5 peth allwch chi wneud i arbed dŵr wrth i'r galw gynyddu 20%

- Cyhoeddwyd
Mae Dŵr Cymru'n gofyn i gwsmeriaid helpu i leihau'r defnydd o ddŵr wrth i'r galw barhau'n sylweddol uwch na'r arfer yn ystod y tywydd poeth.
Dywedodd y cwmni fod pobl yn defnyddio tua 20% yn fwy o ddŵr nag arfer fis Gorffennaf, gan roi pwysau cynyddol ar y rhwydwaith cyflenwi.
Yn ôl Dŵr Cymru, mae'r galw wedi bod yn uwch na 1 biliwn litr y dydd ers dydd Iau, 9 Gorffennaf.
Mae'r cwmni'n annog pobl i wneud newidiadau bach yn eu defnydd o ddŵr er mwyn helpu i gynnal cyflenwadau os bydd y tywydd sych yn parhau.
Beth allwch chi ei wneud?
Defnyddiwch gan dyfrio yn hytrach na thaenellwr (sprinkler)
I ddyfrio planhigion neu flodau, mae Dŵr Cymru yn awgrymu defnyddio can dyfrio yn lle pibell, ac i ystyried defnyddio casgen ddŵr i gasglu glaw i'w ddefnyddio yn yr ardd.
Gadewch i'r lawnt wella'n naturiol
Mae cyngor i bobl adael lawntydd i wella'n naturiol yn hytrach na defnyddio dŵr i'w dyfrio.
Peidiwch â thorri'r lawnt yn rhy fyr, a defnyddiwch y toriadau ar y gwair i helpu'r pridd i gadw lleithder.
Ailddefnyddiwch ddŵr lle bo modd
Os oes gennych bwll padlo yn yr ardd, gellir defnyddio'r dŵr wedyn i ddyfrio planhigion.
Defnyddiwch ddŵr sydd dros ben ar ôl golchi llestri i olchi eitemau plastig neu wydr cyn eu hailgylchu.
Cadwch ddŵr yn yr oergell
Yn hytrach na rhedeg y tap nes bod y dŵr yn oer, cadwch jwg o ddŵr yn yr oergell.
Maen nhw hefyd yn awgrymu i beidio â gorlenwi'r tegell - berwch y dŵr sydd ei angen arnoch yn unig.
Arhoswch nes bod y peiriant yn llawn
Mae Dŵr Cymru hefyd yn annog pobl i redeg peiriannau golchi dillad a pheiriannau golchi llestri dim ond pan fydden nhw'n llawn.
Defnyddiwch y rhaglen 'eco' ar y peiriant golchi llestri os oes un ar gael.

Dywedodd Prif Swyddog Cwsmeriaid Dŵr Cymru, Kit Wilson, bod trydedd ton wres eleni wedi arwain at bobl yn defnyddio llawer mwy o ddŵr ac am gyfnodau hirach drwy'r dydd.
Ychwanegodd fod timau'r cwmni'n "gweithio rownd y cloc i drin mwy o ddŵr, symud cyflenwadau o gwmpas y rhwydwaith a thrwsio gollyngiadau cyn gynted â phosibl".
Dywedodd hefyd y gallai "newidiadau bach gan lawer o bobl wneud gwahaniaeth mawr" a helpu i "osgoi'r angen am fesurau pellach os bydd y tywydd poeth yn parhau".