Dull newydd o helpu pobl ifanc i ddod o hyd i waith yng Ngwynedd

Y gobaith yw y bydd y cynllun yn helpu mwy o bobl ifanc i gael mynediad at waith, addysg a hyfforddiant
- Cyhoeddwyd
Mae dull newydd o helpu pobl ifanc i ddod o hyd i waith wedi dechrau yng Ngwynedd.
Yn hytrach na gorfod mynd i'r Ganolfan Waith i chwilio am swydd, bydd unigolion yn gallu cwrdd â staff yr Adran Gwaith a Phensiynau yng nghanolfan elusen GISDA yng Nghaernarfon, sy'n cynnig cymorth ehangach i bobl ifanc fregus.
Cafodd y bartneriaeth rhwng yr elusen a'r Adran Gwaith a Phensiynau ei lansio'n swyddogol yr wythnos hon.
Mae'r ddarpariaeth wedi bod ar waith ers tair wythnos, ac mae swyddogion yn dweud bod saith person eisoes wedi dechrau mewn swyddi yn ystod y cyfnod hwnnw.
Y nod yw cynnig cymorth cyflogaeth mewn amgylchedd llai ffurfiol na Chanolfan Waith swyddogol.
Ers degawdau, mae pobl ifanc yng ngogledd-orllewin Cymru wedi troi at elusen GISDA am gymorth gyda materion llesiant, tai, addysg a hyfforddiant.
O hyn ymlaen, bydd dau swyddog o'r Adran Gwaith a Phensiynau yn gweithio o'r ganolfan yng Nghaernarfon i'w helpu hefyd i ddod o hyd i waith.

Yn ôl Tony Potter, mae'r cynllun eisoes wedi helpu saith person ifanc i mewn i waith
Mae'r cynllun yn un o dros 150 o ddarpariaethau tebyg ledled y Deyrnas Unedig, yn ôl yr Adran Gwaith a Phensiynau.
"Mae'r canolfannau'n gret," meddai Tony Potter o'r Adran Gwaith a Phensiynau.
"Mae 'na tua 150 ohonyn nhw trwy'r wlad a 'dan ni'n gwbod bod nhw'n gweithio'n well na jyst yn yr office ei hun."
"Mae'r criw wedi yma ers tair wythnos a 'dan ni'n sôn am saith person ifanc wedi dechrau gwaith."
"Mae'n ffordd ofnadwy o dda o gael amser personol efo pobl ifanc i ddallt be' mae nhw angen a symud nhw ymlaen. So mae nhw'n gweithio'n gret."
Mae naw gwasanaeth o'r fath yn gweithredu yn ne Cymru eisoes, ond y ddarpariaeth yng Nghaernarfon yw'r gyntaf o'i bath yng ngogledd a chanolbarth Cymru.
'Mae hi'n eithriadol o anodd i bobl ifanc'
Mae angen mawr am y gwasanaeth, yn ôl Sian Tomos o elusen GISDA.
"Mae 'na dros filiwn o bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed yn ddiwaith yn y Deyrnas Unedig i gyd a dydy hi ddim yn edrych ar y funud bod y ffigyrau yna'n mynd lawr."

Dywedodd Sian Tomos fod llawer o bobl ifanc yn wynebu heriau wrth geisio dod o hyd i waith
"Felly 'dan ni'n awyddus iawn i chwarae ein rhan yng ngogledd-orllewin Cymru, mewn ardal lle 'dan ni'n gallu darparu gwasanaeth dwyieithog, cydweithio efo cyflogwyr lleol i roi y cyfleoedd gorau.
"Mae hi'n eithriadol o anodd i bobl ifanc," ychwanegodd Sian Tomos.
'Cael nhw i'r gegin yw'r her gyntaf'
Yn ogystal â chynnig cymorth a chyngor, mae GISDA hefyd yn darparu cyfleoedd profiad gwaith ers i gaffi newydd agor yn eu hadeilad yng Nghaernarfon.
Cafodd y prosiect ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd.
Dywedodd arweinydd y caffi, Ben Ellis, fod gweithio ym maes lletygarwch yn rhoi cyfle gwerthfawr i bobl ifanc ddatblygu sgiliau a magu hyder.
"Mae o'n fwy o job am bobl na dim byd arall rili.
"Ti'n dod i 'nabod pobl o bob agwedd, yn y gegin, ar y byrddau, bob man.
"Jyst cael nhw allan o'r gwely ac i mewn i'r gegin, dyna ydy'r her gyntaf."

Dywedodd Ben Ellis fod y caffi'n rhoi cyfle i bobl ifanc ennill profiad ymarferol a magu hyder yn y gweithle
Mae Llywodraeth Prydain yn bwriadu agor canolfannau cyflogadwyedd tebyg i'r un yng Nghaernarfon ym mhob awdurdod lleol yn y dyfodol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i helpu mwy o bobl ifanc i symud ymlaen i addysg, cyflogaeth a hyfforddiant, gan gydnabod bod rhai yn wynebu rhwystrau sy'n eu hatal rhag gwneud hynny.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.