Mam yn 'cael trafferth gwneud atgofion newydd' wedi diagnosis enseffalitis

Helen EdwardsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Helen Edwards ddiagnosis o enseffalitis fis Medi

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes wedi siarad am yr effaith ddifrifol y mae cyflwr ar yr ymennydd a gafodd ei achosi gan ddolur annwyd (cold sore) wedi ei gael ar ei mam.

Cafodd Helen Edwards o Benrhyn-coch ger Aberystwyth ddiagnosis o enseffalitis - cyflwr prin sy'n achosi llid neu chwyddiant ar yr ymennydd - yn 74 oed.

Mae enseffalitis yn gallu bod yn angheuol gydag un o pum achos yn arwain at farwolaeth.

Cafodd enseffalitis Helen ei achosi gan feirws herpes simplex (math HSV-1), neu'r dolur annwyd, sy'n effeithio ar tua 3.8 biliwn o bobl o dan 50 oed yn fyd-eang, neu 67% o boblogaeth y byd.

Dywedodd ei merch, Jane Richards, ei bod wedi mynd o fwynhau nofio yn y môr a mynd a'r ci am dro bob dydd i "gael trafferth gwneud atgofion newydd" mewn cyfnod byr o amser.

Jane Richards
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jane wedi gweld ei mam yn mynd o fod yn heini ac yn egnïol i fod angen cefnogaeth ei theulu

Roedd Helen yn ddynes "iach a llawn bywyd", meddai ei merch a oedd yn gwneud ymarfer corff yn ddyddiol yn ogystal â helpu i redeg busnes trafnidiaeth y teulu.

Ond ar 5 Medi'r llynedd dechreuodd hi deimlo'n sâl, gan brofi twymyn, poenau, blinder a chyfog.

Roedd meddyg teulu yn amau mai ​​haint wrin oedd yr achos, ond o fewn dyddiau daeth yn ddryslyd ac "roedd yn ymddwyn yn rhyfedd iawn", yn ôl Jane, 40.

Dyna pryd y cafodd ei derbyn i'r adran ddamweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.

Gwaethygodd ei chyflwr yn gyflym, gyda dryswch difrifol, trafferth cydsymud, a chysgadrwydd cynyddol, gyda Jane yn dweud y byddai'n rhaid iddi "egluro pob cam bach o unrhyw beth iddi".

Er iddi fynd ar wrthfiotigau, ni ddangosodd unrhyw welliant.

Yn ddiweddarach, datgelodd sgan CT fod ganddi lid ar yr ymennydd ac ar 12 Medi cafodd ddiagnosis o enseffalitis firaol.

HelenFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Helen eisiau annog teuluoedd eraill i fod yn wyliadwrus am symptomau enseffalitis

Treuliodd Helen gyfanswm o 12 wythnos yn yr ysbyty ac oherwydd y niwed i'r ymennydd a ddioddefodd, mae ei hadferiad wedi bod yn araf.

Mae hi wedi cael sesiynau ffisiotherapi a therapi galwedigaethol dwys, ond mae hi wedi cael trafferth - yn enwedig ers dychwelyd adref.

Mae Jane bellach yn gofalu am Helen gyda'i brodyr a'i chwiorydd.

Ar hyn o bryd mae Helen yn Ysbyty Treforys yn Abertawe ar ôl datblygu enseffalitis hunanimiwn, cymhlethdod a all ddilyn y ffurf firaol o'r cyflwr.

"Yn achos fy mam, mae ganddi anaf i'r ymennydd nawr sy'n golygu nad yw rhan o'i hymennydd yn gweithio," ychwanegodd Jane.

"Mae'n cael effaith fawr oherwydd yn amlwg rydyn ni'n gweithio ac rydyn ni'n teithio i Dreforys i ymweld â hi gymaint â phosib.

"Dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd yr effaith hirdymor."

Helen EdwardsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Cyn ei salwch, dywedodd Jane fod ei mam yn berson "bywiog ac yn heini"

Yn ôl Encephalitis International, sy'n cefnogi'r teulu, gall oedi cyn cael diagnosis arwain at niwed hirdymor pellach.

Mae Jane yn pwysleisio bod "gweithredu mewn amser yn hanfodol", gan y gall triniaeth gwrthfeirysol o fewn 48 awr leihau'r risg o symptomau difrifol.

Mae hi eisiau annog teuluoedd eraill i fod yn wyliadwrus am y symptomau.

"Allan nhw [y claf] ddim siarad a dweud beth sy'n bod. Nid yw meddygon bob amser yn gwybod amdano oherwydd nad ydyn nhw'n ei weld o'n aml.

"Gan fod yr amserlen yn bwysig, mae gwybod y symptomau yn wirioneddol bwysig."

Gwrthododd bwrdd iechyd Hywel Dda roi sylw ar yr achos penodol ond dywedodd fod staff wedi'u hyfforddi'n dda i ymateb yn gyflym i "ystod eang o sefyllfaoedd".

Dywedodd ei gyfarwyddwr meddygol gweithredol, Mark Henwood, fod enseffalitis yn "gyflwr prin a difrifol sy'n anodd ei ddiagnosio oherwydd bod y symptomau'n debyg i lawer o gyflyrau eraill".

Ychwanegodd fod y bwrdd iechyd wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth o glefydau, yn enwedig rhai cyffredin, gan ychwanegu bod staff wedi'u hyfforddi'n dda i ymateb yn gyflym i "ystod eang o sefyllfaoedd".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig