Cyfieithu neges heddwch yr Urdd i 75 o ieithoedd

Mae sêr pêl-droed Cymru - Ffion Morgan, Rubin Colwill, Angharad James-Turner, Dylan Lawlor a Carrie Jones - yn ymddangos yn fideo hyrwyddo neges heddwch yr Urdd eleni
- Cyhoeddwyd
Mae Angharad James a Rubin Colwill ymhlith y pêl-droedwyr rhyngwladol sydd wedi datgan neges heddwch yr Urdd, a hynny mewn cerdd wedi ei chyfieithu i 75 iaith.
Eleni mae neges Heddwch ac Ewyllys Da y mudiad yn canolbwyntio ar ieithoedd lleiafrifol, a bod "heddwch yn siarad pob iaith".
Mae'r cyfeithiadau'n cynnwys nifer o ieithoedd sy'n cael eu siarad mewn rhannau o'r byd ble mae gwrthdaro ar hyn o bryd - gan gynnwys Arabeg, Hebraeg, Ffarsi, Cwrdeg, Rwseg ac Wcraneg.
Cafodd yr ymgyrch eleni ei lansio yn Camp Nou, stadiwm FC Barcelona – clwb pêl-droed sy'n hanesyddol wedi bod yn rhan ganolog o'r frwydr dros iaith a diwylliant Catalunya.
Dros 20,000 yn dysgu Cymraeg y llynedd wrth i niferoedd dyfu eto
- Cyhoeddwyd17 Mawrth
Yr iaith Gernyweg 'ar drothwy llwyddiant o'r diwedd' - prifardd
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2025
Mae neges heddwch yr Urdd yn ymestyn yn ôl dros ganrif pan sefydlwyd y mudiad yn 1922, ac yn aml yn trafod materion byd eang o bwys.
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae'r themâu wedi cynnwys tlodi plant, gwrth-hiliaeth, yr argyfwng hinsawdd, a chydraddoldeb i ferched.
Eleni mae'r pwyslais ar ieithoedd – ac yn enwedig ar gynnal ieithoedd lleiafrifol, rhanbarthol a brodorol.
"Ers dros ganrif, mae'r Urdd yn grymuso pobl ifanc Cymru i siarad allan ynghylch materion mwyaf dybryd y byd," meddai prif weithredwr y mudiad, Siân Lewis.

Bu disgyblion o Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam yn rhan o'r broses o lunio'r neges heddwch, ochr yn ochr â'r bardd Marged Tudur (chwith pellaf)
"Mae lansio neges eleni o Camp Nou Spotify yn symbol pwerus o undod rhyngwladol rhwng ieithoedd lleiafrifol.
"Rydyn ni'n dangos y gall cymunedau ieithyddol bach greu llais cyfunol enfawr, a phan fydd ieithoedd yn ffynnu, mae cyfle i heddwch."
Mae tua 60-75% o boblogaeth y byd yn gallu siarad mwy nag un iaith, yn ôl amcangyfrifon.
Ond o'r 7,000 o ieithoedd sy'n cael eu siarad, mae arbenigwyr yn rhagweld y gallai hanner ohonyn nhw gael eu colli erbyn diwedd y ganrif.
Roedd y Cyfrifiad diwethaf yn dangos bod 538,000 o siaradwyr Cymraeg, ond dydy'r ffigwr hwnnw ddim yn cynnwys y rheiny sy'n medru'r iaith ac yn byw y tu allan i Gymru.
Cyhoeddi enwau Llywyddion Anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn
- Cyhoeddwyd28 Ebrill
Afonydd a thraethau Môn yn ysbrydoli Cadair a Choron yr Urdd
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
Galw ar bob Gruff, Griff a Gryff i Faes Eisteddfod Yr Urdd 2026
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Fe wnaeth yr Urdd weithio gyda disgyblion uwchradd o Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam ar neges heddwch 2026.
Ymhlith yr ieithoedd sydd wedi cael cyfieithiad mae rhai Celtaidd eraill, gan gynnwys Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban, Cernyweg, Manaweg a Llydaweg.
Mae'r gerdd hefyd ar gael yn Iaith Arwyddo Prydain, ac mewn West Riding – tafodiaith Saesneg sy'n cael ei siarad yn rhannau o sir Efrog.
Ymlith yr ieithoedd lleiafrifol Ewropeaidd mae'r Fasgeg a'r Gatalaneg, yn ogystal â Guernesiais a Jerriaise – ieithoedd o Ynysoedd y Sianel.

Y gerdd eleni, sydd bellach wedi ei chyfieithu i 75 o ieithoedd
Mae'r neges hefyd wedi cael ei chyfieithu i rai o ieithoedd fwyaf cyffredin y byd, gan gynnwys Saesneg, Ffrangeg, Sbaeneg a Tsieineeg.
Dywedodd yr Urdd eu bod nhw'n awyddus i "atgoffa arweinwyr byd a dinasyddion fel ei gilydd bod diogelu amrywiaeth ieithyddol yn ddull hanfodol o feithrin heddwch".
"Braint oedd cael gweithio gyda phobl ifanc Wrecsam i lunio'r neges hon," meddai'r bardd Marged Tudur.
"Maen nhw'n gweld bod ieithoedd lleiafrifol yn hanfodol er mwyn adeiladu heddwch ac er mwyn gallu dod i ddeall ein hunain, ein gilydd a'r byd yn well."

Dywedodd yr Urdd fod eu neges eleni "yn ein hatgoffa bod heddwch yn cael ei adeiladu ar empathi, ar barch, ac ar ddiogelu hunaniaeth ddiwylliannol"
Pêl-droedwyr rhyngwladol Cymru – Angharad James-Turner, Ffion Morgan, Carrie Jones, Rubin Colwill and Dylan Lawlor – yw'r rhai sy'n darllen y gerdd mewn fideo i hyrwyddo'r neges.
Roedd Ffion Morgan ymhlith y ddirprwyaeth oedd yn Barcelona i lansio'r neges – un mae'r Urdd yn gobeithio fydd yn cyrraedd 40m o bobl ar draws y byd.
"Fel siaradwr Cymraeg ac athletwr, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw hi i fod yn falch o'ch gwreiddiau wrth gysylltu gyda'r byd ehangach," meddai.
"Mae rhannu'r neges yma o leoliad byd-eang eiconig fel Camp Nou Spotify yn dangos bod pobl ifanc yn barod i arwain y sgwrs.
"Mae heddwch yn siarad pob iaith, ac mae pobl ifanc Cymru yn gofyn i'r byd wrando."