Dyn o Lanrwst 'bron â marw' ar ôl i ddannoedd arwain at gyflwr calon prin

"Mae'n wyrth bo fi dal yma," meddai Danny Ellis
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Lanrwst yn dweud ei fod "bron â marw" ar ôl i ddannoedd arwain at gyflwr prin ar ei galon.
Fe ddechreuodd Danny Ellis, 42, brofi poen mewn dant yn ôl ym mis Ebrill pan aeth at ei ddeintydd ym Mae Colwyn lle cafodd ei roi ar gwrs o wrthfiotigau.
Ar ôl i'r boen ddiflannu am gyfnod, daeth yn ôl yn "waeth byth" ac aeth Danny yn ôl at y deintydd am sgan pelydr-x.
Dywedodd nad oedd olion o haint yn weledol yn y sganiau a dychwelodd adref gyda mwy o wrthfiotigau.
Fe ddilynodd patrwm cyfarwydd, gyda'r boen yn diflannu am gyfnod ond i ddychwelyd ar ôl cwpl o wythnosau - ond y tro yma, roedd y symptomau yn waeth gyda Danny yn colli ei nerth ac yn sylwi ar farciau coch ar ei gorff.

Sylweddolodd Danny bod marciau coch ar ei gorff
"Roedd y boen yn ofnadwy ac oedd rhaid i fi gymryd wythnos i ffwrdd o'r gwaith, rhywbeth fyddai byth yn gwneud," meddai Danny, sy'n rhedeg siop Spar ym Metws-y-Coed a Gwalia ym Mhwllheli.
"Roedd y symptomau yn dechrau mynd yn waeth, a'r boen hefyd - yn enwedig yn fy nghoesau - do'n i ddim yn gwybod be oedd yn mynd ymlaen."
Erbyn Sul y Tadau roedd Danny yn teimlo "allan ohoni ac yn methu cofio be o'n i wedi cael fel anrhegion" y bore hwnnw.
Pan gyrhaeddodd ei wraig, Ceri Angharad, adref o'r gwaith fe wnaeth hi ddarganfod o ar y soffa gyda briwiau ar ei gorff.

Danny gyda'i wraig Ceri Angharad a'i ferch Harriet
Aeth Ceri a fo i'r feddygfa ym Metws-y-Coed ar 23 Mehefin ac ar ôl nifer o brofion cafodd Danny ei ruthro mewn ambiwlans i Ysbyty Gwynedd.
"Dwi'n cofio gweld y nyrs yn rhedeg allan o'r stafell i alw am ambiwlans," meddai Danny.
"Ar ôl cyrraedd Ysbyty Gwynedd, o'n i'n ateb cwestiynau gan ddoctoriaid gwahanol wrth iddyn nhw wneud profion.
"Pan wnes i ddweud bo fi wedi cael poen mewn dant a wedi bod ar dabledi gwrthfiotig wnaeth gwyneb y doctor newid yn syth a wnaeth o ddweud bod angen echocardiogram."
Fe wnaeth yr echocardiogram, sy'n sganio'r galon, ddarganfod twll yn y falf fitral ar ei galon.
Roedd Danny hefyd wedi datblygu sepsis ac roedd hylif yn ei ysgyfaint.

"Roedd y marciau ar fy nwylo wedi troi o goch i ddu - roedd y sepsis yn lladd fi," meddai Danny
"Roedd y marciau ar fy nwylo wedi troi o goch i ddu - roedd y sepsis yn lladd fi," meddai.
"Wnaeth y doctor ddweud ar y pryd bo fi'n lwcus i fod yn fyw ond ro'n i'n ymladd am fywyd.
"Roedden nhw eisiau trosglwyddo fi i Ysbyty Broadgreen yn Lerpwl ond fyswn i ddim wedi goroesi'r siwrne."
Dywedodd Danny ei fod wedi cael diagnosis o endocarditis a bod rhaid iddo aros yn Ysbyty Gwynedd nes oedd o'n "ddigon cryf" i wneud y daith i Lerpwl.
Ar ôl wythnos o driniaeth ar ddrip gwrthfiotig yn yr ysbyty, cafodd Danny ei gludo ar frys i Ysbyty Brodgreen mewn ambiwlans arbennig.
Ailddechreuodd ei driniaeth yn syth ar ôl iddo gyrraedd yr ysbyty yn Lerpwl ac ar 6 Gorffennaf cafodd lawdriniaeth ar ei galon.

Danny gyda'i ddau frawd
Dywedodd Danny fod y llawdriniaeth wedi cael ei hatal ar ôl chwech awr oherwydd doedd ei waed ddim yn ceulo.
"Tase nhw ddim wedi stopio'r llawdriniaeth, fyswn i wedi marw," meddai.
"Dywedodd fy mrawd wrtha i ar ôl fod y llawdriniaeth heb fod yn llwyddiannus.
"Dyna'r tro cyntaf i'r sefyllfa daro fi ar lefel emosiynol ac o'n i'n teimlo'n drist iawn. Wnes i ddweud wrth fy mrawd mod i wedi blino o'r holl beth, wedi blino o ymladd."
Ond o fewn cwpl o ddiwrnodau, dywedodd y doctor wrth Danny eu bod wedi cael peiriant arbennig i helpu gyda'r ceulo a'u bod am geisio cwblhau'r llawdriniaeth.
Roedd y llawdriniaeth yn llwyddiannus yr eildro, gyda'r haint wedi'i glirio a'r twll yn y falf mitral wedi'i gau.
"Roeddwn nhw wedi gorfod tynnu fy nghalon allan i lanhau o," meddai Danny.
"Pan oedd y doctor yn darllen ei nodiadau ar ôl, dywedodd bod o'n wyrth bo fi dal yn fyw."
'Tebygolrwydd o oroesi yn 1%'
Ar ôl y llawdriniaeth cafodd Danny wybod ei fod wedi dioddef cyfres o strôcs tra'r oedd mewn ag allan o ymwybyddiaeth.
"Ro'n i'n teimlo fel bo fi'n llusgo fy ochr chwith ar ôl y llawdriniaeth a dyna pryd ges i wybod am y strôcs," meddai.
"Roedd rhywun wedi dweud wrthai ynghynt ond ro'n i wedi bod allan ohoni am mor hir ro'n i wedi anghofio.
"Ond ar ôl yr ail llawdriniaeth ar 8 Gorffennaf, dywedodd y doctor ei fod yn hapus iawn hefo'i waith a fod o erioed wedi gweld rhywun yn goroesi be wnes i.
"Dywedodd fod y tebygolrwydd o oroesi yn 1%, roedd yn wyrth."

"Roedd fy hogan bach a fy nheulu yn rhan mawr o fy adferiad," meddai Danny
Yn dilyn y llawdriniaeth yn Lerpwl, cafodd Danny ei drosglwyddo yn ôl i Ysbyty Gwynedd i gychwyn ei adferiad.
"Doeddwn i methu cerdded i ddechrau, doedd gennai'm y nerth i wneud dim byd," meddai.
"Roedd o'n anodd i ddechrau, o'n i wedi colli fy annibyniaeth a ro'n i'n ddibynnol ar eraill.
"Ond ar ôl ychydig o wythnosau yn Ward Prysor a lot o waith caled, fe wnes i gerdded efo fy merch, Harriet, am y tro cyntaf mewn misoedd ac roedd hynny'n emosiynol iawn.
"Roedd fy hogan bach a fy nheulu yn rhan mawr o fy adferiad a'n help mawr wrth i fi ymladd yn erbyn y holl beth. Dyna wnaeth gael fi drwodd."

Cafodd Danny ei ryddhau o'r ysbyty ar 19 Awst
"Un o'r pethau cyntaf wnes i ar ôl i fi adael yr ysbyty oedd mynd i weld fy neintydd achos o'n i'n gwybod fod o'n emosiynol iawn am y sefyllfa," meddai.
"Doedd dim bai arno fo o gwbl, roedd fy achos i a sut wnaeth o ddatblygu yn rywbeth mor brin. Gyda'r endocarditis doedd o ddim yn ddannoedd arferol.
"Dwi'n edrych ar ôl fy nannedd, yn glanhau nhw ddwywaith y dydd, felly doedd na ddim byd fyswn i wedi gallu ei wneud yn wahanol rili. Mae dal yn ddirgelwch i ddweud y gwir.
"Ges i'r senario gwaethaf posib hefo fy mhrofiad i. Gall unrhyw un gael poen mewn dant ond pan mae endocarditis yn rhan ohona fo, dyna pan mae pethau'n newid."

Dywedodd Danny fod cerdded gyda'i ferch am y tro cyntaf ar ôl ei lawdriniaeth yn "emosiynol iawn"
Bydd y broses adfer yn parhau am o leiaf 12 mis arall, meddai Danny, ond mae'n gobeithio gwella'n iawn.
"Dwi'n debygol o fod ar dabledi gwrthfiotig am weddill fy oes ond dwi'n teimlo fel dwi di gwella lot dros yr wythnosau diwethaf," meddai.
"Dwi'n gallu mynd â'r ferch i'r ysgol ar y funud a mae hynny'n ddigon am wan.
"Dwi dal yn teimlo'n wahanol ar fy ochr chwith a dwi'n gallu mynd yn flinedig yn hawdd ac anghofio be dwi isio'i ddweud ar adegau ond dwi'n gobeithio bydd hynny'n gwella gydag amser."

Dywedodd Danny fod ei wraig, Ceri, wedi achub ei fywyd
Dywedodd Danny ei fod yn "hynod ddiolchgar" am yr holl gymorth y mae wedi'i dderbyn y misoedd diwethaf.
"Yr holl staff yn Lerpwl, Bangor - maen nhw wedi bod yn anhygoel. Rhodri a'r tîm yn Ward Prysor, fyswn i ddim yma hebddyn nhw," meddai.
"Dwi'n cyfarfod y llawfeddyg o Broadgreen yn Lerpwl am y tro cyntaf ers y llawdriniaeth ddydd Mawrth - fydd hynna'n emosiynol iawn."
Ychwanegodd: "Ond Ceri wnaeth yr alwad cyntaf, hi oedd yn poeni yn y dechrau. Os fyswn i wedi disgwyl am ddiwrnod neu ddau arall fysa'r stori wedi bod yn wahanol iawn.
"Wnaeth hi achub fy mywyd,"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.