Teyrngedau i Huw Antur - 'un o fawrion ardal' Llanuwchllyn

Huw Antur Edwards a'i wraig BethanFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Huw Antur yn gadael "bwlch enfawr ar ei ôl ym mhob ffordd"

  • Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i gyn-gyfarwyddwr gwersyll Glan-llyn, Huw Antur o Lanuwchllyn a fu farw yn sydyn fore Sadwrn yn 63 oed.

Bu'n gweithio gyda Glan-Llyn am flynyddoedd - rhwng 2007 a 2023 cyn iddo ymddeol - ac roedd yn adnabyddus am ei waith yn hybu'r Gymraeg yn ardal pum plwy Penllyn.

Roedd hefyd yn weithgar yn datblygu cynlluniau i hybu'r ardal yn economaidd ac yn gymdeithasol.

Roedd Huw A, fel roedd yn cael ei adnabod, yn berson cymdeithasol iawn ac wedi bod yn aelod o nifer o gorau a phartïon gan gynnwys Tri Gog a Hwntw.

'Un o fawrion yr ardal'

Dywedodd cyn-aelod Seneddol yr ardal, Elfyn Llwyd fod "y pentre' a'r ardal gyfan mewn galar a sioc".

"Mae'r bwlch ar ei ôl o yn anhygoel," meddai.

"Person annwyl iawn - hiwmor sych neis gynno fo. Yn gymydog da ac yn gyfaill i'r pentre' a'r ardal i gyd.

"Fedrai'm canmol ei glodydd o ddigon," ychwanegodd. "Un o fawrion yr ardal."

Elfyn Llwyd
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r bwlch ar ei ôl o yn anhygoel," meddai Elfyn Llwyd

Roedd Huw Antur yn ŵr i Bethan ac yn dad i'r bardd Gruffudd Antur a'r cerddor Marged Gwenllian. Mae'n gadael chwaer Anwen.

Brynhawn Sadwrn bu munud o dawelwch er cof amdano cyn gêm bêl-droed tîm Llanuwchllyn yn erbyn Caersws.

'Ffrind i bawb'

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd mudiad yr Urdd eu bod yn rhoi teyrnged iddo "gyda thristwch mawr".

"Roedd Huw yn ŵr bonheddig, yn ffrind i bawb a phob amser yn barod ei gymwynas.

"Bydd ei wên gynnes a'i gyfraniad mawr i'r mudiad yn cael ei gofio'n annwyl.

"Dan ei arweiniad, bu'n rhan bwysig o greu'r profiadau a'r atgofion arbennig a gafodd cymaint o blant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru, yng Nglan-llyn."

Ychwanegon nhw eu bod yn "anfon cydymdeimlad diffuant at Bethan, Gruffudd a Marged.

"Mae ein meddyliau gyda'i deulu, ei ffrindiau a'i gymuned yn eu colled."

'Barod i roi ei amser, ei egni a'i brofiad'

Un arall oedd yn ei adnabod yn dda oedd y cynghorydd sir dros ward Y Bala, Dilwyn Morgan, a fu'n rhoi teyrnged iddo ar raglen Dros Frecwast fore Llun.

"Oedd ei gyfraniad o i ardal Llanuwchllyn, Y Bala a Phenllyn yn gymaint mwy nag un job o waith, un sefydliad, neu un fenter," meddai.

"Oedd ganddo fo'i fys ym mhob potas, a bob tro yn barod i roi ei amser, ei egni a'i brofiad - roedd ganddo fo feddwl fawr o'i gymuned.

"'Swn i'n gallu rhestru gymaint o fudiadau a chlybiau oedd Huw yn rhan ohono fo - 'swn i yma tan nos yn enwi nhw i gyd.

"[Fel] cyfarwyddwr gwersyll Glan-llyn, oedd o'n wyneb cyfarwydd i filoedd ar filoedd o blant ar draws y wlad a thu hwnt.

"Mi 'naeth o arwain y gwersyll trwy gyfnod lle oedd 'na lot o newid - y gwersyll yn datblygu bron yn wythnosol - a Huw oedd tu ôl i hynny."

Dilwyn MorganFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dilwyn Morgan fod cyfraniad Huw Antur "yn gymaint mwy nag un job o waith, un sefydliad, neu un fenter"

Ychwanegodd: "'Na i byth anghofio fo'n d'eud wrtha i ryw dro flynyddoedd yn ôl, 'dwi'n meddwl bod yr amser wedi dod i ni ddechrau gwneud pethau dros ein hunain - a pheidio disgwyl i eraill ddod yma i 'neud petha' drostan ni'.

"Mi arhosodd y frawddeg yna yn fy mhen am yn hir iawn.

"Mi ddangosodd Huw bod un person yn gallu gwneud gwahaniaeth i gymunedau ac i bobl.

"Dwi'n meddwl mai'r ffordd orau i ni anrhydeddu Huw ydy bo' ni'n cario 'mlaen - er mor anodd ydy hi ar hyn o bryd - bo' ni'n dal i ddatblygu ei syniadau fo a'r pethau oedd yn agos at ei galon o."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig