Dynes yn gwadu caniatáu dyn sydd wedi'i gyhuddo o dreisio i ddefnyddio'i hystafell wely

Llys y Goron Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r achos yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Caernarfon

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes wedi dweud wrth reithgor na wnaeth hi roi caniatâd i'w hystafell wely gael ei defnyddio gan ddyn sydd wedi'i gyhuddo o dreisio merch yno.

Sarah Gray, 53, yw'r pumed diffynnydd yn yr achos yn Llys y Goron Caernarfon, ble mae tri dyn yn wynebu cyhuddiadau o fod yn rhan o gynllwyn i fasnachu merched yn eu harddegau a rhoi cyffuriau iddyn nhw fel tâl am wasanaethau rhywiol.

Mae Mustafa Iqbal, 43, Ziaullah Badshah, 25, a Mohamed Usman Arshad, 36 - oll o'r Rhyl - hefyd wedi'u cyhuddo o dreisio dioddefwyr oedd yn 14 a 16 oed ar y pryd.

Maen nhw'n gwadu'r holl gyhuddiadau.

Mae pedwerydd dyn - Jaswinder Singh, 61 - yn gwadu dau gyhuddiad o gynllwynio i fasnachu pobl a chyflenwi canabis.

Dod yn ffrindiau gyda Mr Iqbal

Mae Ms Gray yn gwadu cyhuddiadau o newid cwrs cyfiawnder, helpu troseddwr, a chynllwynio i gyflenwi cocên a chanabis.

Yn rhoi tystiolaeth i'r llys ddydd Mawrth, dywedodd Ms Gray ei bod wedi symud i ogledd Cymru o Fanceinion yn 2023 er mwyn ceisio adfer ar ôl bod yn gaeth i gyffuriau.

Ond fe ddechreuodd eu defnyddio eto, gan eu prynu gan Mustafa Iqbal, a dywedodd eu bod wedi dod yn ffrindiau.

Dywedodd bod merch - sy'n cael ei hadnabod fel Plentyn A yn yr achos llys - wedi cael ei chyflwyno iddi fel cariad Ms Iqbal, a bod y ferch wedi dweud wrthi ei bod yn 23 oed.

Yn ôl Ms Gray roedd Mr Iqbal a Phlentyn A ar eu pen eu hunain yn ei thŷ ambell waith, tra roedd hi'n mynd i'r siop.

Ond pan ofynnwyd iddi a oedd hi wedi rhoi caniatâd iddyn nhw ddefnyddio ei hystafell wely, dywedodd "dim o gwbl", a'i bod hi erioed wedi gweld y ddau yn mynd i fyny'r grisiau gyda'i gilydd.

Ychwanegodd fod Mr Iqbal wedi ei ffonio un noson yn drist am fod yr heddlu wedi cysylltu ag ef.

Dywedodd Ms Gray ei fod wedi dweud wrthi fod Plentyn A yn 18 oed, ac nad oedd yn cael ei gweld hi.

Ychwanegodd Ms Gray ei bod wedi gweld y ddau gyda'i gilydd ar ôl hynny, ond nad oedd hi wedi trafod y peth gyda Mr Iqbal.

'Roedd hi i weld yn iawn'

Yn ddiweddarach bu'r achos yn trafod cyfres o alwadau ffôn a negeseuon rhwng Ms Gray a Mr Iqbal ym mis Ionawr a Chwefror 2024.

Ar 18 Chwefror - y diwrnod mae Plentyn A yn dweud iddi gael ei threisio gan Mr Iqbal - roedd negeseuon rhwng Ms Gray a Mr Iqbal ynglŷn â phryd y byddai ef yn dod i'w thŷ, a phryd y byddai hi a'i wyrion ac wyresau yn dychwelyd o'r parc.

Yn ôl Ms Gray, roedd y negeseuon yma er mwyn trefnu i Mr Iqbal ddanfon cyffuriau iddi.

Dywedodd, pan gyrhaeddodd hi ei chartref am 18:30 y noson honno, fod Mr Iqbal yn ei gar y tu allan i'r tŷ gyda Phlentyn A.

"Roedd hi i weld yn iawn - roedd o i weld yn normal," meddai.

'Cynfasau yn y golch'

Yn ddiweddarach cafodd Ms Gray ei holi am gyfres o negeseuon rhyngddi hi a Mr Iqbal ble roedd ef wedi dweud wrthi fod Plentyn A wedi ei gyhuddo o'i threisio yng nghartref Ms Gray.

Dywedodd Ms Gray fod Mr Iqbal wedi dweud wrthi nad oedd hynny'n wir, ond y byddai'r heddlu o bosib yn dod i dynnu'r cynfasau oddi ar y gwely.

Ychwanegodd ei bod hi wedi gyrru neges ato yn dweud: "Dwi yno i ti'r holl ffordd."

Y prynhawn hwnnw fe yrrodd neges arall ato yn dweud: "Cynfasau yn y golch."

Dywedodd wrth y llys fod hynny am ei bod wedi cofio ei bod eisoes wedi golchi'r cynfasau cyn y sgwrs am Blentyn A.

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig