Cyhoeddi enw dynes fu farw mewn gwrthdrawiad angheuol
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw dynes 20 oed fu farw mewn gwrthdrawiad angheuol ym Mrynmawr, Blaenau Gwent.
Bu farw Sophie Brimble o Grughywel yn y fan a'r lle yn dilyn y gwrthdrawiad ar Ffordd y Brenin tua 00:25 fore Mercher.
Mae dyn 24 oed o ardal Brynmawr, oedd hefyd yn teithio y car Volkswagen Polo du, yn parhau i dderbyn triniaeth ar gyfer anafiadau difrifol yn Ysbyty Y Rhath, Caerdydd.
Mae teulu'r ddynes a fu farw yn derbyn cymorth arbenigol gan yr heddlu.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu trwy ffonio 101.