Helpu merched mewn wardiau iechyd meddwl 'rhag iddyn nhw gael eu hanghofio'

Helen GwenllianFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Helen Gwenllian yw un o'r rhai sy'n gyfrifol am y pecynnau cymorth

GanSara Down-Roberts
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Ar wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl mae criw o Landysul yn darparu bagiau i ferched mewn wardiau seiciatryddol "rhag iddyn nhw gael eu hanghofio".

"Yn aml dyw'r merched yma ddim yn derbyn cardiau brysia wella, does yna ddim cefnogaeth ac oherwydd y stigma does neb yn gofyn amdanyn nhw," meddai Helen Gwenllian sy'n un o'r rhai wrth wraidd y cynllun.

Mae prosiect 'Golau Gras, dolen allanol' yn gysylltiedig ag Eglwys y Ffynnon yn Llandysul ac mae'r rhai o'r merched sydd wedi darparu'r bagiau wedi cael profiad o salwch meddwl eu hunain.

"O gofio am hanes Iesu yn siarad â'r wraig o Samaria, ni wedi bod yn meddwl pwy sy'n teimlo ar ymylon cymdeithas ac er bod llai o stigma yn sgil mwy o siarad am iechyd meddwl ma' nifer o ferched mewn wardiau iechyd meddwl yn gallu bod yn unig iawn.

"Mae'r broses o gyrraedd wardiau iechyd meddwl yn gallu bod yn dorcalonnus ac yn aml mae rhywun mo'yn dangos cariad ond weithiau oherwydd y stigma mae'n amhosib cyrraedd y rhai sy'n sâl," ychwanegodd Helen.

BagiauFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y bagiau yn cael eu dosbarthu yr wythnos hon i ddwy ward iechyd meddwl

Yn ystod y misoedd diwethaf mae nifer o weithdai wedi'u cynnal i baratoi'r pecynnau ar gyfer merched sydd yn wardiau Morlais a Chwm Seren ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda.

Yn y pecynnau mae sanau fflwfflyd i roi cynhesrwydd, bar o siocled, cerdyn 'Brysia Wella', llyfr nodiadau a beiro i gofnodi'r daith, eli gwefus, eli croen a nodyn.

"Mae'r nyrsys ar y ward yn dweud mai'r nodyn sy'n dweud bod yna fywyd ar ôl bod ar y ward ac sy'n dweud bod y pecyn hwn gan rai sydd wedi bod ar y ward eu hunain yn bwysicach na dim," ychwanegodd Helen Gwenllian yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg.

"Mae llawer ohonon ni'n gwybod ei bod hi'n gallu teimlo'n dywyll ac anobeithiol ar y ward a fi'n creu bod clywed eraill sydd wedi bod yno ac sydd bellach yn hapus yn gallu bod yn neges bwerus."

Golau grasFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae un siwmper a werthir yn talu am fag cymorth

Mae Helen Gwenllian ar hyn o bryd ar flwyddyn sabothol yn hyfforddi i fod yn weithiwr eglwys.

I dalu am y bagiau mae'r criw o ferched yn gwerthu crysau chwys Golau Gras ac mae un crys yn talu am fag.

"Cyn hyn roeddwn i fy hun yn workaholic ac yn berffeithydd. Roedd y bar yn uchel ac o'n i byth yn ei gyrraedd e a be o'n i'n 'neud o'dd symud y bar," meddai.

"Ond bellach mae fy ffydd i yn dangos pa mor bwysig yw hi i dderbyn cymorth a chefnogi eraill.

"Yn sicr un ffordd o wneud hynny yw cyrraedd y merched 'na sydd ar unedau seiciatrig a dechrau'r sgwrs 'ma gydag eraill.

"Yn barod, wrth i ni werthu y crysau, mae rhai wedi bod yn rhannu profiad o iechyd meddwl neu'n siarad am berthnasau sydd wedi bod trwy gyfnod anodd ac mae hynny mor bwysig."

Mae'r artist Lois Adams wedi bod yn helpu i ddylunio y cardiau 'Brysia Wella'Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r artist Lois Adams wedi bod yn helpu i ddylunio y cardiau 'Brysia Wella'

Bydd y bagiau yn cael eu rhannu yn wardiau Morlais a Chwm Seren yn ystod yr wythnos a gobaith criw Golau Gras yw ehangu'r cynllun i weddill Cymru fel nad yw'r un ferch mewn ward seiciatryddol yn teimlo "ei bod yn cael ei hanghofio".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.