Gwahardd defnyddio pibelli dŵr mewn rhannau o'r gorllewin

Mae'r gwaharddiad dros dro ar ddefnyddio pibelli dŵr mewn rhannau o'r gorllewin mewn grym o ddydd Sul ymlaen
- Cyhoeddwyd
Mae Dŵr Cymru'n cyflwyno gwaharddiad dros dro ar ddefnyddio pibelli dŵr (hosepipes) mewn rhannau o'r gorllewin o ddydd Sul ymlaen.
Mae'r gwaharddiad mewn grym ar gyfer 33,000 eiddo ar draws canolbarth a de Ceredigion, ynghyd â rhannau o ogledd Sir Benfro a gogledd sir Gaerfyrddin.
Daw "yn dilyn cyfnod estynedig o alw uchel dros ben am ddŵr yfed".
Ychwanegodd Dŵr Cymru y bydden nhw'n codi'r cyfyngiadau "cyn gynted ag y bydd y tymheredd yn disgyn a'r storfeydd yn dychwelyd i lefelau mwy arferol".
Tebygol y bydd gwaharddiad ar bibelli dŵr yn y gorllewin yn fuan
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Mae tua biliwn o litrau o ddŵr wedi cael eu cyflenwi bob dydd yn ystod yr wythnos ddiwethaf – tua 20% yn fwy na'r hyn sy'n cael ei ddisgwyl fel arfer ar yr adeg yma o'r flwyddyn, yn ôl Dŵr Cymru.
Ychwanegon nhw fod "lefelau'r cronfeydd yn iach o hyd" ac mai'r "her yw adfer storfeydd lleol yn ddigon cyflym i ddiwallu'r galw digynsail estynedig".
Mae'r ardal dan sylw yn ymestyn o Lan-non, Llangwyryfon a Chwm Ystwyth yng Ngheredigion, hyd at Crymych, Llanfyrnach a Nanhyfer yng ngogledd Penfro, ac hefyd i mewn i rannau o ogledd Sir Gaerfyrddin i lawr i Ffarmers, Pencader a Hermon.
Dywedon nhw fod modd i gwsmeriaid ddefnyddio chwiliwr cod post ar wefan Dŵr Cymru i weld a ydyn nhw o fewn yr ardal ble mae'r gwaharddiad mewn grym.
Yn cael eu holi a fyddai pobl yn cael dirwy am anwybyddu'r gwaharddiad, dywedodd Dŵr Cymru mai eu gobaith yw "helpu cwsmeriaid i ddeall pam bod angen y cyfyngiadau dros dro ac annog pawb i chwarae eu rhan".
Ychwanegon nhw na gafodd unrhyw un eu herlyn yn ystod cyfyngiadau tebyg yn 2022.

Mae'r galw am ddŵr wedi bod yn uwch na'r arfer ers wythnos bellach, o ganlyniad i'r tywydd poeth
"Mae cronfeydd gwasanaeth lleol wedi bod yn cael eu gwacau yn gynt nag y gellir eu hadlenwi, gan gynyddu'r risg y bydd cwsmeriaid yn profi pwysedd dŵr isel neu doriadau yn eu cyflenwadau," meddai Dŵr Cymru.
Mae'r corff wedi bod yn cymryd "camau helaeth" er mwyn ceisio osgoi hyn medden nhw, gyda:
Dŵr ychwanegol yn cael ei symud o gwmpas y rhwydwaith lle bynnag mae modd;
Cronfeydd gwasanaeth lleol (tanciau storio danddaear) yn cael eu cadw mor llawn â phosib;
Miloedd weithwyr yn trwsio gollyngiadau a chynnal cyflenwadau
Fflyd tanceri gyfan y cwmni'n cynorthwyo'r ardaloedd lle mae'r pwysau mwyaf.
Esbonion nhw fod disgwyl hefyd "i'r niferoedd cynyddol o bobl sy'n dod ar eu gwyliau neu i ymweld â'r ardal wrth i dymor y gwyliau haf ddechrau ychwanegu pwysau pellach ar y rhwydwaith".
Felly mae angen "mesur brys", a'r nod yw "helpu i sicrhau y gall cyflenwadau dŵr dibynadwy barhau ar gyfer cartrefi, busnesau a gwasanaethau hanfodol".
Dywedodd prif swyddog cwsmeriaid Dŵr Cymru, Kit Wilson: "Nid ar chwarae bach y gwnaed y penderfyniad yma, ac rydyn ni'n gwerthfawrogi y bydd y cyfyngiadau dros dro yma'n siomi rhai cwsmeriaid, yn arbennig mewn cyfnod o dywydd poeth.
"Fodd bynnag, ar ôl sawl wythnos o alw digynsail, mae hi wedi dod yn angenrheidiol er mwyn helpu i amddiffyn cyflenwadau hanfodol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.