Rhaid 'esblygu' i ddelio ag AI - Prif Weithredwr yr Eisteddfod

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses bod AI yn "esblygu ond mae'n rhaid i ni fel corff esblygu hefyd"
- Cyhoeddwyd
Mae'n rhaid i'r Eisteddfod "esblygu" er mwyn mynd i'r afael â datblygiad "parhaus" deallusrwydd artiffisial (AI), yn ôl prif weithredwr y brifwyl.
Mae AI wedi bod yn bwnc llosg ar y maes wedi i feirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen ddweud eu bod yn credu i un o'r ymgeiswyr ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn eu gwaith.
Dywedodd yr awdur, Romy Wood o Gaerdydd, wrth BBC Cymru ddydd Iau nad oedd hi wedi defnyddio AI i ysgrifennu'r nofel.
Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses bod y dechnoleg yn "esblygu ond mae'n rhaid i ni fel corff esblygu hefyd", a bod yr Eisteddfod yn cydweithio gydag arbenigwyr i "edrych ar ffyrdd o wirio os oes 'na batrymau" AI mewn gwaith ymgeiswyr.
Cadeirio'r prifardd fydd prif seremoni'r Eisteddfod ddydd Gwener
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Cywaith rhwng dwy yn dod i'r brig yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Beirniaid yr Eisteddfod yn 'sarhaus' drwy ddisgrifio nofel awdur fel un gan AI
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd Betsan Moses bod proses yng nghanllawiau presennol yr Eisteddfod o ran canfod olion AI a bod camau'n cael eu cymryd wrth i'r dechnoleg barhau i ddatblygu.
"Mae 'na yn ein canllawiau ni, os yw rhywun yn dod i'r brig a bod 'na farc cwestiwn mae rhywun yn gallu gofyn am gymorth ac mae'n mynd at gyfreithwyr ac mae'r cyfreithwyr yn siarad gydag arbenigwyr," meddai.
"Ni'n ymwybodol bod y dechnoleg yn datblygu'n barhaus. Mae 'na golegau a phrifysgolion sy'n edrych ar ffyrdd o wirio os oes 'na batrymau sy'n golygu ei fod o'n fwy na thebyg yn AI ac ni'n cydweithio a'n trafod gyda rheina."
Ychwanegodd mai'r "gobaith mawr yw wrth i'r dechnoleg gynorthwyo pobl, bo fe ddim yn tynnu oddi ar greadigrwydd gwreiddiol".
"Felly mi fydd 'na elfen arall o bobl yn gwirio bod 'na edrych bo chi'n gallu darganfod y patrymau yna.
"Mae'n esblygu ond mae'n rhaid i ni fel corff esblygu hefyd ond mae pawb allan yna yn gorfod ymgodymu â hyn. Y peth pwysig yw fod ni'n cydweithio a bod yr arbenigwyr ar y daith gyda ni."
Dywedodd Romy Wood bod beirniadaeth o'i gwaith yn teimlo fel 'cael fy eithrio'
Wedi dysgu Cymraeg yn Nant Gwrtheyrn mae Romy Wood, a ysgrifennodd y nofel a chafodd ei gosod "ar waelod y pentwr" gan feirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen.
Yn siarad am bwysigrwydd Maes y Dysgwyr fel un o ardaloedd yr Eisteddfod, dywedodd Betsan Moses ei fod yn "gyrchfan yn ei hun" gydag "arlwy mor odidog" sy'n denu siaradwyr oes yn ogystal â siaradwyr newydd.
"Mae hwnna'n holl bwysig," meddai.
Wrth gael ei holi am y posibilrwydd o greu cystadlaethau cadair a choron i ddysgwyr, dywedodd:
"Mae'r holl bentrefi 'ma yn Steddfod fach, yn fini Steddfod ynddyn nhw ei hun. Bydd y pwyllgor canolog yn edrych a'n gwirio a'n dweud 'ydi hyn yn gyfle?'.
"Ni yn edrych ar bob adran, beth yw'r cystadlaethau, ydyw e'n briodol, oes angen newid, beth sydd falle ar goll, ac maen nhw'n gallu cyflwyno'r rheina ac yna fydd diwylliannol yn trafod."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.