Cau drysau Ysgol y Garreg am byth

Samuel a JemimaFfynhonnell y llun, Ysgol y Garreg
Disgrifiad o’r llun,

Samuel a Jemima ydi'r unig ddisgyblion sydd ar ôl yn Ysgol y Garreg

GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Ddydd Gwener, mae hi'n ddiwedd tymor ond yn fwy na hynny mae'n ddiwedd cyfnod i Ysgol y Garreg yn Llanfrothen.

Ers 1882 mae'r adeilad wedi bod yn gwasanaethu'r ardal wledig ger Porthmadog yng Ngwynedd, ond mae'r ysgol ar fin cau ei drysau am byth.

Dim ond dau ddisgybl sydd ar ôl yn yr ysgol sef Samuel a Jemima a dros gyfnod o amser maen nhw wedi bod yn paratoi am y tro olaf iddyn nhw groesi rhiniog Ysgol y Garreg.

Nid yn unig y bydd y plant yn gadael, ond bydd cau yr ysgol hefyd yn golygu fod y staff yn gadael, rhai sydd wedi bod yn gweithio yno ers degawdau.

Yn ystod tymor olaf y plant yn Ysgol y Garreg, mae Cymru Fyw wedi bod draw i'w holi nhw a'r staff, gan edrych ar hanes ryfeddol yr ysgol hefyd.

Ysgol unigryw

Mae sefyllfa Ysgol y Garreg yn un unigryw; mae'r ddau ddisgybl sydd ar ôl yn symud i'r ysgol uwchradd leol.

Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi egluro'r rhesymau dros gau yr ysgol, ond mae sawl aelod o staff yn gadael gydag atgofion melys iawn.

Mae Elaine Richards wedi bod yn gweithio yn yr ysgol ers 1996, fel aelod o'r clwb brecwast ac yna fel y gogyddes.

"Pan nes i ddechrau yma roedd 'na dros 20 o blant ac mae hi'n deimlad trist iawn gweld y lle'n cau.

"Mae'r plant i gyd yn gwrtais ac mae'n hawdd iawn i mi ddod yma i weithio gan fy mod yn byw yn y pentref.

"Dwi'n chwerthin yma pob dydd ac wrth fy modd yng nghwmni'r plant ac yn eu gweld nhw yn enjoio eu bwyd.

"Fydd 'na chwith mawr heb y lle 'ma ac mi fydda i'n ei golli'n fawr," meddai.

Deilwen ac Elaine
Disgrifiad o’r llun,

Y cyn-gogyddes, Deilwen Williams a'r gogyddes bresennol, Elaine Richards

Mae'r ddau ddisgybl sydd ar ôl yn yr ysgol, Samuel a Jemima, wrth eu boddau yn yr ystafell ddosbarth ac yn drist fod yr ysgol ar fin cau.

Eu hathrawes ar hyn o bryd yw Marian Grace Jones. Mae hi wedi bod yn cael cyfnodau o weithio fel athrawes lanw yn Ysgol y Garreg ers 1993.

"Dwi wedi cael cyfnodau o weithio yma ers dros 30 mlynedd. Mae hi'n ysgol fach wledig hyfryd heb unrhyw broblemau ymddygiad.

"Mae'r plant yma wedi bod yn frwdfrydig ac i fod yn onest tydi dod i fewn yma ddim yn teimlo fel gwaith.

"Mae hi'n sefyllfa dorcalonnus ac mae'r pentref yn colli ei chalon," meddai.

Un alwodd heibio i gyfrannu hen luniau i'r ysgol oedd Deilwen Williams o Lanfrothen.

Roedd Deilwen yn ddisgybl yn yr ysgol yn yr 1950au a wedyn fe weithiodd yno fel cogyddes cyn ymddeol yn ddiweddar.

"Mae'r ysgol 'ma wedi bod yn rhan fawr o fy mywyd i ers i mi fod yn blentyn.

"Nes i weithio i dri pennaeth gwahanol a gweld llawer o blant yn cerdded drwy'r giatiau 'ma. Mae hi mor drist fod y lle'n cau.

"Y peth fydda i'n golli fwyaf ydi clywed y plant yn chwarae. Dwi'n byw reit agos i'r ysgol a dwi wrth fy modd yn clywed sŵn y plant yn chwarae ar y iard.

"Mi fydd hynny yn dod i ben 'wan."

Un o'r pethau oedd Deilwen yn enwog amdano yn yr ysgol oedd am ei chacennau chocolate crunch.

"Y chocolate crunch, roedd y plant wrth eu boddau pan o'n i'n neud y gacen yna.

"Dwi wedi cael cais i neud chocolate crunch ar gyfer y noson arbennig i ddathlu'r ysgol hefo cyn-ddisgyblion felly fysa'n well i fi 'neud rai dwi'n meddwl!" meddai.

Marian Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Marian Grace Jones wedi bod yn gweithio yn yr ysgol mewn cyfnodau gwahanol ers 1993

O 102 o ddisgyblion i 2

Un sydd wedi bod yn ymchwilio i hanes yr ysgol yn ddiweddar ar gyfer arddangosfa arbennig yw Gwyn Ellis sy'n gweithio fel Swyddog Addysg i adran Archifau Cyngor Gwynedd.

Wrth edrych i hanes adeilad presennol yr ysgol, dyma oedd canlyniad ei ymchwil.

"Cynlluniwyd yr adeilad i gynnwys tŷ i'r ysgolfeistr, gyda thair llofft, a oedd yn arferol i lawer o ysgolion a gynlluniwyd yng nghyfnod y Byrddau Ysgol.

"Roedd y tu mewn yn cynnwys ystafell ddysgu fawr ar gyfer rhesi o blant, ynghyd â dosbarth ar wahân i'r babanod.

"Roedd dau fynediad yn yr adeilad yma hefyd, un i'r bechgyn a'r llall i'r genethod, a dwy iard iddynt chwarae yng nghefn yr ysgol gyda thoiledau ar eu gwaelod a gardd y tu cefn iddynt.

"Yn adroddiad yr arolygwr ar gyfer 1882 cyfeiriodd at yr adeilad newydd gan grybwyll bod y 'new premises are very good'.

"Roedd 102 o blant ar lyfrau'r ysgol yn yr adeilad newydd yma, sef 52 o fechgyn a 50 o enethod rhwng 5 a 13 oed.

"Gyda dros ganrif o hanes, a channoedd o blant wedi derbyn eu haddysg gynradd yn Ysgol y Garreg, Samuel a Jemima fydd y ddau olaf i adael," medd Gwyn.

Disgrifiad,

Dyddiau olaf Ysgol y Garreg, Llanfrothen

Atgofion y plant

O ran atgofion y disgyblion presennol mae'r ddau yn edrych yn ôl ar eu cyfnod yn yr ysgol gyda hoffter mawr.

Meddai Samuel: "Dwi wedi mwynhau fy hun yma, yn enwedig cael mynd allan i chwarae a dysgu cymaint o bethau difyr."

Roedd Jemima hefyd yn drist o fod yn gadael ond yn falch o ddweud ei bod hi wedi cael mynychu'r ysgol.

"Mae'r ysgol yn grêt a dwi wedi bod yn hapus iawn yma cyn mod i rwan yn mynd i'r ysgol uwchradd," meddai.

Does dim sicrwydd eto beth fydd yn digwydd i'r adeilad, ond yn bendant mae atgofion melys iawn gan gyn-ddisgylion a staff wrth i'r gloch ganu ar ddiwedd wythnos, diwedd tymor a diwedd oes i Ysgol y Garreg, Llanfrothen.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig