'Beth am yr effaith ar y plant?' - mynnu profion gwaed wedi pryderon am lygredd PCB

Lagŵn LlwyneinionFfynhonnell y llun, BBC/Wall to Wall
Disgrifiad o’r llun,

Mae pwll Llwyneinion yn un o'r safleoedd lle mae pryder am lefelau cemegion PCB

GanSteffan Messenger
Gohebydd amgylchedd
  • Cyhoeddwyd

Mae trigolion sy'n poeni eu bod wedi'u heffeithio gan wastraff diwydiannol gwenwynig wedi beirniadu Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) am wrthod cefnogi cynllun profion gwaed.

Daw yn dilyn canfyddiadau rhaglen ddogfen ddiweddar yn ymchwilio i ddympio hanesyddol o gemegion PCB - all achosi canser - ar draws Cymru.

Mae aelodau grŵp ymgyrchu newydd o bobl sy'n byw ger y safleoedd dan sylw wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod bellach yn teimlo "ofn a gofid", ac y byddai cynnal profion gwaed yn "tawelu meddyliau".

Mae ICC yn mynnu na fyddai profion gwaed yn darparu "ffordd ddibynadwy" o asesu i ba raddau mae unigolyn wedi'i effeithio gan gemegion PCB na'r goblygiadau o ran eu hiechyd.

Natalie Dugdale
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Natalie Dugdale ei bod hi'n gwybod dim am hanes y pwll cyn prynu tŷ yn Llwyneinion ddwy flynedd yn ôl

Pan symudodd Natalie Dugdale, 33, i Lwyneinion ar gyrion Wrecsam ddwy flynedd yn ôl, roedd hi'n meddwl y byddai'n lle perffaith i fagu ei theulu ifanc.

Byddai hi a'i phartner yn mynd â'u plant bach a'u cŵn am dro o amgylch llwybrau cyhoeddus yr ardal drwy goetir a ger pwll dŵr mawr.

Ond pan wyliodd raglen Buried with Michael Sheen yn ddiweddar fe ddaeth i wybod am y tro cyntaf am hanes y pwll fel safle claddu ar gyfer cemegion allai fod yn beryglus.

"Ro'n i'n gofidio'n fawr, achos gyda phlant ifanc, o'n i'n gofyn 'beth am yr effaith arnyn nhw?'" meddai.

'Pawb wedi marw'

Bu Michael Phillips, 63, yn chwarae ar lannau'r pwll fel bachgen ifanc, a ddegawdau yn ddiweddarach fe ddatblygodd fath prin iawn o ganser yn ei ysgwydd.

Mae'n dweud i'w ffrindiau oedd yn chwarae yno'n gyson wynebu sefyllfa debyg - ac mae'n amau bellach bod yna gysylltiad â'r llygredd, er nad yw hynny wedi'i brofi.

"Byddwn i'n dweud bod bob person oedd yn chwarae yn y pwll oedd yn agos i fi, ar wahân i un ffrind sydd wedi cael llawdriniaeth i gael gwared â'r peth, bellach wedi marw [o ganser]," meddai

"Mae'n rhaid i hyn stopio."

Michael Phillips
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Michael Phillips bod nifer o'i ffrindiau wedi marw o ganser

Cafodd pwll Llwyneinion ei ddisgrifio fel "gwarth ar Brydain" gan newyddiadurwyr oedd yn gyfrifol am y rhaglen ddogfen ddiweddar am ddympio hanesyddol o gemegion PCB gan gwmni mawr Monsanto, oedd â ffatrïoedd yn Wrecsam a Chasnewydd.

Daeth y tîm cynhyrchu o hyd i lefelau uwch o'r cemegion mewn samplau o bridd o amgylch y pwll, yn ogystal â 13 o safleoedd eraill drwy Gymru lle mae amheuaeth i Monsanto gladdu eu gwastraff.

Roedd lefelau "uchel iawn" o gemegion PCB yng ngwaed Mr Phillips hefyd, yn dilyn profion preifat a gafodd eu comisiynu ar gyfer y rhaglen ddogfen.

Ar un adeg, roedd PCBs yn cael eu defnyddio'n eang mewn pethau mor gyffredin â lipstic a theclynnau cartref mawr.

Ond bellach maen nhw wedi eu gwahardd ledled y byd fel sylweddau sy'n achosi canser, ac yn cael eu hystyried y "cemegau tragwyddol" cyntaf – cemegau sy'n cronni yn yr amgylchedd ac yn bygwth bywyd gwyllt ac iechyd pobl.

Lucy Taylor, Michael Sheen a Dan AshbyFfynhonnell y llun, Parliament TV
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Michael Sheen roi tystiolaeth i Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan yn dilyn ei raglen ddogfen gyda'r BBC

Mae Michael Phillips a Natalie Dugdale bellach wedi ymuno â grŵp ymgyrchu newydd, sy'n cynnwys cannoedd o drigolion sy'n byw ger cyn-weithfeydd Monsanto ym mhentrefi Cefn Mawr, Acrefair a Threfor.

Un o'u galwadau - yn ogystal â rhaglen genedlaethol i brofi'r pridd yn y safleoedd dan sylw - yw cynnig profion gwaed i'r rhai sy'n dymuno.

Nododd Katie Witherden, cynghorydd cymunedol sy'n un o sylfaenwyr y grŵp, bod tîm cynhyrchu'r rhaglen ddogfen wedi gorfod dibynnu ar astudiaeth fawr yn yr Unol Daleithiau er mwyn gallu asesu a chymharu lefelau PCB yng ngwaed y bobl roedden nhw wedi'u profi yn lleol.

"Mae 'na botensial mawr yn fan hyn i Gymru... i wir arwain y ffordd a dangos i weddill y DU sut mae delio efo'r risg," meddai.

"Byddai'n rhoi atebion i bobl... a dwi'n meddwl ein bod ni gyd yn haeddu'r hawl i ddewis a ydyn ni eisiau gwneud hyn."

'Llwch yn disgyn fel plu eira'

Dywedodd Arfon Huw, a gafodd ei fagu ger y gweithfeydd: "Hyd yn oed os dydy o ddim ar lefel genedlaethol, yn sicr dylid o leiaf cynnig profion PCB i deuluoedd lleol a gafodd eu magu efo'r llygredd yma - gallai hynny helpu i dynnu sylw at ein pryderon.

"Wrth dyfu i fyny dwi'n cofio... llwch yn disgyn fel plu eira o fwg y ffatri, yn glanio ar bob dim - gerddi, llinellau dillad, ein ceir ac arnom ni.

"Bu farw fy Mam yn gynnar yn ei 30au yn dilyn canser anarferol," meddai, "ac fe ddatblygais i fy hun ganser prin... yn fy 50au."

Arfon Huw
Disgrifiad o’r llun,

Mae Arfon Huw yn cofio llwch yn disgyn "fel plu eira" o ffatri Monsanto yn ardal Cefn Mawr

Mewn ymateb i alwadau trigolion a gwleidyddion - gan gynnwys Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan - fe gyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddatganiad yr wythnos yma yn dweud na fyddai'n argymell rhaglen profi gwaed.

"Nid yw profi am PCBs yn y gwaed yn dweud wrthym sut na ble y gallai pobl fod wedi dod i gysylltiad â nhw," meddai'r corff, gan fod cymaint o wahanol ffynonellau, gan gynnwys bwyd a deunyddiau yn ein cartrefi.

Gan nad oes ffordd o drin lefelau uwch yn y gwaed mae "risg" hefyd o achosi mwy o bryder ymhlith pobl.

Mae Natalie Dugdale wedi disgrifio'r datganiad fel un "siomedig".

"Dwi'n meddwl bod lot o bobl yn teimlo pryder yn barod, ac mae'n fwy pryderus peidio gwybod," meddai.

Dywedodd Steve Witherden - gŵr Katie a'r aelod seneddol dros Faldwyn a Glyndŵr - bod yr ymateb yn un "oeraidd".

"Fy ngobaith i yw eu bod nhw'n adolygu eu safbwynt - mae 'na deimladau cryfion iawn ymysg y sawl sy'n byw yn ymyl y safleoedd yma neu wedi gweithio ynddyn nhw, mae 'na alw mawr."

Mae'r athro Sarah Jones, ymgynghorydd mewn iechyd cyhoeddus amgylcheddol gyda ICC, yn cydnabod bod gwrthwynebiad y corff i brofion gwaed yn "neges anodd".

Dywedodd mewn cyfweliad â BBC Cymru: "Ry'n ni'n cydnabod bod cymunedau yn poeni a mae hynny'n ddealladwy, ond dyw'r profion ddim o reidrwydd yn mynd i ddarparu unrhyw atebion da.

"Yn gyffredinol pan ry'n ni'n 'neud unrhyw fath o brofi ry'n ni eisiau gallu gwneud pethau'n iawn i bobl a dyna be na allwn ni 'neud yn fan hyn."

Mae hi'n dadlau bod gormod o bethau'n aneglur am effaith casgliadau o PBCs ar y corff, a dim triniaeth i'r rheiny fyddai'n clywed bod ganddyn nhw lefelau uwch yn eu gwaed.

"Y cyfan allen ni wneud yw rhoi rhif [i bobl] na fydden ni'n gallu ei ddadansoddi ac yna fydden ni ddim yn gallu [eu trin nhw] chwaith."

Byddai hyn "yn creu hyd yn oed mwy o ofid, sy'n niwed i'r iechyd yn ei hun," meddai.

O gael ei holi a fyddai cost llunio rhaglen profi gwaed yn ffactor, dywedodd: "Na... dyw hyn ddim ynglŷn ag arian."

Yn hytrach na phrofi gwaed, mae hi'n dadlau y dylai awdurdodau cyhoeddus ganolbwyntio ar gymryd "pa bynnag gamau sydd eu hangen i wneud y [safleoedd dympio honedig] yma mor ddiogel â phosib".

'Y llygrwr sy'n talu'

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod "mynd i'r afael â mater tir halogedig yn flaenoriaeth allweddol".

"Byddwn yn datblygu strategaeth ar gyfer Cymru gyfan i adfer tir ôl-ddiwydiannol yn raddol, fel na fydd cymunedau bellach yn agored i risgiau posibl.

"Bydd hyn yn cynnwys cryfhau'r 'egwyddor mai'r llygrwr sy'n talu', wrth i ni barhau i bwyso am gyfiawnder amgylcheddol drwy bwysleisio pwysigrwydd ceisio cyllid gan Lywodraeth y DU yn uniongyrchol gan Drysorlys y DU.

"Dylid defnyddio hyn i barhau â'n hymdrechion ar y cyd i fynd i'r afael ag etifeddiaeth gorffennol diwydiannol Cymru drwy adfer tomenni glo a gwaith adfer tir halogedig."

Dyw Monsanto ddim yn bodoli bellach. Nid yw Eastman Chemical Company, sy'n gyfrifol am etifeddiaeth cynhyrchu'r cwmni yn y DU, wedi ymateb i geisiadau'r BBC am sylw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.