'Sgen i ddim mynediad at fy hoff leoedd ers bod mewn cadair olwyn'

Mae Bethany Handley wedi bod yn defnyddio cadair olwyn ers tair blynedd
- Cyhoeddwyd
Mae menyw o Sir Fynwy yn dweud ei bod yn teimlo bod ei hoff dirweddau wedi bod ar gau iddi ers iddi golli'r defnydd o'i choesau.
Fel plentyn ifanc, roedd Bethany Handley yn treulio'r rhan fwyaf o'i hamser yn yr awyr agored, yn mwynhau dringo mynyddoedd Bannau Brycheiniog a chwarae yn y coed.
Ond ar ôl blynyddoedd o broblemau iechyd, roedd mwynhau tirweddau Cymru yn mynd yn fwyfwy anodd i Bethany, nes iddi golli'r gallu i gerdded yn llwyr dair blynedd yn ôl.
Dywedodd ei bod yn "teimlo'n fwy ymwybodol o fy anableddau ar ôl i fi sylwi bod fy hoff dirweddau dan glo i fi".

Yn 22 oed, roedd Bethany yn meddwl ei bod wedi cyrraedd ei chopa olaf
Cafodd Bethany, 26, ei geni gydag amhariad ar ei golwg, oedd yn ei hatal rhag cymryd rhan mewn rhai chwaraeon yn yr ysgol.
Roedd hi'n mwynhau gweithgareddau awyr agored, ond yn ei harddegau fe wnaeth hi ddatblygu twymyn y chwarennau (glandular fever) ac wedyn endometriosis.
Fe wnaeth hi barhau i brofi problemau gyda'i hiechyd, ac ar ôl cyrraedd adref un diwrnod ar ôl cerdded Cader Idris fe wnaeth hi lewygu ar lawr y gegin.
Yn 22 oed, roedd hi'n meddwl ei bod wedi cyrraedd ei chopa olaf.
"Aeth pethau'n llawer gwaeth yn sydyn ac roedd rhaid i fi ddefnyddio cadair olwyn rhan o'r amser oherwydd do'n i ddim yn gallu cerdded yn bell iawn a ro'n i'n disgyn drwy'r amser," meddai.
"Ro'n i'n cael cyfergyd drwy'r amser. Roedd yn mynd yn beryglus iawn."

Mae Bethany wedi treulio sawl cyfnod hir yn yr ysbyty, ac mae hi nawr yn gorfod bwyta drwy diwb
Blwyddyn yn ddiweddarach fe wnaeth hi golli'r teimlad yn ei choesau yn gyfan gwbl.
Ar ôl treulio cyfnod yn yr ysbyty, roedd rhaid iddi symud yn ôl i fyw gyda'i theulu, yn cysgu ar soffa yn y stafell fyw ac yn defnyddio'r gawod yn y canolfan hamdden leol am dros flwyddyn er mwyn cael lle hygyrch.
Roedd colli cysylltiad gyda byd natur o ganlyniad i'w chyflwr yn anodd iawn, meddai.
"Ro'n i'n teimlo'n fwy ymwybodol o fy anableddau ar ôl i fi sylwi bod fy hoff dirweddau dan glo i fi.
"Mae 'na saith camfa o fewn milltir i fy nghartref, felly dyna saith lle ble alla i ddim mynd."
'Dylunio pobl rhag natur'
Trwy dderbyn rhoddion ac arian elusen, mae Bethany wedi gallu prynu cadair olwyn ysgafn sy'n "gwneud cymaint o wahaniaeth" o ran mwynhau'r awyr agored.
"'Da ni fel cymdeithas yn deall ei bod yn gallu bod yn anodd o ran mynediad i leoedd fel siopa, ond dydw i ddim yn meddwl ein bod ni'n siarad digon am y rhwystrau sy'n bodoli i gael mynediad at natur," meddai.
"Yn aml nid y dirwedd ei hun yw'r broblem... y rhwystrau 'da ni'n eu rhoi i mewn sy'n achosi problemau. 'Da ni'n dylunio pobl rhag natur.
"'Da ni ddim yn meddwl am bwy sy'n cael eu heithrio pan 'da ni'n gosod y ffiniau 'ma... giatiau, camfeydd, neu giatiau mochyn bach sydd i gyd yn rhwystrau nad oes angen iddyn nhw fodoli."

Mae Bethany wedi dychwelyd i gopaon y Mynyddoedd Duon yn ddiweddar
Mae Bethany wedi ffeindio ffordd i ddychwelyd i rai o'r gweithgareddau yr oedd hi'n eu mwynhau cyn iddi golli'r defnydd o'i choesau.
"Mae fy mrawd wedi addasu bwrdd syrffio i fi... felly dwi'n syrffio eto - rhywbeth do'n i ddim yn meddwl fyddai'n bosib."
Yn ddiweddar, aeth Bethany i fyny crib ar y Mynyddoedd Duon drwy ddefnyddio cadair olwyn arbennig ar gyfer tirweddau gwahanol.
"Roedd yn deimlad arbennig iawn - does neb yn disgwyl gweld rhywun mewn cadair olwyn ar ben crib mynydd oherwydd dydyn ni ddim yn dylunio mynediad."
Mae hi hefyd wedi benthyg arian i adeiladu cartref "bach iawn a hygyrch" wrth ei rhieni ac mae'n byw wrth ymyl dôl y mae hi'n helpu i'w hail-wylltio.

Mae Bethany wedi siarad yng Ngŵyl y Gelli
Pan roedd hi yn yr ysbyty, roedd Bethany yn teimlo y byddai hi "byth yn gallu cael mynediad at natur eto".
Ar ôl profi ei hun yn anghywir, mae hi wedi mynd ymlaen i 'sgwennu llyfr o'r enw My Body is a Meadow - sy'n rhannol seiliedig ar ei phrofiadau hi - am ailagor byd natur i'r rheiny sydd ddim yn teimlo'n rhan ohono.
"Dwi jest eisiau i bobl eraill sydd wedi tyfu fyny yn anabl, neu wedi cael rhywbeth yn digwydd iddyn nhw, i gael role models a chlywed y straeon yma.
"Mae modd i chi fynd i dirweddau gwahanol eto. Bydd llefydd sy'n croesawu eich corff chi, a'ch ffordd chi o symud.
"Mae ein hawl ni i gael mynediad at natur yr un mor ddilys â hawl rhywun sydd ddim yn anabl."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2025

- Cyhoeddwyd5 Mai 2024

- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2023
