Faint fysach chi'n fodlon talu am adfail heb do yn Llanberis?
- Ffynhonnell y llun, Dafydd Hardy | Auction House

Disgrifiad o’r llun, Mae tyfiant trwchus o amgylch yr hen adfail
1 o 5
- Cyhoeddwyd
Gyda'r cynnydd ym mhrisiau tai yn y blynyddoedd diwethaf, mae llawer yn teimlo bod y freuddwyd o berchen ar eu cartref eu hunain y tu hwnt iddynt.
O glywed bod eiddo wedi cyrraedd y farchnad gyda phris gofynnol o £17,000 neu fwy, yr ymateb rhesymol fyddai: 'Be' sydd o'i le arno?'
A'r ateb yn achos eiddo 400 mlwydd oed yng Ngwynedd yw ei fod yn adfail a does ganddo ddim to.
Mae Tŷ Du yn Llanberis mewn man goediog yng nghodre'r Wyddfa ac yn dyddio'n ôl i'r 13eg Ganrif.
Bu'n gartref am 20 mlynedd i'r bardd Dewi Arfon, yn ôl yr arwerthwyr Auction House - ac ar un cyfnod yn y 18fed Ganrif i ddyn cryfaf gogledd Cymru!
Ac fe fu Esgob Caerloyw, Godfrey Goodman, yn byw yno hefyd ar ôl cael ei alltudio gan Oliver Cromwell yn 1650 - y teulu Goodman o Ruthun oedd yn berchen ar y tŷ ar y pryd.
Gobaith i ddynes leol wedi siom caniatâd cynllunio
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2022
Arddangosfa o lythyrau caru mewn adfail ar ochr mynydd
- Cyhoeddwyd21 Medi 2021
Tŷ platfform oedd Tŷ Du yn wreiddiol, mae'n debyg, cyn gwaith yn y 17eg Ganrif i ychwanegu llawr arall.
Mae wedi ei nodi yn Rhestr y Comisiwn Brenhinol fel adeilad domestig pwysig yn y plwyf.
Dywed yr arwerthwyr bod waliau'r adfail yn gyfan hyd at lefel y bondo, ac mae dau adeilad arall ar y safle yn rhan o'r gwerthiant - hen efail a hen siop.
Mae'r perchnogion, sydd o Ynys Môn, wedi diogelu ffrâm-A y to a darnau pren pellach.
Tu ôl i'r tŷ mae hen lwybr ceffylau pwn oedd yn arfer cysylltu Llanberis â Chaernarfon.
Fe fydd yr arwerthwyr yn derbyn cynigion am yr eiddo ar-lein ddydd Llun a dydd Mawrth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.



