Ffermwyr Sir Gâr wrth eu boddau yn hel atgofion am hen stondinau llaeth

"S'neb yn sylwi pa mor bwysig yw'r pethe 'ma tan bo' nhw 'di mynd," meddai Anthony Rees
- Cyhoeddwyd
Wrth yrru drwy gefn gwlad Cymru bydd nifer yn gwibio heibio pentwr o frics a choncrit, sydd yn aml wedi'u gorchuddio gan gloddiau, heb feddwl dwywaith.
Ond oes mwy i'r stondinau yma? I rai, mae hen stondinau llaeth yn "cynrychioli oes a fu" ac yn dod ag atgofion melys yn ôl i ffermwyr o "sgwrsio, gweud clecs, a siarad 'da phobl".
Ar ôl dychwelyd i fyw yn Sir Gâr, dechreuodd Anthony Rees sylwi ar hen stondinau llaeth ar hyd a lled y sir, gan feddwl "o 'na drueni bo' rhein yn pwdri achos o' nhw mor bwysig i ffermwyr".
Cysylltodd â'r Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru ac Archifdy Sir Gaerfyrddin gan ddysgu nad oedd unrhyw gofnod o'u lleoliad na lluniau ohonyn nhw yn bodoli'n unman.
Felly, "penderfynais 'job fi yw hwn de' - a dechreues i'n Chwefror 2023 a meddwl byddai 'di bennu erbyn mis Mai 2023 - ond little did I know!"
Erbyn hyn mae ganddo gofnod o dros 600 o stondinau llaeth ar draws y sir, ond yr hyn nad oedd yn ei ddisgwyl oedd yr holl sgyrsiau a straeon y mae wedi dod ar eu traws wrth bori.
- Ffynhonnell y llun, Anthony Rees

Disgrifiad o’r llun, Stondin laeth ar ochr ffordd yn sownd i adeilad fferm ym Mhentregwenlais
1 o 2
Mae'r "egni" a'r "brwdfrydedd" gan bawb - ffermwyr, gyrwyr loris a phobl leol - wrth iddyn nhw sôn am y stondinau llaeth sydd ar eu pwys nhw "wedi bod yn hyfryd", meddai Anthony.
"A pan chi'n dod â'r holl straeon at ei gilydd chi'n cael llun o'r amser mas yn y wlad - a straeon o trust, straeon o self-reliance, ac o bobl yn cefnogi ei gilydd ydyn nhw.
"O'dd un gyrrwr lori yn gweutho fi - I never left a farmer behind. Esboniodd y byddai'n eistedd am ryw 10 munud os nad oedd y llaeth yn barod cyn mynd lawr i'r fferm i weld beth oedd yn digwydd.
"Weithie bydden nhw [y ffermwyr] fel 'sori ni'n rhedeg yn hwyr - ty'd mewn i ga'l brecwast', a bydde fe'n ca'l brecwast 'da nhw.
"A wedyn diwrnod wedyn bydde ffowlyn, neu veg, neu bag o tato, neu torth neu cac neu rhywbeth ar y stand gan y ffermwr fel rhywbeth bach i fe."
Yr ymdeimlad yma o gymdeithas a brawdgarwch sydd wastad yn codi wrth drafod y stondinau cuddiedig yma, meddai.
- Ffynhonnell y llun, Anthony Rees

Disgrifiad o’r llun, Llun o'r teulu Walters ar ben stondin laeth yn ardal Llan-gain yn y 1950au
1 o 2
Mae Anthony yn credu bod y cymdeithasu oedd yn aml yn deillio o gwrdd ar bwys y stondinau llaeth yn help o ran iechyd meddwl pobl cefn gwlad.
"Achos o'n nhw'n lle ble o'dd ffermwyr yn gallu cwrdd a siarad â'i gilydd - siarad i bois loris, gweud clecs, beth o'dd y prisie'n y mart, a phwy o'dd wedi rhedeg bant â phwy - ch'mo fel o'dd e!?
"Ond nawr mae bron fel contactless transfer of milk – so mae'n bwysig cofio beth o'dd rhein.
"So nhw'n bert iawn," meddai cyn pwysleisio "they're of no architectural significance, granted but they're of great social significance".
Mae Anthony erbyn hyn wedi cofnodi lleoliad a lluniau dros 650 o stondinau llaeth yn Sir Gâr, a does dim awydd stopio arno.
Yn y 1970au dywedodd bod tua 1,700 o ffermydd llaeth ar draws y sir, ac felly mae'n amcangyfrif bod tua 1,500 o stondinau llaeth yno ar un adeg.
Mae nifer wedi dymchwel dros y blynyddoedd am sawl rheswm, ond mae'n gobeithio bod mwy i'w canfod.
'Bydd pobl o gwmpas y byd yn dod i ddefnyddio Llwybr Dyffryn Tywi'
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
'Steddfod yr Urdd ar steroids': Ffermwyr yn dathlu llwyddiant BGT
- Cyhoeddwyd23 Mawrth
Gallai ffermwyr golli 'miloedd o bunnau' wrth i brisiau llaeth ostwng
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2025
Yn ogystal â nodi lleoliadau pob un a'u lluniau, mae Anthony hefyd wedi recordio cyfweliadau gyda rhai o'r bobl oedd yn hapus i rannu eu profiadau.
"Ma' stori 'da nhw gyd t'mo," meddai, "a mae'r hen bois 'ma fel bo' nhw'n renergized drwy siarad am bethe they'd thought nobody was interested in and were long gone… a rhai o' nhw bron yn llefen yn adrodd straeon."
Mae un stori gan yrrwr lori yn sefyll allan ac yn dal i roi gwên ar ei wyneb, meddai.
"O'dd e'n neud y run 'ma, a the farmers wife was a little bit nosy," esboniodd Anthony.
"Weithiau byddai hi'n neidio i gefn y lori achos o'dd hi isie gweld faint o laeth oedd y cymdogion yn ei anfon - achos o'dd labels ar y churns 'ma!
"So o'dd e ddim yn lico hon, ac un tro feddyliodd e 'reit so ti mynd i neud hwn 'to' so jwmpodd e 'nôl yn y lori a gyrru'r holl ffordd i Gasnewydd Emlyn gyda hi'n y back!"
'Dim ond pobl o'r generation yna sy'n siarad fel 'na'
Er bod y prosiect o nodi holl stondinau llaeth Sir Gâr yn un mawr a heriol, "mae 'di bod yn lyfli", meddai Anthony.
"Mae clywed y Gymraeg a'r acen yna, mae fel depth a quality i'w geirie a fel maen nhw'n siarad - dim ond pobl o'r generation yna sy'n siarad fel 'na."
Mae Anthony yn dal i apelio ar unrhyw un sydd â lluniau, cofnod, neu atgofion o stondinau llaeth yn y sir i gysylltu ag ef.
Unwaith y bydd wedi gorffen ei brosiect, bydd ei waith yn cael ei gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol ac Amgueddfa Cymru, "sy'n bwysig iawn fi'n meddwl".
"S'neb yn sylwi pa mor bwysig yw'r pethe 'ma tan bo' nhw 'di mynd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

