Dim hofrenyddion ar gael i ddiffodd tân mawr yng Ngwynedd

Yr olygfa o'r Rhinogydd ger Harlech wedi tân mawr
- Cyhoeddwyd
Does dim hofrenyddion ar gael i gynorthwyo'r gwasanaeth tân wrth iddyn nhw geisio mynd i'r afael â thân mawr ar fynyddoedd y Rhinogydd yng Ngwynedd.
Mae'r gwasanaeth tân yn delio â'r tân yn ardal Llyn Cwm Bychan, ger Harlech, ers dydd Sul, ac er i'r sefyllfa fod dan reolaeth am gyfnod fe aildaniodd ddydd Mercher.
Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod wedi derbyn a chymeradwyo cais gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am gymorth o'r awyr, ond does dim hofrenyddion arbenigol ar gael oherwydd galw mawr am eu cymorth ar draws y DU.
Ychwanegodd bod dim disgwyl i hofrennydd fod ar gael" tan wythnos nesaf" ond eu bod yn parhau i geisio cael cefnogaeth o'r awyr "cyn gynted ag y bydd awyren ar gael" a bod swyddogion CNC "yn cefnogi'r ymateb ar y ddaear" yn y cyfamser.
Dywed AS Dwyfor Meirionydd, Liz Saville-Roberts, bod diffyg capasiti yn "peri pryder" wrth i danau mawr ddigwydd yn amlach, gan ofyn a ddilyd ystyried darparu cymorth milwrol i gefnogi'r gwasanaethau brys.
Dywed y Weinyddiaeth Amddiffyn bod angen i Lywodraeth Cymru wneud cais am gymorth milwrol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am ymateb.
Mae criwiau hefyd yn delio â thân eithin sylweddol yng Nghaergybi, ac yn parhau i fonitro ardal tân sylweddol ddechrau'r wythnos yn Sir Conwy.
Disgwyl mwg dros y penwythnos
Yn eu datganiad diweddaraf brynhawn Gwener, dywedodd gwasanaeth tân y gogledd bod criwiau "yn parhau i weithio i ddod â'r tân [ym mynyddoedd y Rhinogydd] dan reolaeth gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau diffodd tân".
Mewn datganiad blaenorol, dywedodd y gwasanaeth bod cais wedi ei wneud am gymorth o'r awyr "yn sgil y tir mynyddig a'r mynediad cyfyngedig" i'r safle, ond gan nad yw hynny'n bosib am y tro "mae criwiau'n parhau i ddefnyddio tactegau ar y ddaear i ddod â'r tân o dan reolaeth".
Mae ffyrdd lleol a llwybrau troed ger mynyddoedd Rhinogydd ar gau ac mae yna apêl i'r cyhoedd gadw draw o'r ardal.
Mae trigolion lleol wedi cael cyngor i gau eu ffenestri a'u drysau ac i gysgodi dan do wrth i gyfeiriad y gwynt newid.
Mae criwiau hefyd yn ymateb i dân ar gyrion Caergybi
Yr un yw'r cyngor yn ardal Pentrefelin yng Nghaergybi, lle mae criwiau'n gweithio i ddiffodd "tân ar dir prysg sy'n effeithio ar oddeutu 1,000 metr sgwâr o dir".
Ond mae'r gwasanaeth yn dweud, er mwyn "tawelu meddwl" trigolion lleol, "nad oes gofyniad ar hyn o bryd i wacáu ardal Pentrefelin".
"Mae diffoddwyr tân dal i fod ar y safle, yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n agos, ac yn cadw cysylltiad rheolaidd â'r rhai sy'n byw gerllaw.
"Os bydd amgylchiadau'n newid, bydd cymorth a chymorth priodol yn cael ei ddarparu."
Yn Sir Conwy, mae swyddogion "yn parhau i fonitro ac asesu'r sefyllfa" yn ardal Capel Ulo, wedi tanau mawr a olygodd bod yn rhaid i nifer o drigolion adael eu cartrefi ddydd Sul a chael lloches tan iddynt allu mynd adref nos Lun.
Ond mae'r gwasanaeth yn apelio ar bobl i gadw draw o ardaloedd ble mae tanau "gan gynnwys lleoedd yr effeithiwyd arnynt yn gynharach yr wythnos hon", yn dilyn "adroddiadau o feicwyr a cherddwyr ger Bwlch Sychnant".
Dywed datganiad y gwasanaeth: "Mae cadw'n glir yn helpu i'ch diogelu, yn cefnogi gwaith atgyweirio, ac yn cadw mynediad ar agor i gerbydau brys."

Mae'r cyhoedd "yn haeddu atebion" ynghylch darparu adnoddau i reoli tanau, medd Liz Saville-Roberts
Dywedodd Liz Saville-Roberts AS ei bod yn "hynod bryderus bod diffoddwyr tân yn ceisio mynd i'r afael â'r tân heb gymorth digonol o'r awyr".
"Mae'r digwyddiad hwn yn codi cwestiynau sylfaenol ynghylch y diffyg capasiti hofrenyddion sydd ar gael i ymateb i danau mawr ar draws Cymru a gogledd Lloegr - yn enwedig os yw tanau yn dod yn nodwedd fwy rheolaidd o'n hafau," meddai.
Ychwanegodd bod y "cyhoedd yn haeddu atebion", gan alw ar "weinidogion i ddatgan a yw defnyddio adnoddau milwrol yn cael ei ystyried i helpu criwiau blinedig ar y ddaear".
Tân mawr yn y gogledd yn gorfodi trigolion i adael eu cartrefi
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Disgwyl mwg am ddyddiau wedi tanau gwyllt, gyda rhybudd i bobl fregus
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Mae'r achosion diweddar hyn "yn dangos pa mor gyflym y gall tanau ledaenu yn yr amodau presennol", yn ôl Andrew McLaren o Wasanaeth Tân y Gogledd.
"Wrth i bobl fwynhau gwyliau'r haf, rydym yn gofyn i bawb weithredu'n gyfrifol a'n helpu i ddiogelu ein cefn gwlad.
"Peidiwch â chynnau tân mewn mannau agored, peidiwch â defnyddio barbeciw tafladwy mewn ardaloedd gwledig, a gwaredwch eich deunyddiau ysmygu yn ddiogel bob amser.
"Gall camau bach wneud gwahaniaeth mawr a helpu i atal tanau a all gael effaith ddinistriol ar ein cymunedau, ein bywyd gwyllt a'n hamgylchedd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.