Galw am 'isafswm cyflog i robotiaid' i arafu colli swyddi oherwydd AI

Robot a chorff coch a coesau du yn cyrraedd diwedd hanner marathon yn China yn gynharach eleni. Y tu ol i'r robot mae'r hewl yn glir. Ar y tap sy'n nodi diwedd y ras mae ysgrifen mewn sgript Chineaidd ar ruban las.Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ddiweddar fe dorrodd robot record y byd am yr hanner marathon, ond mae pryderon na all gwleidyddion gadw i fyny â chyflymder y newid ym myd gwaith oherwydd AI

GanHuw Thomas
Gohebydd busnes
  • Cyhoeddwyd

Mae pennaeth cwmni technoleg Cymreig wedi rhybuddio nad yw gwleidyddion wedi paratoi ar gyfer effaith deallusrwydd artiffisial (AI) ar weithleoedd, gan alw am "isafswm cyflog" i robotiaid er mwyn arafu colli swyddi.

Dywedodd Charles Radclyffe nad yw gwleidyddion yn deall cyflymder a graddfa'r newid.

Byddai treth ar weithwyr AI robotig a digidol yn helpu i leddfu effeithiau mabwysiadu technoleg AI mewn rhai meysydd lle gallai swyddi ddiflannu, meddai.

Dywedodd Llywodraeth y DU y byddan nhw "monitro" effaith AI ac yn "gweithredu'n gyflym wrth i'r economi newid", tra bod llawer o bleidiau sy'n sefyll yn etholiad y Senedd yn cefnogi defnydd cyfrifol o AI.

Charles Radclyffe yn gwenu, dyn canol-oed gyda barf llwydaidd ac yn gwisgo crys gwyn. Mae'n eistedd mewn ystafell sydd gyda wal gwyrddlas y tu ôl iddo fe.
Disgrifiad o’r llun,

Dydy gwleidyddion ddim yn ymddangos fel eu bod yn paratoi ar gyfer sgil-effeithiau gwaethaf y dechnoleg, yn ôl Charles Radclyffe

Mae cwmni Mr Radclyffe wedi datblygu technoleg sy'n awtomeiddio gwaith gweinyddol fel llenwi ffurflenni.

Mae'r gwaith yn cael ei gwblhau'n llawer cyflymach, ac yn rhatach, na gan staff dynol.

"Bob tro rydyn ni'n bilio [am fis o waith AI], mae hynny'n swydd o'r economi sydd wedi'i symud i ganolfan ddata," meddai.

Mae rhai tasgau fel mewnbynnu data - a fyddai wedi cymryd hyd at bythefnos i'w cwblhau â llaw mewn un busnes - bellach yn cael eu cyflawni mewn 20 eiliad, yn ôl Mr Radclyffe.

"I gwmnïau mawr efallai y bydd gennych chi hyd yn oed adran o bobl, a'u gwaith yw i ddelio â'r ceisiadau hyn, ac yna bydd ganddyn nhw restr dasgau a bydden nhw'n mynd drwyddi," meddai.

Mae'r math yma o dasgau yn "batrwm perffaith" ar gyfer AI, meddai Mr Radclyffe, gan arwain at "broses llawer byrrach, llawer llai poenus" unwaith y bydd y dechnoleg yn cael ei defnyddio.

'Dim cynllun yn barod i fynd'

Wrth ei holi am yr ymateb gwleidyddol i gyflymder y newid, dywedodd Mr Radclyffe ei bod yn "rhyfeddol sut nad oes gennym ni gynllun, yn barod i fynd, rhag ofn i rai o'r proffwydoliaethau gwaethaf... ddod yn wir."

Er nad yw'r cwmnïau sy'n defnyddio AI o reidrwydd yn torri swyddi ar hyn o bryd, dywedodd Mr Radclyffe fod llawer yn cyflogi llai o staff newydd o ganlyniad.

Rhybuddiodd am ddyfodol lle gallai rhai pobl fod allan o waith "am weddill eu hoes".

Byddai "isafswm cyflog i robotiaid" i reoli'r newid yn rhoi'r gallu i "gyfyngu ar fabwysiadu AI... a chreu tegwch", meddai.

Rhybuddiodd, heb weithredu brys, fod ardaloedd fel de Cymru mewn perygl o ailadrodd cyfnodau poenus diwydiannol o'r gorffennol.

"Os edrychwch chi o ddifrif ar yr unigolion sy'n wynebu'r newid hwn nawr, byddwn i'n dweud bod gweithwyr 'coler wen' mewn lleoedd fel Caerdydd yn darged amlwg i AI.

"Rwy'n credu bod hon yn broblem ddifrifol iawn."

Protestwyr ar y stryd yn Llundain, rhai ohonynt gyda baneri. Tuag at flaen y llun mae baner wedi'i ysgrifennu a llaw sy'n dweud "Regulate AI, Keep our future HUMAN"Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn gynharach eleni bu protestiadau y tu allan i gwmnïau technoleg yn Llundain i geisio arafu effaith AI ar swyddi

Mewn ymateb i alwadau Radclyffe am dreth, neu "isafswm cyflog", ar AI, dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys eu bod wedi "ymrwymo i helpu pobl sy'n gweithio i elwa o AI" a'i fod yn creu "Sefydliad Economeg AI newydd i fonitro effeithiau a sicrhau y gallwn weithredu'n gyflym wrth i'r economi newid".

Beth yw barn y pleidiau?

Mae Llafur yn canolbwyntio ar ddefnyddio AI i dorri biwrocratiaeth yn y sector cyhoeddus ac adeiladu "seilwaith digidol", gan gyfeirio at y "Parthau Twf AI" newydd yng Nghymru i gefnogi defnydd ehangach.

Bydden nhw'n ariannu arloesedd trwy gynllun grantiau, ac mae Llafur am osod Cymru fel arweinydd mewn "AI moesegol" gyda Siarter AI Cyfrifol newydd.

Mae Plaid Cymru hefyd yn tynnu sylw at dwf a chynhyrchiant, ond yn rhoi mwy o bwyslais ar sgiliau, mewnbwn gan weithwyr a strategaeth ddiwydiannol.

Byddai eu cynllun i greu asiantaeth datblygu genedlaethol yn cefnogi'r twf mewn sgiliau digidol, ac yn sicrhau bod mabwysiadu AI yn cael ei "arwain gan weithwyr" ac yn amddiffyn hawliau.

Mae'r Ceidwadwyr hefyd yn pwysleisio potensial AI i dyfu'r economi, yn enwedig wrth foderneiddio'r GIG a gwella gwasanaethau.

O ran mesurau diogelwch, mae'r blaid yn dadlau y dylai AI "wella yn hytrach na disodli gwaith dynol", a'i fod yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd sy'n amddiffyn swyddi a sgiliau.

Mae Reform UK yn cymryd safbwynt mwy gofalus, gan ddweud y gallai AI chwarae rhan wrth wella systemau digidol yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru, ond dim ond lle mae wedi'i "brofi i fod yn ddiogel ac yn effeithiol".

Doedd dim ymateb i geisiadau am sylwadau gan y Democratiaid Rhyddfrydol na'r Blaid Werdd.

Cerbyd robotig a gwddwg gwyn tal, gyda wyneb giraffe wedi'i gludo i'r pen. Mae gweithiwr mewn trowsus tywyll a chrys glas golau yn cerdded wrth ymyl y cerbbyd. Yn y cefndir mae llwybr llwyd a llinellau melyn sy'n dangos y ffordd i'r robot.
Disgrifiad o’r llun,

Mae robotiaid a thechnoleg AI yn rhan annatod o'r gweithle yn ffatri British Rototherm ger Port Talbot

Yn British Rototherm, cwmni sy'n cynhyrchu synwyryddion diwydiannol ar Ystâd Ddiwydiannol Cynffig ger Port Talbot, mae AI ac awtomeiddio eisoes yn ail-lunio sut mae'r gwaith yn cael ei wneud.

"Dechreuon ni'n fach… arbrofi, meithrin hyder, ac yna ehangu gam wrth gam," meddai'r rheolwr gyfarwyddwr Oliver Conger.

Mae'r cwmni'n dylunio ac yn cynhyrchu offerynnau manwl i fesur tymheredd, pwysedd, lefel a llif.

Mae'n cyflenwi cwsmeriaid mewn tua 90 o wledydd ledled y byd.

Dywedodd Mr Conger ei fod bellach yn rhedeg ffatri lle mae "AI ac awtomeiddio [yn gweithio] law yn llaw â'n gweithwyr dynol".

Ychwanegodd fod y dull wedi arwain at enillion sylweddol i'r cwmni, gyda chynhyrchiant yn cynyddu mwy na 20% dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a'i fod yn disgwyl gwelliannau pellach i ddod.

Oliver Conger yn sefyll yn ei ffatri. Gwallt tywyll a barf, mae'n gwisgo crys glas golau gyda logo ei gwmni ar ei frest.
Disgrifiad o’r llun,

Bydd awtomeiddio a thechnoleg AI yn "trawsnewid" gweithgynhyrchu yn llwyr yn y blynyddoedd nesaf, yn ôl Oliver Conger

Dyw'r ffocws yn y ffatri ddim ar ddisodli gweithwyr, meddai, ond yn hytrach bod angen newid natur rhai swyddi.

"Mae rolau'n newid, ac fel busnes mae'n rhaid i ni gefnogi aelodau ein tîm drwy hynny."

Wrth awtomeiddio gwaith rhai o'r staff, maen nhw wedi cael cyfle i ennill sgiliau newydd ac i weithio mewn meysydd eraill o'r busnes, meddai Mr Conger.

Ar y ddadl ehangach ynghylch cynyddu'r rheoleiddio o AI, mae Mr Conger yn fwy gofalus na rhai yn y diwydiant.

Wrth gydnabod y drafodaeth ehangach am drethu, dywedodd: "Dydw i ddim yn credu ei bod hi'n bryd rhoi unrhyw beth mewn polisi… Ry'n ni yn y camau cynnar iawn. Gadewch i ni annog y defnydd ohono."

Mae o'r farn y dylai llywodraethau flaenoriaethu cefnogi mabwysiadu AI.

Dywedodd Mr Conger y gallai technoleg AI "drawsnewid gweithgynhyrchu Cymru yn llwyr yn y ddwy i dair blynedd nesaf," a bod angen cefnogaeth wleidyddol i reoli'r newid hwnnw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig