Mae angen i ni ddod â syniadau newydd yn eu blaenau, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac sydd â mwy o obaith o gael yr effaith rydym yn ei dymuno."

Dave Hagendyk
Disgrifiad o’r llun,

Dave Hagendyk, Prif Weithredwr Colegau Cymru, yn rhybuddio bod angen buddsoddi ar frys i gefnodgi pobl ifanc

Mae Dave Hagendyk, Prif Weithredwr Colegau Cymru, yn dweud ei fod yn deall y gallai llywodraeth newydd fod eisiau newid rhai pethau, ond ei bod hi'n hanfodol gweithredu'n gyflym.

"Mae 'na argyfwng yn digwydd ar hyn o bryd; mae 56,000 o bobl ifanc wedi ymddieithrio'n llwyr oddi wrth y farchnad lafur.

"Os ydych chi am ddatrys argyfwng NEET, os ydych chi am atal cenhedlaeth gyfan rhag cael ei cholli i ddiweithdra a gwaith sgiliau isel, mae'n rhaid i chi fuddsoddi nawr."

Cefin Campbell
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Gweinidog Sgiliau, Cefin Campbell, y bydd manylion strategaeth newydd a chymorth ariannol yn cael eu cyflwyno yng nghyllideb yr hydref

Mae'r Gweinidog Sgiliau, Cefin Campbell AS, yn dweud ei fod yn deall y pryderon, ond bod mwy o eglurder yn dod yn fuan.

"Bydd y strategaeth newydd hon y'n ni'n mynd i'w datblygu, a'r gefnogaeth ariannol ar ei chyfer, yn cael eu cyflwyno yng nghyllideb yr hydref.

"Allai ddim rhagweld beth fydd yn rhan ohoni, ond fe fyddwn ni'n rhoi cymorth mewn lle gan ein bod yn credu bod hon yn agenda bwysig."

Ond gyda chyllid yn brin, mae darparwyr hyfforddiant yn wynebu wythnosau o ansicrwydd nes bydd yn glir beth fydd y system newydd, a faint o arian fydd ar gael i hyfforddi gweithwyr y dyfodol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.