Kinnock yn cyhuddo Llywodraeth Cymru 'o rwystro buddsoddiad'

Dyma araith gyntaf Stephen Kinnock i gynhadledd y Blaid Lafur ers cael ei benodi'r Ysgrifennydd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgrifennydd Cymru wedi cyhuddo llywodraeth Plaid Cymru o rwystro buddsoddiad yng Nghymru ac wedi galw arni i gydweithio'n agosach â gweinidogion Llywodraeth Prydain.
Wrth siarad yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl, dywedodd Stephen Kinnock fod Plaid Cymru yn "oedi" ar gytundebau a bod hynny'n arwain at "oedi o ran swyddi a sicrwydd".
Dywedodd ei fod am "estyn llaw" at Lywodraeth Plaid Cymru er mwyn bwrw mlaen oherwydd bod cytundebau eisoes ar y gweill yn Lloegr.
Roedd yr Aelod Seneddol dros Aberafan Maseteg hefyd yn awyddus i weld mwy o ddatganoli lleol a rhanbarthol o fewn Cymru.
Dywedodd Kinnock wrth aelodau fod Andy Burnham yn deall yr angen am gydweithio a "bod gyda ni fwy o nerth pan ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd".
Ei neges i Blaid Cymru, meddai, oedd "i weithio gyda ni".
'Rhoi grym yn nwylo'r bobl yw cam nesaf datganoli' - Ken Skates
- Cyhoeddwyd11 awr yn ôl
Dywedodd: "Peidiwch a llaesu dwylo, gwthiwch y cynlluniau seilwaith ynni drwy'r broses gynllunio, caniatewch uwchraddio band eang ar gyfer miloedd o gartrefi, a chadwch at eich gair ar ein Cytundeb Twf Amddiffyn gwerth £50 miliwn."
Galwodd hefyd ar Lywodraeth Cymru i ddilyn Lloegr a gwario'r arian newydd ar gyfer darparu addysg anghenion ychwanegol mewn ysgolion yn Lloegr ar yr un achos yng Nghymru, gan ddweud wrthyn nhw am "drosglwyddo yr arian hwnnw i'r plant sydd ei angen".
Dewis Llywodraeth Cymru yw sut mae gwario unrhyw arain a ddaw yn sgil gwariant yn Lloegr.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am ymateb.
'Perygl o fod y genedl leiaf datganoledig'
Fe ddefnyddiodd Stephen Kinnock ei araith hefyd er mwyn galw am ddatganoli mwy lleol o fewn Cymru, gan ddweud fod perygl mai Cymru fydd y genedl leiaf datganoliedig ym Mhrydain os yw'r rhaglen ddatganoli yn Lloegr yn rhoi mwy a mwy o bwerau i faeri rhanbarthol a chynghorau lleol.
Dywedodd fod "pobl Cymru yn haeddu lefelau tebyg o reolaeth dros benderfyniadau â phobl yr ochr arall i'r ffin".
Wrth siarad â rhaglen Politics Wales o Lerpwl, dywedodd Kinnock y byddai llywodraeth Prydain yn rhoi "ystyriaeth ofalus" i unrhyw gynigion gan lywodraeth Cymru i ddatganoli rhagor o bwerau i'r Bae, ond awgrymodd y gallai trosglwyddo cyfrifoldeb am blismona beryglu cydweithrediad trawsffiniol rhwng heddluoedd.
"Y cwestiwn yw, a fydd hynny'n lleihau troseddu? A fydd hynny'n gwneud pobl Cymru yn fwy diogel?
"Yr hyn ry'n ni yn ei wybod yw bod lefel enfawr o integreiddio rhwng heddluoedd Lloegr a Chymru.
"O ran materion fel county lines, lle mae angen cydweithrediad cadarn iawn rhwng heddluoedd yng ngogledd-orllewin Lloegr, er enghraifft, neu Avon a Somerset a lluoedd yng Nghymru, gadewch i ni beidio â gwneud unrhyw beth sy'n peryglu'r integreiddio hwnnw."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.