Cneifio 3,282 o ŵyn i godi arian er cof am anwyliaid

Dywedodd Ollie Morgan ac Iwan Hughes y buon nhw'n cneifio am 33 awr i gyd
- Cyhoeddwyd
Mae dau ffermwr o ogledd Powys wedi cwblhau her gneifio eithriadol dros y penwythnos i godi arian er cof am ddau o'u hanwyliaid.
Dywedodd y ddau, Ollie Morgan o Langynog ac Iwan Hughes o Ben-y-bont-fawr eu bod wedi bod yn cneifio am 33 awr i gyd, gan ddechrau am 07:00 fore Gwener a gorffen am 16:00 drannoeth.
Cafodd 3,282 o ŵyn eu cneifio - ffigwr uwch na'r disgwyl - ac mae'r ddau'n gobeithio codi tua £20,000.
Roedd y digwyddiad ar fferm Plas Du ym Mhen-y-bont-fawr yn un "arbennig", meddai'r ddau, gan bwysleisio pa mor wych oedd cefnogaeth y dorf yn y sied.

Roedd y ddau yn codi arian i elusennau Macmillan a Sefydliad DPJ gan fod ewythr Ollie wedi marw o ganser y llynedd a thaid Iwan wedi marw o'r un afiechyd flynyddoedd cyn hynny.
Penderfynon nhw gefnogi elusen DPJ "achos de' ni'n deall pa mor anodd ydy o i ffermwyr, so i ddiolch am help nhw really ac i roi arian n'ôl i'r rhai sydd wedi helpu".
Er bod y ddau'n ffermio adref am gyfnodau o'r flwyddyn, mae Ollie "ar y coed yn y gaea' ac yn cneifio dros yr ha'".
Mae Iwan yn wyna yn yr hydref, yn mynd i Seland Newydd "o Ragfyr i Chwefror" ac yn cneifio yng Nghymru dros yr haf.
Yn ffodus, esboniodd y ddau eu bod "ddim yn rhy stiff" ar ôl cwblhau'r her!

Y ddau yn cael hoe ar ôl gorffen yr her
Dywedodd Ollie, 24, wrth Cymru Fyw fod y gefnogaeth wedi bod yn wych o'r dechrau.
"Naethon ni gael y syniad dros beint, wedyn o'dd realiti'r peth yn hitio y bore wedyn!" meddai'n chwerthin.
"De' ni'n falch iawn bo' ni wedi neud o - o'dd o bron yn overwhelming ar y diwedd - achos o'dd y numbers o'dd wedi troi fyny i wylio reit special.
"O' ti'n cael adrenaline rush - y buzz rownd y lle 'na," ychwanegodd Ollie.

Roedd digonedd o waith lapio gwlân hefyd!
Roedd Iwan, 22, wedi disgwyl i'r her fod yn "anoddach, ond dwi'n meddwl mai'r holl adrenaline oedd o - teulu a ffrindie' wedi gyrru ni 'mlaen yr holl ffordd.
"O'dd 'na weiddi bob tro oedden ni'n nôl dafad! So o'dd hyna reit dda."
Esboniodd eu bod wedi tocio'r wŷn yn barod at y diwrnod mawr wythnos ynghynt, ond mai dim ond 2,700 yr oedden nhw wedi eu paratoi.
"Doedden ni ddim yn disgwyl neud gyment, felly chware' teg i'r ffermwyr lleol am ddod â 'chwaneg o wŷn i ni.
"Fydde' ni ddim wedi gallu neud o hebddyn nhw."
Ychwanegodd Iwan fod y ddau ohonyn nhw wedi cysgu'n dda "ar ôl y dathlu".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd22 Mehefin

- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf
