Pardwn i'r Gymraes oedd y ddynes olaf i gael ei chrogi ym Mhrydain

Ruth Ellis oedd y fenyw olaf i gael ei chrogi yn y Deyrnas Unedig yn 1955
- Cyhoeddwyd
Mae Ruth Ellis, y fenyw olaf i gael ei chrogi yn y Deyrnas Unedig, wedi cael pardwn amodol ar ôl 70 mlynedd.
Dywedodd Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd Cyfiawnder llywodraeth y DU, David Lammy, fod y Brenin wedi derbyn cyngor y llywodraeth i roi'r pardwn, yn dilyn cais gan bedwar o wyrion ac wyresau Ruth Ellis.
Wrth roi'r pardwn dywedodd y llywodraeth ei fod yn cydnabod bod amgylchiadau eithriadol yr achos, gan gynnwys tystiolaeth o gam-drin domestig ac ymddygiad rheolaethol a gorfodol, yn debygol o gael eu hystyried yn wahanol heddiw.
Yn ôl y llywodraeth, roedd y cais yn dadlau bod cyfrifoldeb Ruth Ellis am y drosedd wedi'i lunio'n sylweddol gan flynyddoedd o gamdriniaeth, trawma ac amgylchiadau na chafodd eu cydnabod yn briodol yn ystod ei hachos yn 1955.
Mae pardwn amodol yn golygu bod ei dedfryd marwolaeth yn cael ei disodli gan ddedfryd o garchar am oes, ond nid yw'n diddymu'r euogfarn am lofruddiaeth.

Cafodd Ruth Ellis ei dienyddio ar ôl cael ei chanfod yn euog o lofruddio ei chariad, David Blakely
Cafodd Ruth Ellis ei geni yn y Rhyl ym 1926 cyn i'w theulu symud i Lundain yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Ar 10 Ebrill 1955 saethodd ei chariad, David Blakely, yn farw y tu allan i dafarn Magdala yn Llundain.
Roedd Ruth Ellis wedi dweud ei bod wedi dioddef cam-drin gan Blakely cyn ei farwolaeth, ond ni chafodd tystiolaeth o effaith y gamdriniaeth honno ei hystyried yn y ffordd y byddai o dan gyfraith heddiw.
Cafodd ei chanfod yn euog o lofruddiaeth a'i chrogi ar 13 Gorffennaf 1955 yn 28 oed, gan ddod y fenyw olaf i gael y gosb eithaf yn y Deyrnas Unedig.
Ruth Ellis: Y fenyw olaf i gael ei chrogi ym Mhrydain
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2025
Nic Parry: Stori Ruth Ellis yn 'ysgytwol'
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2025
Yn 1965 cafodd y gosb eithaf am lofruddiaeth ei diddymu ym Mhrydain.
Dywedodd y llywodraeth y byddai cyfreithiau heddiw wedi gallu caniatáu i amddiffyniadau fel colli rheolaeth neu gyfrifoldeb llai gael eu hystyried gan reithgor, ac a allai fod wedi lleihau ei heuogfarn o lofruddiaeth i ddynladdiad.
Dywedodd David Lammy: "Ni allwn newid yr hyn a ddigwyddodd 70 mlynedd yn ôl, ond gallwn gydnabod bod hwn yn achos eithriadol.
"Mae pardwn amodol heddiw yn weithred o drugaredd."
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y byddai'r pardwn yn dod â "rhywfaint o heddwch" i deulu Ruth Ellis.

Dywedodd Laura Enston fod y pardwn yn golygu bod "cyfiawnder wedi'i wneud o'r diwedd" i'w mam-gu
Dywedodd ei hwyres, Laura Enston, fod y penderfyniad yn golygu bod "cyfiawnder wedi'i wneud o'r diwedd" i'w mam-gu.
"Nid yw'r pardwn hwn yn dadwneud yr hyn a ddigwyddodd 71 mlynedd yn ôl.
"Nid yw'n adfer y bywydau a ddinistriwyd - y plant a adawyd ar ôl, y blynyddoedd a gollwyd.
"Ond mae'n cydnabod yn ffurfiol ac yn derfynol na ddylai Ruth fod wedi cael ei dienyddio a bod y system gyfiawnder wedi ei methu.
"Mae'r gydnabyddiaeth honno'n bwysig iawn i'n teulu.
Ychwanegodd fod Ruth Ellis wedi bod yn "ddioddefwr cam-drin parhaus a chreulon", a bod effaith ei dienyddio wedi cael ei theimlo gan ei theulu am ddwy genhedlaeth.
Dywedodd ei bod yn ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cyfiawnder am "gael y dewrder i weithredu", gan ddweud ei bod yn gobeithio y byddai stori Ruth Ellis yn atgoffa'r system gyfiawnder o'r angen i gydnabod effaith cam-drin ar fenywod, ac i beidio ag ofni cyfaddef pan fo camgymeriadau wedi'u gwneud.