Tristwch 'colli cymuned' wrth i drigolion adael stryd yn sgil llifogydd

Clydach Terrace
Disgrifiad o’r llun,

Mae Clydach Terrace yn Ynys-y-bwl ger Pontypridd yn wynebu risg difrifol o lifogydd

GanAlun Thomas
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae trigolion stryd o dai yn Rhondda Cynon Taf a fydd yn cael ei dymchwel oherwydd effaith llifogydd wedi bod yn cwrdd i nodi diwedd eu hymgyrch.

Fis Chwefror fe gytunodd Cyngor Rhondda Cynon Taf i brynu 15 o dai yn Clydach Terrace yn Ynys-y-bwl.

Llifodd hyd at chwe throedfedd o ddŵr i rai o'r cartrefi yn ystod storm Dennis yn 2020, ac roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud nad oedd cyflwyno cynllun atal llifogydd yn ymarferol yn ariannol.

Brynhawn Sul bu trigolion Clydach Terrace yn cwrdd mewn canolfan gymunedol yn y pentre ar gyfer digwyddiad ffarwel.

"D'yn ni yma i ddathlu pawb sydd yn byw yn Clydach Terrace a beth yw'n dyfodol ni - dathlu llwyddiant mewn ffordd bod ni i gyd wedi sicrhau tai newydd," meddai Rebecca Chadwick, sydd wedi byw yno ers dros chwarter canrif.

Rebecca Chadwick
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rebecca Chadwick nad ydy hi'n gallu "credu i ryw raddau bod heddiw wedi cyrraedd"

Ond mae Rebecca Chadwick yn cydnabod ei fod yn brofiad chwerw felys, wrth weld y gymuned yn chwalu.

"Mae pawb tamed bach yn sensitif ar hyn o bryd, wrth i bobl symud mas mae'r stryd yn fwy tawel nawr nag oedd e'.

"Mae'r gymuned yn torri lan tamed bach, ond be sy'n bwysig yw ein bod ni i gyd yn aros yn ffrindiau - dwi'n credu ein bod yn ffrindiau am oes nawr oherwydd d'yn ni'n gymuned mor glos - d'yn ni wedi mynd trwy eitha' lot."

Bagiau swnd
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl wedi gosod bagiau tywod yn barhaol, i geisio amddiffyn eu cartrefi rhag dŵr

Mae hi'n dweud iddi fod yn ymgyrch hir ers storm Dennis i sicrhau cyfiawnder i'r trigolion.

"D'yn ni methu credu i ryw raddau bod heddiw wedi cyrraedd, a d'yn ni ar fin symud mas o'r stryd.

"Mae wedi bod yn her dros y chwe blynedd - lot o ymladd a brwydro yn erbyn gwahanol asiantaethau, lot o gyfarfodydd, lot o waith gyda'r cyfryngau hefyd i sicrhau'r gefnogaeth oedd arnon ni, ond nawr d'yn ni mewn sefyllfa i edrych ymlaen."

Elliot Wigfall
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n ddiwrnod really trist hefyd achos ni wedi colli cymuned o fewn Ynys-y-bwl," meddai Elliot Wigfall

Yn ôl cadeirydd Cyngor Cymuned Ynys-y-bwl a Choed-y-Cwm, Elliot Wigfall, mae 'na deimladau cymysg yn y pentref.

"Mae heddiw yn ddiwrnod really od - r'yn ni wedi cael yr outcome r'yn ni eisiau, ac mae popeth yn dod i ben nawr, ond mae'n ddiwrnod really trist hefyd achos ni wedi colli cymuned o fewn Ynys-y-bwl."

Fe fydd 15 o dai Clydach Terrace yn wag erbyn mis Gorffennaf, gyda'r trigolion wedi symud i'w cartrefi newydd - y mwyafrif ohonyn nhw yn ardal Ynys-y-bwl.

Mae Rebecca Chadwick yn dweud y bydden nhw fel trigolion nawr yn barod i helpu cymunedau sy'n wynebu problemau tebyg gyda'r peryg o lifogydd.

"Fe fyddwn ni'n helpu mas gydag unrhyw un sydd yn yr un sefyllfa â ni a gobeithio bydd pobl yn dysgu o'n profiad ni wrth symud ymlaen."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig