Cymru heb Wilson, Broadhead a Darlow ar gyfer Cynghrair y Cenhedloedd

Nid yw Harry Wilson, Nathan Broadhead a Karl Darlow yn y garfan
- Cyhoeddwyd
Bydd yn rhaid i Gymru chwarae eu gemau nesaf yng Nghyngrair y Cenhedloedd heb Harry Wilson, Nathan Broadhead a Karl Darlow.
Does yr un ohonyn nhw yng ngharfan Craig Bellamy gan fod Wilson wedi dioddef anaf i'w glun a Broadhead hefyd wedi brifo.
Tynnodd Darlow yn ôl o'r garfan hefyd, er iddo gael ei gynnwys ar y fainc i Manchester United ddydd Sul.
Mae Bellamy wedi galw'r gôl-geidwad profiadol, David Cornell - a ymunodd â Chaerlŷr yn ddiweddar - i'r garfan.
Mae hefyd wedi cynnwys ymosodwr Huddersfield Town, Joe Taylor a chwaraewr canol cae Reading, Charlie Savage, i'r grŵp.
Fe fydd Cymru yn wynebu Portiwgal oddi cartref ar 24 Medi cyn teithio i herio Denmarc ar 27 Medi.
Yna bydd dwy gêm gartref yn erbyn Norwy ar 1 Hydref, a Denmarc ar 4 Hydref.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
