Merch ffermwr fu farw yn annog eraill i siarad, degawd ers creu elusen yn ei enw

Mae'n bwysig, medd Mali, i bawb drafod yr hyn sydd ar eu meddyliau, nid dim ond amaethwyr
- Cyhoeddwyd
Mae merch ffermwr fu farw yn annog ffermwyr ag iechyd meddwl gwael i "siarad am sut maen nhw'n teimlo" a hynny ddegawd ar ôl i elusen gael ei sefydlu yn enw ei thad.
Cafodd Sefydliad DPJ - elusen sy'n cefnogi ffermwyr Cymru - ei sefydlu yn 2016 wedi marwolaeth Daniel Picton-Jones, drwy hunanladdiad.
Mae'r sefydliad wedi helpu 3,000 o bobl yn y tair blynedd diwethaf yn unig, yn ôl ei ferch Mali Picton-Jones.
Dywedodd Mali fod "iechyd meddwl ddim yn rhywbeth sy'n cael ei drafod gymaint yn y gymuned ffermio".

Mali yn ifanc gyda'i mam Emma Picton-Jones
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, o faes Sioe Amaethyddol Sir Benfro, dywedodd Mali: "Yn 2016, collais fy nhad i iechyd meddwl gwael.
"10 mlynedd yn ôl doedd dim digon o gefnogaeth so penderfynodd fy mam i sefydlu DPJ a'r flwyddyn yma ni'n dathlu 10 mlynedd o'r DPJ.
"Ni'n cadw mynd i helpu pobl yn y gymuned amaethyddiaeth. Dydi iechyd meddwl ddim yn rhywbeth sy'n cael ei drafod gymaint yn y gymuned ac mae'r sefydliad wedi bod yn trio helpu pobl i siarad am sut maen nhw'n teimlo.
"Mae'n bwysig iawn bod pobl, ffermwyr neu ddim, yn siarad."
Helpu dros 3,000 o bobl yn y tair blynedd diwethaf
Dywedodd bod y sefydliad bellach yn anfon lori â chwnselydd ynddi i ddigwyddiadau amaethyddol ar draws y wlad.
"Mae ein cwnselydd a lori'n mynd mas i'r mart sy'n rhoi stafell all pobl fynd i siarad ac am checks ar gyfer pethau fel blood pressure," meddai.
"Ni wedi helpu dros 3,000 o bobl yn y tair blynedd diwethaf a ni'n cael ail lori aeth mas ar ddechrau'r flwyddyn yng ngogledd Cymru."

Mae Mali'n hapus i drafod profiad ei theulu ei hun er mwyn helpu eraill
Dywedodd ei bod yn bwysig "nad yw pobl yn teimlo ar ben eu hunain" a'i bod yn awyddus i bobl ifanc wybod "pa mor bwysig ydy siarad" am iechyd meddwl.
Ychwanegodd ei bod yn hapus i siarad am ei phrofiadau ei hun o golli ei thad achos "mae'n rhywbeth da i allu rhannu ein stori a dangos beth sy'n gallu digwydd".
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2020

- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2022

- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2022
