'Can mil o resymau i wenu' dros lwyddiant ymgyrch Merched y Wawr

Pedair aelod Merched y Wawr mewn ffedogau a wigiau pincFfynhonnell y llun, Merched y Wawr
Disgrifiad o’r llun,

Pedair o wirfoddolwyr Merched y Wawr mewn ffedogau a wigiau pinc ym mhabell y mudiad yn Eisteddfod y Garreg Las eleni ble roedd cyfle i hyrwyddo'r ymgyrch Positifrwydd Pinc

  • Cyhoeddwyd

Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un "arbennig a emosiynol" i lywydd presennol Merched y Wawr wrth i ymgyrch sy'n agos at ei chalon am resymau teuluol gyrraedd carreg filltir nodedig.

Fe nododd Bethan Picton-Davies y llynedd mai'r elusen yr oedd am ei chefnogi yn ystod ei dwy flynedd yn y rôl oedd Ymchwil Canser Cymru a'r ymdrech yn benodol i fynd i'r afael â chanser y fron.

Wrth lawnsio'r ymgyrch Positifrwydd Pinc, ei haddewid oedd i "beintio'r byd yn binc" er mwyn helpu i roi "gobaith, gofal, a gwellhad" i gleifion yng Nghymru.

Mae'r mudiad nawr wedi datgan bod aelodau wedi codi £107,241.65 hyd yn hyn trwy wahanol weithgareddau ar draws Cymru.

Fe fydd yr ymgyrch a'r gwaith codi arian yn parhau tan ddiwedd Awst nesaf pan fydd y mudiad yn dathlu ei 60 mlwyddiant.

Bethan Picton-Davies, Rhun ap Iorwerth, Margarette Hughes a Tegwen MorrisFfynhonnell y llun, Merched y Wawr
Disgrifiad o’r llun,

Bethan Picton-Davies (chwith) gyda'r Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, y Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Tegwen Morris a Llywydd Anrhydeddus y mudiad, Margarette Hughes

Cafodd y ffigwr ei gyhoeddi yn ystod cyfarfod yn Aberystwyth brynhawn Sadwrn.

"Diolch o galon i bawb sydd wedi cyfrannu, trefnu digwyddiadau a chefnogi mor frwd," dywedodd Bethan Picton-Davies, o Eglwyswrw.

"Mae'r llwyddiant hwn yn dyst i gryfder a haelioni ein haelodau a'n cefnogwyr

"Ar lefel bersonol mae hon wedi bod yn daith arbennig ac emosiynol i mi, yn llawn cyfleoedd ac atgofion gwerthfawr

"Mae cyflawni'r garreg filltir anhygoel o godi £100,000 tuag Ymchwil Canser Cymru yn mynd i aros gyda fi am byth, ac yn destun balchder enfawr i fi fel Llywydd Cenedlaethol."

Bethan Picton-Davies a Mari Grug mewn ffrogiau blodau pinc ar glawr rhifyn Hydref o gylchgrawn Merched y WawrFfynhonnell y llun, Merched y Wawr
Disgrifiad o’r llun,

Bethan Picton-Davies a Mari Grug mewn ffrogiau blodau pinc ar glawr rhifyn Hydref o gylchgrawn Merched y Wawr

Un o'r rhesymau dros yr emosiwn a'r balchder yw'r ffaith ei bod yn fodryb i'r gyflwynwraig Mari Grug, sy'n byw gyda chanser metastatig.

Mae hithau'n lysgennad erbyn hyn i Ymchwil Canser Cymru ac fe enillodd Wobr BAFTA Cymru yn ddiweddar am y rhaglen Mari Grug: Un Dydd Ar y Tro, sy'n olrhain y cyfnod wedi iddi gael gwybod ei bod â chanser am yr eildro.

Ond mae Bethan a'r teulu ehangach wedi dioddef profedigaeth yn sgil canser wedi i'w nai Aled farw yn 19 mlwydd oed y llynedd.

Fe fydd Bethan yn cyflwyno llyfr - Positifrwydd Pinc - Cymru drwy lygaid Merched y Wawr - er cof amdano yn ystod y Ffair Aeaf ddiwedd Tachwedd.

Mae aelodau wedi cefnogi'r ymgyrch Positifrwydd Pinc mewn sawl ffordd, gan gynnwys cymryd rhan yn ras heriol y SheUltra.

Ond un o elfennau amlycaf a mwyaf trawiadol yr ymgyrch yw'r ffrogiau o flodau pinc sydd wedi eu gwneud gan aelodau Merched y Wawr.

Mae'r ffrogiau wedi ymddangos mewn sawl digwyddiad ar draws Cymru, gan gynnwys y Sioe Fawr, lle bu Mari a Bethan yn eu gwisgo yng nghorlan Dai Llanilar.

Cawsant eu gwisgo yn ystod y cyngerdd Un mewn Dau ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol a bu arddangosfa, a'u gweld mewn arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Heulwen Davies yn sefyll wrth y ddwy ffrog o flodau pinc a gwisg Penmachno a wnaed gan Blancedi Dinefwr Ffynhonnell y llun, Merched y Wawr
Disgrifiad o’r llun,

Heulwen Davies yn sefyll wrth y ffrogiau pinc yng Ngŵyl Ranbarth Maldwyn ym Machynlleth dydd Sadwrn diwethaf

Mae'r ymateb i'r ymgyrch wedi bod yn "anhygoel", medd Tegwen Morris, Cyfarwyddwraig Cenedlaethol Merched y Wawr.

"Mae pawb â stori bersonol i'w rhannu," dywedodd.

"Mae cymaint o gefnogaeth i waith Ymchwil Canser Cymru gan fod pawb eisiau i fwy oroesi â'r clefyd."

Teulu'r diweddar gyn-lywydd Jill Lewis yn cyflwyno siec o £21,000 er cof amdani i Ymchwil Canser Cymru yn ystod Prifwyl eleniFfynhonnell y llun, Merched y Wawr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd rhan helaeth o'r cyfanswm sydd wedi ei hel hyd yn hyn - £21,000 - ei roi er cof am gyn-lywydd Merched y Wawr Jill Lewis

Dywedodd Iwan Roberts, Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata Ymchwil Canser Cymru, bod yr elusen "yn ddiolchgar iawn i Bethan ac i Ferched y Wawr am eu cefnogaeth trwy Brosiect y Llywydd".

"Heb os, mae'r gydnabyddiaeth yma ohonom ac o bwysigrwydd ein gwaith gan Ferched y Wawr yn ddatblygiad nodweddiadol yn ein hanes ni...

"Nod Ymchwil Canser Cymru ydi uno pobl Cymru yn erbyn canser trwy ariannu gwaith ymchwil canser o safon fyd-eang, ac yn sicr – gyda Merched y Wawr yn ein cefnogi - mi rydym ni gam agosach at gyflawni hynny."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol