Goleuadau newydd i ganolfan heddlu i gostio bron i £500,000

Cafodd y ganolfan yn Llangynnwr ei hadeiladu 15 mlynedd yn ôl ar gost o £6.4m
- Cyhoeddwyd
Mae cost o bron i £500,000 i newid y goleuadau yng nghanolfan gydlynu strategol Heddlu Dyfed-Powys wedi cael ei ddisgrifio fel ffigwr "trawiadol o uchel".
Mae'r cytundeb ar gyfer y system oleuadau newydd yn y ganolfan yn Llangynnwr ger Caerfyrddin wedi cael ei gymeradwyo gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu y llu, Dafydd Llywelyn.
Mewn cyfarfod o'r panel trosedd - sy'n goruchwylio gwaith y comisiynydd - dywedodd yr is-gadeirydd, y cynghorydd Keith Evans bod y ffigwr wedi ei "ysgwyd ychydig", a gofynnodd i Mr Llywelyn egluro ei rôl yn cymeradwyo'r gwariant.
Yn ôl adroddiad roedd y system oleuadau yn y ganolfan - a gafodd ei hadeiladu 15 mlynedd yn ôl ar gost o £6.4m - yn anodd i'w chynnal oherwydd nad oedd rhannau bellach ar gael.
Bydd y system newydd yn cynnwys goleuadau LED a thechnoleg sy'n golygu y gall y golau bylu pan nad oes pobl yn yr ystafell, gan arbed ynni.
Fe fydd goleuadau allanol newydd yn cael eu gosod hefyd.

Dywedodd Dafydd Llywelyn wrth y panel bod moderneiddio'r systemau goleuo yn golygu "cost sylweddol"
Dywedodd yr adroddiad bod proses brisio wedi ei chwblhau, a bod adran ystadau Heddlu Dyfed-Powys wedi cymeradwyo rhoi'r cytundeb gwerth £483,110 i gwmni contractwyr yn Abertawe, ynghyd â 15% wrth gefn os bydd angen, fyddai'n dod â'r cyfanswm i £555,576.
Cafodd y cytundeb ei gymeradwyo gan Mr Llywelyn.
Dywedodd wrth y panel ei fod ef a'i bennaeth cyllid yn adolygu unrhyw wariant gan y llu sydd yn uwch na throthwy penodol.
Wrth ateb cwestiwn y Cynghorydd Evans, dywedodd y Comisiynydd Plaid Cymru bod popeth wedi ei wneud o fewn fframweithiau llywodraethu, a bod moderneiddio'r systemau goleuo yn golygu "cost sylweddol".
Dywedodd cadeirydd lleyg y panel, Ian Roffe, bod y ganolfan gydlynu, yn ei farn ef, yr adeilad gwerth am arian cyhoeddus gorau i gael ei adeiladu yng Nghymru - nes iddo weld y gost o ailosod y goleuadau.
"Dwi'n meddwl ei fod yn drawiadol o uchel," meddai.
'Arbed dros 50% mewn biliau goleuo'
Wrth ymateb dywedodd y Comisynydd bod y buddsoddiad yn "uwchraddiad hanfodol i adnodd plismona allweddol, gyda'r system oleuadau bresennol wedi mynd yn gynyddol anodd i'w chynnal oherwydd diffyg darnau".
Dywedodd Dafydd Llywelyn hefyd y bydd cael system fwy modern ac effeithiol yn arwain at "leihau allyriadau carbon o oleuadau o dros 8,500kg y flwyddyn, ac arbedion o dros 50% yn y costau goleuo blynyddol."
Ychwanegodd bod y cytundeb wedi ei ddyfarnu yn dilyn proses gystadleuol a thrylwyr i sicrhau gwerth am arian, gyda'r cynllun meddai yn "cyd-fynd â'n hymrwymiad i gynaliadwyedd a dad-garboneiddio ar draws plismona yng Nghymru."
"Mae hyn ynglŷn â buddsoddi yn gyfrifol yn ein hisadeiledd fel ei fod yn parhau yn addas i bwrpas, yn effeithiol ac yn gynaliadwy i'r dyfodol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.