500 o ffermwyr yn mynd â chwmni peilonau trydan i'r Uchel Lys

Bwriad cwmni Green GEN yw adeiladu tri phrif lwybr peilonau newydd ar draws pedair sir
- Cyhoeddwyd
Mae her gyfreithiol "arwyddocaol" gan 500 o ffermwyr wedi cael ei chlywed yn yr Uchel Lys ddydd Mawrth, yn erbyn bwriad cwmni ynni i adeiladu rhwydwaith o beilonau ar draws Cymru.
Bwriad cwmni Green GEN yw adeiladu tri phrif lwybr peilonau newydd ar draws pedair sir - ym Mhowys, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, cyn croesi'r ffin i Sir Amwythig.
Mae ffermwyr a thirfeddianwyr yn honni bod Green GEN wedi bod yn gweithredu'n anghyfreithlon tra'n cael mynediad i dir preifat, yn anwybyddu mesurau bio-ddiogelwch ac yn "codi ofn" ar gymunedau lleol.
Am y tro cyntaf mewn achos llys mae adolygiad barnwrol yn ystyried y gyfraith sydd yn caniatáu i gwmnïau mawr gael mynediad i dir preifat heb ganiatâd, i gynnal arolygon amgylcheddol ac ecolegol.
Dywedodd Green GEN Cymru eu bod wedi "ymrwymo i barchu a chydweithio" gyda thirfeddianwyr ac y byddai eu cynlluniau'n darparu "rhwydwaith ynni diogel a gwydn i Gymru".
Green Gen Cymru 'wedi creu risg i fywoliaeth ffermwyr'
Dechreuodd yr achos ddydd Mawrth gan glywed gan Ms Blackmore KC, sy'n cynrychioli'r hawlydd.
Disgrifiodd Ms Blackmore KC ffordd Green GEN Cymru o gysylltu â thirfeddianwyr fel achos o "eu telerau nhw neu ddim telerau o gwbl".
Wrth ddisgrifio'r berthynas rhwng y cwmni a'r tirfeddianwyr dywedodd nad oedd polisi, dros sawl mis, oedd yn rhoi digon o rybudd clir ynghylch ble a phryd y byddai angen mynediad at y tir.
Ychwanegodd nad oedd amserlen heb amser, mis na blwyddyn benodol yn ddadl dderbyniol i ddweud bod digon o rybudd wedi'i roi.
Dywedodd Ms Blackmore KC hefyd nad oedd mewn rhai achosion "ymdrech wedi bod i ganfod pwy oedd y tirfeddianwyr".
Mae'r hawlydd felly yn galw ar Green Gen Cymru i gysylltu â fferm fesul fferm gan gymryd camau rhesymol i ganfod pob perchennog a thenant.
Dywedodd Ms Blackmore KC fod yr awdurdod cyhoeddus wedi rhoi ffermwyr mewn sefyllfa lle maen nhw'n torri eu dyletswyddau statudol drwy fynd ar dir yn anghyfreithlon pan oedd cyfyngiadau TB gwartheg mewn grym - a dros frochfeydd moch daear, ar dir sydd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI) a mannau sy'n gartref i rywogaethau gwarchodedig.
"Gwnaethant hyn heb rybudd", meddai wrth y barnwr Mr Justice Kimblin.
Dywedodd fod yr angen i gymryd camau bioddiogelwch yn "bwysig iawn", yn enwedig gan fod y llwybr peilon sy'n cael ei awgrymu yn agos at ardaloedd risg uchel o TB.
"Mae'r gweithgareddau hyn wedi creu risg i fywoliaeth ac i gytundebau gyda chyflenwyr", meddai.
Dywedodd ei bod yn afresymol i Green GEN Cymru fynd ar dir gydag "yswiriant annigonol, hen ffasiwn a mesurau bioddiogelwch gwan".
"Mae hyn yn rhoi stoc, rhywogaethau a chynefinoedd gwarchodedig a bywoliaethau ffermwyr mewn perygl," meddai'r hawlydd.
Clywodd y llys fod undebau yr NFU a FUW wedi ceisio cysylltu â'r diffynnydd, ac nad oedd yr un ohonynt yn ystyried y trafodaethau hynny'n dderbyniol.

Mae Dyfan Walters yn erbyn y prosiectau ac yn "credu bod achos cryf gyda ni a fi'n credu taw ni sy'n iawn"
Mae'r cwmni'n gobeithio adeiladu llwybrau peilon trydan mawr, fydd yn cysylltu ffermydd gwynt gyda rhwydwaith y grid cenedlaethol.
Mae cefnogwyr yn dweud bod angen uwchraddio grid trydan Cymru er mwyn hwyluso cynlluniau ynni adnewyddadwy a chyflwyno technolegau carbon isel fel ceir trydan a phympiau gwres.
Yn ffermio ger Llanymddyfri, disgrifiodd Dyfan Walters, 42, y "sioc" o dderbyn llythyron trwy'r post gan gwmni Green GEN oedd eisiau mynediad i'r tir fferm.
Tra'n disgrifio'r profiad o ddelio gyda'r cwmni dywedodd Mr Walters bod swyddogion yn "gorfodi eu hunain ar y tir" ac yn "rhoi pwysau ar ffermwyr".
Ffermwyr yn sicrhau hawl i geisio adolygiad barnwrol dros beilonau
- Cyhoeddwyd28 Ionawr
Tirfeddianwyr yn mynd â chwmni cynllun peilonau i'r Uchel Lys
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2025
Peilonau Dyffryn Teifi: Tirfeddianwyr yn cytuno i roi mynediad
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2025
Ychwanegodd Mr Walters: "Ni really wedi bod yn becso bod protocols fel biosecurity a bod ddim yswiriant cywir gyda nhw.
"Fel ffermwyr, ni'n gyfarwydd gyda delio â chwmnïau mawr, cwmnïau trydan, BT, ond mae delio gyda cwmni Green GEN wedi bod yn brofiad hunllefus i fod yn onest.
"Mae e'n totally wahanol i unrhyw brofiad ni wedi cael o'r blaen a mae eisiau bod yr ymddygiad yn newid.
"Ni'n credu bod achos cryf gyda ni a fi'n credu taw ni sy'n iawn.
"So ni'n erbyn y prosiectau yma, so ni'n gofyn am ddim byd y dylen ni fod yn ei gael, just polisïau sy'n edrych ar ôl ein ffermydd ni, a fi'n credu bod hwnna yn bwysig."

Graffeg Green GEN Cymru sy'n dangos llwybrau'r peilonau arfaethedig
Mae'r achos yn cael ei glywed ar chwe sail, gan gynnwys ymddygiad anghyfreithlon honedig, camddefnyddio pŵer, ac anwybyddu pryderon bioddiogelwch ac amgylcheddol.
Mae grŵp cymunedol Cyfiawnder i Gymru ac elusen Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig (CPRW) hefyd wedi sicrhau caniatâd i herio os oedd y defnydd hysbysiadau Adran 172 yn gyfreithlon.
Mae'r ddeddf yn caniatáu mynediad i dir er mwyn cynnal arolygon a chasglu tystiolaeth cyn cyflwyno gorchymyn prynu gorfodol (CPO) posibl.
Mae CPO yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus - ac weithiau cwmnïau ynni – gael mynediad at dir neu eiddo yn orfodol er mwyn gwneud lle i brosiectau seilwaith a ystyrir yn fuddiol i'r cyhoedd.
'Effaith diffyg rheoleiddio'
Dywedodd Mary Smith o New South Law, sy'n cynrychioli'r hawlwyr, mai dyma "y tro cyntaf i brawf o'r natur hon gyrraedd y llys", a gallai'r oblygiadau "ymestyn y tu hwnt i'n cleientiaid, gan adleisio ar draws y diwydiant".
"Mae'r achos hwn yn codi materion sylfaenol ynghylch sut mae pwerau statudol yn cael eu defnyddio a'r amddiffyniadau a roddir i'r rhai yr effeithir arnynt," meddai.
"Fel y mae, credwn fod rhai yn y diwydiant ... yn camddefnyddio'r pŵer, ac mae'r enghreifftiau o effaith diffyg rheoleiddio yma yn y gorllewin."
Bydd y grŵp hefyd yn herio defnydd y cwmni o ddata personol perchnogion tir - gan gynnwys data tir.
Mae dogfennau cyfreithiol a gyflwynwyd cyn y gwrandawiad yn honni bod Green GEN Cymru yn rhannu data yn anghyfreithlon gyda'i rhiant gwmni, Bute Energy - sy'n cynllunio cyfres o brosiectau ffermydd gwynt ar y tir.

Mae cryn wrthwynebiad wedi bod i'r posibilrwydd o godi'r peilonau
Dywedodd Green GEN Cymru fod y cwmni'n cydnabod "arwyddocâd" y gwrandawiad a'r "budd cyhoeddus parhaus mewn datrys y materion hyn yn amserol".
"Gan fod yr achos yn mynd rhagddo, ni fyddai'n briodol gwneud sylwadau ar fanylion yr achos. Byddwn yn parhau i ymgysylltu'n adeiladol drwy'r broses gyfreithiol briodol," meddai.
"Yn y cyfamser, mae ein gwaith yn parhau yn unol â gweithdrefnau sefydledig. Mae arolygon amgylcheddol ac ecolegol cyn-ymgeisio yn parhau i fod yn rhan hanfodol o sicrhau bod effeithiau posibl yn cael eu deall yn iawn gan bob rhanddeiliad, gan gynnwys awdurdodau cynllunio.
"Rydym yn parhau i ymrwymo i barchu tirfeddianwyr ac ymgysylltu'n agored â chymunedau lleol. Ein gobaith yw ceisio sicrhau cytundeb lle bynnag y bo modd a chynnal pob gweithgaredd gyda'r ystyriaeth briodol i bobl a'r amgylchedd.
"Mae datblygu'r seilwaith hwn yn parhau i fod yn rhan bwysig o ddarparu rhwydwaith ynni diogel a gwydn i Gymru ac mae'n rhan o seilwaith hanfodol sy'n cyd-fynd â pholisi'r llywodraeth. Byddwn yn parhau i ddatblygu'r gwaith hwn yn gyfrifol tra bod y broses gyfreithiol yn cael ei glywed."
Mae disgwyl i'r adolygiad barnwrol gael ei glywed yn yr Uchel Lys dros ddau ddiwrnod.

Dywedodd Llafur Cymru mai eu nod yw annibyniaeth ynni yn seiliedig ar bŵer glân, o gartref i greu swyddi a thorri biliau.
Ychwanegodd y dylai llinellau pŵer newydd fod "o dan y ddaear lle bo modd", ond rhaid ystyried costau.
Dywedodd Plaid Cymru fod ehangu ynni adnewyddadwy yn hanfodol ar gyfer cyrraedd sero net, ond bod "rhaid cynnwys cymunedau lleol".
Maen nhw'n ffafrio ceblau tanddaearol a blaenoriaethu prosiectau ynni sy'n eiddo i'r gymuned.
Barnu prosiectau ynni adnewyddadwy fel rhai "costus a niweidiol" i gefn gwlad mae Reform UK gan ddweud y byddent yn gwahardd prosiectau ffermydd gwynt a solar ar y tir ac yn dileu cynlluniau sero net.
Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn dweud bod rhaid datblygu ynni adnewyddadwy "gyda chymunedau, nid yn eu herbyn", gan ychwanegu y dylai seilwaith fod o dan y ddaear lle bo modd er mwyn amddiffyn ardaloedd gwledig ac economïau lleol.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig a'r Blaid Werdd wedi cael cais am sylw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.