Jane Dodds yn galw am dreth cyfoeth ar gwmnïau AI i ariannu incwm sylfaenol

Jane DoddsFfynhonnell y llun, Getty Images
GanCatrin Haf Jones
Gohebydd gwleidyddol
  • Cyhoeddwyd

Mae arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi galw am dreth cyfoeth newydd ar gwmnïau AI er mwyn ariannu incwm sylfaenol cyffredin i bawb.

Wrth annerch cynhadledd y blaid Brydeinig yn Brighton, dywedodd Jane Dodds fod angen i'w phlaid fod yn "fwy blaengar a mwy cyffrous".

Dywedodd hefyd ei bod wedi cael ei "siomi" gan ganlyniad etholiad y Senedd ym mis Mai a'i bod yn cwestiynu rhai o ddewisiadau polisi ei hymgyrch.

Yn ôl Jane Dodds, roedd angen gofyn a oedd hi'n iawn i wrthwynebu annibyniaeth fel un o linellau coch y blaid a rhoi cymaint o bwyslais ar ofal cymdeithasol.

Jane Dodds oedd yr unig Ddemocrat Rhyddfrydol i gael ei hethol i Senedd Cymru yn etholiad mis Mai, ac mae'r blaid wedi cael un aelod yn unig yn gyson yn y Senedd ers etholiad 2016.

Dywedodd eu bod nhw'n "gwestiynau teg a dylid bod yn onest wrth ddysgu ohonyn nhw", ond galwodd hefyd ar ei phlaid i fod yn "fwy blaengar, mwy cyffrous a mwy ysbrydoledig".

Un o'i galwadau polisi yn yr araith oedd mynd i'r afael â bygythiad deallusrwydd artiffisial i fywyd a gwaith pobl, gan gyflwyno "treth cyfoeth ar gwmnïau AI a chreu cronfa incwm sylfaenol cyffredinol, fel bod enillion y chwyldro yn cael eu rhannu rhwng pawb".

Fe alwodd hefyd am ragor o weithredu ar newid hinsawdd, gan ddweud bod angen "bod yn onest am beth sy'n dod nesa", gan gynnwys "hedfan llai, buddsoddi go iawn mewn trafnidiaeth gyhoeddus, a gwneud hi'n haws i deulu ddewis car trydan yn hytrach nag un petrol".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.