Cyhoeddi fersiwn Gymraeg o ffilm eiconig Star Wars o 1977

Daeth y cyhoeddiad ar faes yr Eisteddfod, gyda'r Stormtroopers yn crwydro'r maes
- Cyhoeddwyd
Mae'r ffilm eiconig Star Wars yn cael ei dybio'n Gymraeg am y tro cyntaf i ddathlu ei phen-blwydd yn 50 oed.
Mae'r fersiwn Gymraeg newydd o'r ffilm gyntaf yn y gyfres, sef Star Wars: A New Hope, yn cael ei alw'n Star Wars: Gobaith Newydd.
Mae'r gwaith dybio'n cael ei wneud mewn cydweithrediad rhwng Lucasfilm, Disney, S4C a Llywodraeth Cymru drwy Gymru Greadigol.
Mae rhai o actorion mwyaf adnabyddus Cymru yn arwain y cast yn y fersiwn Gymraeg newydd, gan gynnwys Matthew Rhys fel Han Solo a Rhys Ifans fel Obi-Wan Kenobi.
Bydd yn cael ei darlledu ar S4C ac ar draws ei llwyfannau digidol o ddydd Nadolig ymlaen.
Fe gyfrannodd Llywodraeth Cymru £100,000 tuag at y prosiect.

Mae'r cast hefyd yn cynnwys Aimee-Ffion Edwards fel y Dywysoges Leia, Mark Lewis Jones, fu'n chwarae cymeriad yn Star Wars: The Last Jedi, fel Darth Vader, ac Osian Morgan fel Luke Skywalker yn ogystal â Llyr Ifans (C-3PO), Nia Roberts (Modryb Beru), Richard Harrington (Grand Moff Tarkin), Owain Arthur (Arweinydd Coch), a Rhodri Meilir (Arweinydd Aur).
Mae'r dyb Cymraeg yn cael ei gyfarwyddo gan Ellyn Stern a'i gynhyrchu gan Michael Kohn, cyfarwyddwr gweithrediadau dosbarthu Lucasfilm.
Dywedodd Michael Kohn: "Rydyn ni'n gyffrous iawn am y prosiect hwn am sawl rheswm.
"Rydw i wedi bod yn rhan o ychydig o dubs ieithoedd brodorol o Star Wars dros y blynyddoedd sy'n anelu at gadw ac adfywio diddordeb mewn dysgu'r ieithoedd.
"Maen nhw wedi bod yn hynod lwyddiannus nid yn unig yn eu cymunedau ond yn rhyngwladol hefyd. Mae'r cyfle i ddathlu'r Gymraeg trwy Star Wars yn un na allwn ei golli."

Dywedodd cyd-lywydd Lucasfilm, Lynwen Brennan, a gafodd ei geni a'i magu yng Nghymru: "Mae gan Gymru hanes mor gyfoethog o adrodd straeon ac iaith delynegol hardd.
"Nid ydym erioed wedi cael cyfieithiad o Star Wars i'r Gymraeg o'r blaen ac rwy mor ddiolchgar, ein bod wedi gallu gweithio gyda thalent anhygoel o Gymru i wireddu hynny, er mwyn dathlu ein pen-blwydd yn 50 oed.
"O'r diwedd bydd siaradwyr Cymraeg yn gallu mwynhau'r ffilm yn ein hiaith frodorol a fy ngobaith yw y bydd yn cael yr un effaith emosiynol â phe baech chi'n gwylio'r ffilm eto am y tro cyntaf."
Mae Cymru wedi chwarae rhan ers amser maith ym mhrosiectau Star Wars ac yng nghynyrchiadau Lucasfilm eraill yn y gorffennol, gyda'r llong ofod y Millennium Falcon maint llawn wedi'i adeiladu yn Noc Penfro ym 1979 ar gyfer Star Wars: The Empire Strikes Back, yn ogystal â golygfeydd o'r ffilm a'r gyfres Willow a'r gyfres Star Wars: The Acolyte.

Dywedodd Llyr Ifans ei fod wrth ei fodd cael rhan mewn ffilm sy'n rhan o'i blentyndod
Dywedodd prif weithredwr S4C, Geraint Evans bod y "sêr yn bendant yn disgleirio ar y prosiect hwn" a bod y sianel "wrth ein bodd" i gydweithio ar "ffilm mor eiconig i gymaint o genedlaethau o gefnogwyr ledled y byd".
"Mae'n gyfle gwych i hyrwyddo'r Gymraeg a'n hactorion talentog ar lwyfan rhyngwladol.
"Mae hefyd yn ategu ein strategaeth i ehangu ein gwylio drwy gynnwys anhygoel a'n dymuniad i helpu i gynhyrchu ffilmiau sinematig yn Gymraeg."
Gobaith am 'drobwynt' i'r diwydiant yng Nghymru
Dywedodd yr actor Llyr Ifans, sy'n lleisio'r robot C-3PO yn y fersiwn newydd, bod defnyddio "termau technegol, galactaidd" yn y Gymraeg yn "ymarfer helaeth o'n nhalent i i leisio".
"Mae'n ffilm mor eiconig, mae'n rhan o'm mhlentyndod i. Dwi wrth fy modd," meddai.
Dywedodd bod ei fab yn "Star Wars superfan" a'i fod "'di cael breuddwyd wedi'i wireddu" yn y gynhadledd ar y maes ddydd Mawrth.
Syniad Disney oedd dybio'r ffilm yn Gymraeg, yn ôl yr actor, ac mae'n gobeithio "bydd gwneud rhywbeth fel hyn yn rhoi hwb i ni'n rhyngwladol".

Mae Osian Morgan yn gobeithio y bydd y ffilm yn ysgogiad i'r diwydiant yng Nghymru
Dywedodd Osian Morgan bod cael y cyfle i leisio Luke Skywalker yn "rhywbeth fyddai byth yn anghofio".
Yn dilyn llwyddiant y ffilm Effi o Blaenau, mae'n gobeithio bydd y ffilm yn "drobwynt" i'r diwydiant ffilmiau yng Nghymru.
"Ers i mi adael Pobol y Cwm pedair mlynedd yn ôl mae'r mwyafrif o'r gwaith dwi wedi gwneud wedi bod yn yr iaith Saesneg.
"Mae'r cyfleoedd yna a gobeithio byddan nhw'n dechrau cynyddu i adael i fwy o sêr Cymraeg allu dod trwodd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mai 2022

- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf
