Ofnau am ddyfodol AI yn 'achosi i mi fod eisiau dianc i ryw ynys'

Mae James Downs yn ymgyrchydd iechyd meddwl sy'n rhannu ei brofiadau personol yn y gobaith o helpu pobl eraill
- Cyhoeddwyd
Ers y penawdau diweddar am honiadau y gallai deallusrwydd artiffisial (AI) arwain at ddifodiant y ddynolryw, mae James Downs wedi teimlo'n gynyddol bryderus.
"Mae'n gwneud i mi deimlo bron yn ddi-rym... be alla' i wneud fel unigolyn?" meddai'r ymgyrchydd iechyd meddwl 37 oed o Gaerdydd, sydd bellach yn edrych ar ei ffôn yn amlach am ragor o newyddion.
"A'r mwyaf 'dach chi'n edrych arno, y mwyaf y mae eich sylw'n cael ei ddenu gan betha' negatif neu ddychrynllyd ac mae pethau'n gallu ymddangos yn waeth ac yn waeth."
Yn gynharach y mis hwn, fe rybuddiodd uwch ymchwilydd diogelwch gyda chwmni Anthropic fod AI yn datblygu mor gyflym nes ei fod yn credu bod dros 10% o siawns y gallai "lladd pob bod dynol" o fewn y 10 mlynedd nesaf.
Mewn ymateb, dywedodd y gwyddonydd cyfrifiadurol a'r enillydd Wobr Nobel Geoffrey Hinton, sy'n cael ei alw'n "dad bedydd AI", wrth y BBC fod yr honiad "ddim yn afresymol".
Ddydd Mawrth, yn sgil pryderon cynyddol ymhlith y cyhoedd ynghylch y risgiau, dywedodd pennaeth cwmni OpenAi, sy'n gyfrifol am ChatGPT, y dylai pobl fod â mwy o ffydd yng ngallu cwmnïau AI i gadw'r dechnoleg yn ddiogel.

Mae James yn dweud ei fod yn ceisio cymysgu gyda ffrindiau gymaint â phosib er mwyn delio gyda'i bryderon
Mae James yn gwella wedi diagnosis o anorecsia, gorbryder ac iselder yn ei arddegau, ond mae'r penawdau diweddar wedi rhoi rhywbeth newydd iddo boeni yn ei gylch ar ben yr argyfwng hinsawdd, costau byw, gwrthdaro ar draws y byd a bygythiadau niwclear.
"Ni alla'i ddianc rhag y pryder 'ma yn y cefndir ynghylch y dyfodol. A fydda i'n iawn? A fydd y blaned yn iawn? A fydd fy sefyllfa ariannol yn iawn? Yr holl bethau gwahanol yma o'r pethau mawr dirfodol... i'r pethau bob dydd.
"Mae bron yn gwneud i mi fod eisiau rhoi lan ar geisio gwneud gwahaniaeth positif yn y byd, neu i fod eisiau rhedeg bant, byw fel nomad neu rywbeth, byw ar ynys rywle heb unrhyw dechnoleg, ond dyw hynny ddim yn ateb cynaliadwy 'chwaith."

Yn ôl y seicotherapydd Lucy Theo, mae ei chleientiaid yn aml yn sôn am bryderon yn ymwneud ag AI
Nid James yn unig sy'n teimlo fel hyn.
Dywed Lucy Theo, seicotherapydd o Dresimwn, Bro Morgannwg, bod cleientiaid yn crybwyll y newyddion diweddar am AI yn ystod sesiynau therapi.
"Mae'n dwysáu systemau nerfol pobl braidd, sydd eisoes yn tynnu ar hyd eu tennyn wedi Covid," meddai.
Mae cleientiaid, meddai, ers sbel yn trafod ofnau am effeithiau posib AI ar bethau fel preifatrwydd a diogelwch swyddi ac mae'r penawdau diweddaraf yn "dwysáu teimlad cyffredinol o ddiffyg sefydlogrwydd".
"Mae ofn marw yn gyffredin iawn a gall groesi i'r synnwyr o 'bwy ydw i? Beth yw'r ffordd ymlaen? Sut fydd pethau i mi ar ddiwedd fy mywyd?'"

Dywed Luke Brown ei fod yn sgeptig wrth ddarllen newyddion am ddatblygiad AI - mae ei wraig, Chelsea yn poeni am oblygiadau posib y dechnoleg ar fywydau eu plant ifanc
Wrth holi pobl ar Ynys Y Barri, roedd yr ymateb yn estyn o amheuaeth i bryder.
Roedd Chelsea Brown, 31, a'i gŵr Luke Brown, 32, wedi mynd am dro gyda'u babi newydd.
"Rwy'n nerfus ond hefyd yn amheuol gan fod arweinwyr cwmnïau AI yn dweud pethau pan mae'n eu siwtio nhw," meddai Luke, sy'n gweithio yn y byd technoleg.
"Mae'n bosib fy mod i'n trio bod yn fwy cyffyrddus yn ei gylch, ond rwy' yn amheuol achos maen nhw'n dweud pethau i hybu eu stoc neu siwtio'u hagenda."
Trwy ddefnyddio AI wrth ei waith mae wedi gweld pa mor gyflym y mae'n datblygu.
"Mae'n codi ofn arna'i ond rwy'n ymdopi trwy edrych ar y newyddion gyda synnwyr o sgeptigaeth," meddai.
Yr hyn sy'n poeni Chelsea, sy'n gweithio yn y byd marchnata, yw cyflymder datblygiadau a'r goblygiadau i'w babi newydd a'u plentyn pedair oed.
"Mae gen i gryn bryder amdano. 'Dan ni'n siarad amdano eithaf tipyn... mae'n frawychus," meddai.
"Rwy' wir yn gobeithio y daw rheoliadau'n llawer cynt nag yn achos y cyfryngau cymdeithasol. Sa' i'n gwybod pam fod y broses rheoleiddio mor araf."

Dywed Susan Harvey bod y penawdau diweddar ynghylch AI wedi bod yn "eitha' dychrynllyd"
Dywedodd Susan Harvey, nain i bump, ei bod wedi mynd am drio i glirio'i phen a dianc rhag y newyddion.
"Mae'n eitha' dychrynllyd," meddai.
"Mae'r straeon yn swnio'n eithafol ac rwy'n poeni dros fy wyrion. Rwy'n meddwl bod popeth mas o reolaeth."
Serch teimlo'n ddi-rym, mae hi hefyd yn gymharol optimistaidd.
"Mae pethau yn newid, mae pobl yn gynyddol ag agwedd 'gadewch i ni sefyll lan i hyn a gwneud rhywbeth'."
Dywed Coleg Brenhinol y Seiciatryddon y gallai datblygiad cyflym AI "yn naturiol beri pryder i rai pobl".
Dywedodd y cadeirydd, Yr Athro Alka Ahuja: "Fel yn achos unrhyw newid technolegol sylweddol, gallai pobl deimlo'n ansicr ynghylch y dyfodol a'r hyn y gallai ei olygu i'w bywydau."
Mae'n cynghori ceisio osgoi cynnwys sy'n creu dychryn, trafod pryderon gyda ffrindiau a pherthnasau a gofyn am gymorth meddyg teulu os yw gorbryder yn dechrau amharu ar fywyd bob dydd, lles neu berthnasau.
Sut mae lleihau pryderon?
Dywed Neil Ingham, cyfarwyddwr gweithredol Samariaid Cymru: "Mae'r penawdau yma'n effeithio ar bawb ac yn gallu creu pryder a gwneud i bobl deimlo bod dim rheolaeth gyda nhw."
Mae 'na gamau, meddai, i leihau gorbryder.
Curadu llif cyfrifon cyfryngau cymdeithasol: "Gallwn ddewis pwy ry'n ni'n eu dilyn, neu ddim yn dilyn, pa fath o ffynonellau newyddion ry'n ni'n ymddiried ynddyn nhw a pwy ry'n ni'n dewis i'w hanwybyddu a'u gwneud yn fud. Gallwn hefyd ddewis pa alerts sy'n ymddangos ar ein ffôn."
Ystyriwch pa bryd rydych yn darllen y newyddion: "Os yw eich ffôn wrth eich gwely, wrth ddeffro ry'ch chi'n codi'r ffôn ac os yw'r diwrnod yn dechrau gyda darllen am straeon newyddion mawr byd-eang neu stori am AI dydych chi ddim wir yn rhoi cyfle i chi'ch hun setlo i mewn i'r diwrnod. Yn yr un modd, os taw'r peth olaf ry'n ni'n gwneud cyn mynd i gysgu yw darllen straeon newyddion cymhleth a allai fod yn frawychus, dy'n ni ddim yn rhoi'r siawns ora; i ni lonyddu ar ddiwedd y dydd a chael noson dda o gwsg."
Gadewch eich ffôn mewn ystafell wahanol: "Defnyddiwch rhywbeth arall fel cloc larwm."
Osgowch gorlwytho gwybodaeth: "Ein greddf gyda'r straeon hyn yw chwilio am fwy o wybodaeth, darllen mwy, dysgu mwy - fe allai hynny ein harwain at golli ein hunain yn y straeon yma a gwneud hi'n wirioneddol anodd i gael persbectif."
Mae'n dda i siarad: "Os rydych yn eistedd a siarad gyda rhywfaint o bobl amdano, mae'n bosib eich bod yn rhannu rhai pryderon ac mae'n debyg y cewch rywfaint o bersbectif defnyddiol."
Os yw cynnwys yr erthygl yma wedi cael effaith arnoch chi, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Awst

- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
