Pentre Moch: Cais ffurfiol i ddefnyddio enw hanesyddol ar bentref

MochynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y pwyllgor yn cyflwyno yr argymhellion ddydd Iau, 9 Gorffennaf

  • Cyhoeddwyd

Gallai pentref yn Sir y Fflint newid ei enw i'r un Cymraeg, hanesyddol - Pentre Moch - yn fuan.

Bydd y cais i fabwysiadu'r enw yn ffurfiol a swyddogol ar gyfer Northop Hall yn cael ei ystyried gan bwyllgor o Gyngor Sir y Fflint ddydd Iau.

Bu rhywfaint o wrthwynebiad yn wreiddiol i'r enw sy'n adlewyrchu hanes cynnar y pentref o fagu moch.

Awgryma mapiau cynnar o'r ardal bod y pentref yn cael ei alw'n Pentref Moch cyn belled yn ôl ag 1530.

'Proses adolygu drylwyr iawn'

Ond yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lle ymatebodd bron i un rhan o bump o drigolion y pentref - ac yn dilyn gwrthod dewisiadau eraill, gan gynnwys Neuadd Llaneurgain - mae Cyngor Cymuned Northop Hall bellach wedi gofyn yn swyddogol i'r pentref gael ei adnabod fel Pentre Moch yn Gymraeg.

"Mae'r canlyniadau wedi mynd trwy broses adolygu drylwyr iawn.

"Mae hyn wedi cynnwys gwirio manylion preswylwyr yn fanwl yn erbyn y gofrestr etholiadol, yn ogystal â dileu achosion o bleidleisio mwy nag unwaith, boed hynny'n bersonol neu drwy e-bost," meddai clerc y cyngor, Sharon Swift.

"Dangosodd yr ymgynghoriad gyda thrigolion y pentref fod cefnogaeth glir yn y pentref i 'Pentre Moch' fel yr enw."

Yn adroddiad Comisiynydd y Gymraeg ar y cynigion "bu sawl ymgais dros y blynyddoedd i ddod o hyd i enw amgen, mwy 'parchus', i'r pentref".

"Ond ni lwyddodd yr un o'r enwau hyn i ennill tir yn yr un ffordd â'r enw gwreiddiol a hanesyddol, Pentre Moch.

"Dylai bod yno bwyslais bod yr enw yn un disgrifiadol, nid yn un dirmygus, a'i fod yn cael ei gyfieithu orau fel 'dalfa foch'.

"Mae llawer o aneddiadau eraill yng Nghymru yn cyfeirio at foch (er enghraifft, Mochdre), ac maen nhw'n adlewyrchu eu statws allweddol yn economi amaethyddol yr Oesoedd Canol."

'Llawn enwau lleoedd sy'n cynnwys 'moch''

Yn ôl y hyrwyddwr iaith Gymraeg a seren ar y cyfryngau cymdeithasol, Doctor Cymraeg - neu Stephen Rule - mae Pentre Moch yn ymuno â rhestr hir o enwau lleoedd sy'n cyfeirio at foch.

"Mae Cymru'n llawn enwau lleoedd sy'n cynnwys 'moch'," meddai mewn fideo am Northop Hall sy'n rhan o'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r pwyllgor.

"Mochdre, Nant y Moch, Llanrhaeadr-ym-Mochnant a Mochras – sef enw gwirioneddol Shell Island – sef tir comin y moch."

Bydd y pwyllgor yn cyflwyno yr argymhellion ddydd Iau, 9 Gorffennaf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig