Y Cymry fydd yn mynd am aur yn Tokyo

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
aurFfynhonnell y llun, Getty Images

Wedi iddo gael ei ohirio am flwyddyn oherwydd pandemig Covid-19, mae Gemau Olympaidd Tokyo 2020 yn dechrau ar ddydd Gwener, 23 Gorffennaf.

Ymysg y miloedd fydd yn cystadlu mae carfan o athletwyr o Gymru fydd yn gobeithio dod 芒 medalau n么l adref efo nhw.

Y gyflwynwraig chwaraeon Catrin Heledd sy'n asesu gobeithion y Cymry fydd yn cystadlu yn Japan.

line

Wedi blwyddyn o oedi, mae'r Gemau Olympaidd o'r diwedd yma. Mae Covid yn anffodus yn dal i fod yn gysgod ar y cyfan. Fydd 'na ddim torf - dim teulu i greu twrw yn Tokyo.

Blwyddyn rwystredig

Mae'r tymheredd uchel a'r gwres yn ofid ychwanegol i'r trefnwyr ond i'r 26 o Gymry sydd yn rhan o d卯m Prydain Fawr yr un yw'r uchelgais er pob her. Wedi blynyddoedd o aberth bersonol bod ar y brig - ar ben y podiwm yw'r nod.

Mae'r flwyddyn a hanner ddiwethaf wedi arwain at rwystrau ychwanegol - cystadlaethau wedi'u canslo, pyllau ynghau, garej yn gorfod troi'n gampfa - dros nos. Rhaid oedd addasu i gadw'r freuddwyd yn fyw. Mae gan bob un ei stori i rannu.

catrinFfynhonnell y llun, TomJackson
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cyflwynwraig chwaraeon BBC Cymru, Catrin Heledd

Bum mlynedd yn 么l yn Rio roedd na record newydd i'r Cymry - 10 o fedalau Olympaidd yn dychwelyd - pedair ohonyn nhw yn rhai aur. Efelychu os nad gwella ar hynny yw'r dyhead y tro hyn.

Lauren i ennill aur?

Ymysg y ffefrynnau i fod ar frig y podiwm mae Lauren Price o Ystrad Mynach fydd yn camu i'r sgw芒r bocsio. Dydy Cymru erioed wedi cael pencampwr Olympaidd yn y maes hwn o'r blaen.

A hithau'n bencampwr byd, Ewropeaidd a Gemau'r Gymanwlad mae pethau'n edrych yn addawol i'r ferch 27 oed.

Lauren PriceFfynhonnell y llun, Chris Hyde
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Lauren Price gyda'i medal aur ar 么l ennill ffeinal 75g y menywod yn Gemau'r Gymanwlad yr Arfordir Aur 2018

Fe allai Jade Jones o'r Fflint hoelio ei lle yn y llyfrau hanes. Ar 么l ennill aur yn y Taekwando yn Llundain yn 2012 ac yna yn Rio yn 2016 mae'n mynd am ei thrydedd medal aur yn Tokyo.

Does 'na'r un fenyw o Gymru na Phrydain wedi ennill aur dair gwaith yn olynol mewn unrhyw gamp - all Jade fod y gyntaf? Yn gystadleuaeth iddi - Cymraes arall Lauren Williams o'r Coed Duon.

jadeFfynhonnell y llun, Chloe Knott - Danehouse
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Jade Jones yn creu hanes os bydd hi'n fuddugol yn Tokyo

Fe allai Hannah Mills yn ei chwch hwylio greu hanes hefyd. Pe bai hi'n cipio aur hi fyddai y fenyw fwyaf llwyddiannus erioed yn ei champ o ran y Gemau Olympaidd ar 么l cipio aur ac arian yn barod. Fe fydd Chris Grube hefyd n么l yn ei gwch hwylio.

Geraint yn mynd am aur eto

Dyma fydd y pedwerydd Gemau Olympaidd i Geraint Thomas ar ei feic. Mae ganddo ddwy fedal aur eisoes yn ei gasgliad ond ar y trac y daeth rheini. Ar y ffordd y bydd yn cystadlu y tro hyn gan geisio rhoi Tour siomedig eleni y tu 么l iddo.

geraintFfynhonnell y llun, LEON NEAL
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Geraint Thomas yn dathlu wedi iddo ennill aur yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012

Ar ei beic yn y felodr么m fydd Elinor Barker. Yn bencampwraig yn Rio yn 2016 yn y ras gwrso i dimau - amddiffyn y teitl yw'r nod. Yn yr un ras i ddynion mae Ethan Vernon yn cystadlu.

Mae yna bedwar fydd wedi mynd 芒'u ffyn hoci yn gwmni gyda nhw ar y daith i ben draw'r byd. Rupert Shipperley a Jacob Draper i gynrychioli t卯m y dynion, Sarah Jones a Leah Wilkinson y merched.

medalauFfynhonnell y llun, NurPhoto
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y medalau fydd pawb yn anelu amdanyn nhw yn Tokyo dros yr wythnosau nesaf

Mae gan Natalie Powell fedal aur yn y Judo o Gemau'r Gymanwlad Glasgow yn 2014.

Roedd hi a'i bryd ar gipio medal yn Rio bum mlynedd yn 么l ond gorffen yn seithfed oedd ei hanes. A fydd modd gwella ar hynny y tro hyn?

natalieFfynhonnell y llun, JACK GUEZ
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Natalie Powell (mewn gwyn) yn cystadlu yn Gemau Olympaidd Rio 2016

Ar dd诺r yn rhwyfo fe fydd pedwar o Gymry wrthi. Victoria Thornley gafodd fedal arian yn Rio, ynghyd 芒 Oliver Wynne-Griffith, Joshua Bugajski a Tom Barras,

Joyce y gwibiwr

Mae 'na gynrychiolaeth yn y timau p锚l-droed a rygbi hefyd. Capten Cymru Sophie Ingle yw'r unig un i gael ei chynnwys yn nh卯m y b锚l gron tra bod yr asgellwraig chwim Jaz Joyce yn y t卯m rygbi saith bob ochr.

jasmineFfynhonnell y llun, Mark Kolbe
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr asgellwr o Sir Benfro, Jasmine Joyce, yn cynrychioli Cymru yn Gemau Gymanwlad 2018

Yn y d诺r mae na gynrychiolaeth gref eto gydag chwech o Gymry wedi eu dewis i'r t卯m - y nifer fwyaf erioed. Mae nhw'n cynnwys Alys Thomas gipiodd fedal aur yng Ngemau'r Gymanwlad ar yr Arfordir Aur - dyma fydd ei phrofiad Olympaidd cyntaf hi. Harriet Jones, Daniel Jervis, Matt Richards, Kieran Bird a Callum Jarvis yw'r pump arall fydd yn y pwll.

Ac i gloi - un Cymro fydd yn cystadlu yn y stadiwm athletau. Jake Heyward yw hwnnw o Gaerdydd a'r ras 1500m yw ei arbenigedd.

17 diwrnod o gystadlu, 26 o Gymry, ond sawl medal 'sgwn i?

line

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig