Beiciwr modur wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ym Mhowys

A4067 CraiFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A4067 ger Crai

  • Cyhoeddwyd

Mae beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn ne Powys.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod wedi derbyn adroddiad o wrthdrawiad rhwng Citroen Berlingo gwyn a beic modur Kawasaki coch ar yr A4067 ger Crai am 11:45 fore Mercher.

Bu farw'r beiciwr modur yn y fan a'r lle er gwaethaf ymdrechion parafeddygon, meddai'r llu.

Mae teulu'r beiciwr modur wedi cael gwybod a'n cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

Dywedodd y llu eu bod yn cynnal ymchwiliad i'r gwrthdrawiad, gan annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig