Arestio dau ar ôl i bedwar gael eu trywanu yn Ninbych-y-pysgod

Dinbych-y-pysgod Ffynhonnell y llun, Pembrokeshire Herald
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i orsaf drenau'r dref tua 21:50 nos Fawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae bachgen 16 oed a dyn, 19, wedi cael eu harestio ar ôl i bedwar o bobl ifanc gael eu trywanu yn Ninbych-y-pysgod.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i orsaf drenau'r dref yn Sir Benfro tua 21:50 nos Fawrth, yn dilyn adroddiadau bod unigolyn yn cario cyllell.

Dyw anafiadau'r pedwar ddim yn rhai sy'n peryglu eu bywydau.

Cafodd dau eu harestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol, ac maen nhw'n parhau yn y ddalfa.

Dywedodd yr heddlu y bydd ganddyn nhw fwy o bresenoldeb yn yr ardal yn dilyn y digwyddiad, er mwyn rhoi tawelwch meddwl.

Heddlu Trafnidiaeth Prydain sy'n arwain yr ymholiadau, ac maen nhw'n apelio at unrhyw lygad dystion i gysylltu â nhw.

O ganlyniad i ymchwiliad yr heddlu yng ngorsaf Dinbych-y-pysgod, mae trenau rhwng Doc Penfro a Chaerfyrddin wedi'u canslo tan o leiaf 11:00 fore Mercher.