Undebau'n beirniadu cynnig codiad cyflog i athrawon Cymru

Athro a thri disgybl mewn dosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae undebau addysg wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am gynnig codiad cyflog is i athrawon na'r hyn oedd yn cael ei awgrymu gan gorff annibynnol.

Bydd athrawon yn derbyn codiad cyflog o 3.5% o fis Medi, meddai'r llywodraeth.

Ond mae hynny'n llai na'r 4.25% a gafodd ei argymell gan y Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (CACAC).

Dywedodd y Gweinidog Addysg Anna Brychan y byddai'r dyfarniad - sy'n cyfateb i'r cynnig yn Lloegr - yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru.

'Argymhelliad ddim yn fforddiadwy'

Dywedodd Ms Brychan: "Pan fydd ysgolion yn dychwelyd ym mis Medi, byddaf yn ymgynghori ar ddyfarniad cyflog o 3.5% i athrawon ac arweinwyr ysgolion.

"Yng ngoleuni'r pryderon a godwyd gan bartneriaid y tu hwnt i'r broses adolygu cyflogau, byddaf hefyd yn ymgynghori ar gynnydd o 5% ar gyfer athrawon sydd heb gymhwyso."

Anna BrychanFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

"Nid yw argymhelliad CACAC yn fforddiadwy o fewn y cyllidebau presennol," meddai Anna Brychan

Ychwanegodd ei bod "wedi ystyried yn ofalus argymhelliad y corff y dylid cynyddu cyflogau a lwfansau 4.25% o fis Medi 2026".

"Rwy'n ymwybodol o'r amgylchiadau ariannol anodd sy'n effeithio ar ysgolion a cholegau, a goblygiadau dyfarniadau cyflog heb eu hariannu i gyllidebau a niferoedd staff.

"Nid yw argymhelliad CACAC yn fforddiadwy o fewn y cyllidebau presennol.

"Wrth ddod i'm penderfyniad, rwyf wedi gorfod cydbwyso'r gyllideb sydd ar gael â'r angen i gydnabod a gwobrwyo ein gweithlu."

'Dyfarniad llawer rhy isel'

Mae undebau addysg wedi beirniadu'r penderfyniad i beidio cyd-fynd ag awgrym y corff annibynnol.

Dywedodd undeb penaethiaid NAHT Cymru: "Sefydlwyd y corff adolygu i ddarparu cyngor annibynnol, arbenigol yn seiliedig ar y dystiolaeth a gyflwynwyd iddo ynghylch recriwtio, cadw, llwyth gwaith a'r heriau ehangach sy'n wynebu'r gweithlu addysg.

"Os yw gweinidogion yn barod i anwybyddu'r cyngor hwnnw pan fydd yn anghyfleus, yna mae'n gwbl resymol gofyn beth yw pwrpas y broses."

Ychwanegodd undeb NEU Cymru eu bod yn "croesawu codiad cyflog i athrawon", ond nid un is na'r hyn oedd yn cael ei awgrymu.

"Ar yr olwg gyntaf, gallai'r dyfarniad eleni ymddangos yn gadarnhaol o'i gymharu â Lloegr, gan nad oes gofyn i ysgolion yng Nghymru ddod o hyd i 1%.

"Yn ymarferol, fodd bynnag, mae'r cyhoeddiad hwn yn llawer rhy isel.

"Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae Llywodraeth Cymru wedi dewis anwybyddu argymhelliad CACAC drwy gyhoeddi dyfarniad sy'n is na'r ffigwr o 4.25% a nodwyd yn eu hadroddiad."

'Anghytuno'n sylfaenol'

Dywedodd Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL) Cymru eu bod yn "anghytuno'n sylfaenol â phenderfyniad Llywodraeth Cymru i ymgynghori ar ddyfarniad cyflog sy'n llai na'r argymhelliad gan y corff adolygu cyflogau annibynnol."

"Mae'r corff adolygu cyflogau yn datgan yn glir bod eu hargymhelliad wedi'i ategu gan yr angen i sicrhau bod y proffesiwn addysgu yng Nghymru yn cael ei hyrwyddo a'i wobrwyo i annog recriwtio a chadw staff galluog.

"Yn lle hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu na all fforddio cyflawni'r amcan hwnnw ac wedi anwybyddu'r argymhelliad."

Mae Cyngres yr Undebau Llafur yng Nghymru hefyd wedi beirniadu'r llywodraeth am "gamu i ffwrdd o broses sy'n canolbwyntio ar Gymru, a dewis dilyn Lloegr".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.