Tebygol y bydd gwaharddiad ar bibelli dŵr yn y gorllewin yn fuan

Mae Dŵr Cymru yn dweud bod disgwyl gwaharddiad os na fydd y galw am ddŵr yn gostwng yn eithriadol dros y dyddiau nesaf
- Cyhoeddwyd
Mae Dŵr Cymru wedi rhybuddio ei bod yn debygol y bydd yn rhaid cyflwyno gwaharddiad ar ddefnyddio pibelli dŵr (hosepipes) mewn rhannau o'r gorllewin mor fuan â'r penwythnos yma.
Mae disgwyl i'r gwaharddiad fod mewn grym ar gyfer ardaloedd canol a de Ceredigion, rhannau o ogledd Sir Benfro a gogledd Sir Gaerfyrddin.
Byddai'n cael effaith ar 33,000 o gartrefi, o Lan-non yng Ngheredigion i lawr at ardal Crymych yn Sir Benfro, a rhannau o ogledd Sir Gâr ger Hermon.
Dywed Dŵr Cymru bod y tywydd eithriadol o gynnes wedi arwain at alw "digynsail" o ddŵr yfed a bod angen gweithredu o ganlyniad.
Maen nhw'n dweud bod disgwyl i waharddiad ddod i rym os nad yw'r galw am ddŵr yn lleihau'n eithriadol dros y dyddiau nesaf.

Mae'r galw am ddŵr wedi bod yn uwch na'r arfer ers wythnos bellach, o ganlyniad i'r tywydd poeth
Mae tua biliwn o litrau o ddŵr wedi cael eu cyflenwi bob dydd yn ystod yr wythnos ddiwethaf – tua 20% yn fwy na'r hyn sy'n cael ei ddisgwyl fel arfer ar yr adeg yma o'r flwyddyn, yn ôl Dŵr Cymru.
Mae'r galw am ddŵr wedi parhau i fod yn eithriadol o uchel yn ystod y dydd a'r nos ers sawl wythnos bellach.
Er bod Dŵr Cymru yn cydnabod bod adnoddau dŵr a lefelau cronfeydd dŵr yn parhau'n dda ar hyn o bryd, maen nhw'n dweud mai'r her yw "cynhyrchu, trin, storio a symud digon o ddŵr yfed trwy'r rhwydwaith yn ddigon cyflym i fodloni'r lefel neilltuol o uchel yma o alw".
Ychwanegodd y cwmni: "Oni bai bod y galw'n disgyn yn sylweddol dros yr ychydig ddyddiau nesaf, mae'n debygol na fydd unrhyw opsiwn arall ar gael i Ddŵr Cymru ond cyflwyno cyfyngiadau dros dro ar bibellau dyfrio'r penwythnos yma er mwyn amddiffyn cyflenwadau dŵr hanfodol a lleihau'r risg bod cwsmeriaid yn wynebu pwysedd dŵr isel neu doriadau yn eu cyflenwadau.
"Mesur brys dros dro fyddai unrhyw gyfyngiadau, a dim ond yn yr ardal o dan sylw y byddent yn cael eu cyflwyno, a hynny dim ond nes bod y cyfnod cyfredol o alw eithriadol o uchel yn dod i ben.
"Byddai'r cyfyngiadau'n codi cyn gynted ag y bo amodau'r tywydd yn gwella a'r storfeydd lleol yn dychwelyd i lefelau mwy normal."
'Mesur rhagofalus yw hwn'
Wrth siarad ar raglen Post Prynhawn ddydd Iau, dywedodd Heulyn Gwyn Davies o Dŵr Cymru fod y "gwaharddiadau yn dibynnu wrth gwrs ar y tywydd poeth a pha mor hir mae'r tywydd poeth yn parhau a'r galw yn parhau.
"'Da ni'n gobeithio na fydd hynny yn rhy hir o gwbl.
"'Da ni'n monitro'r sefyllfa o ddydd i ddydd, felly mesur rhagofalus yw hwn er mwyn sicrhau ein bod yn medru parhau i gynnal cyflenwadau yn ystod y tywydd poeth yma.
"Ond fe fyddwn ni'n tynnu'r gwaharddiadau cyn gynted ag sy'n bosib."
Ymhen llai na mis bydd miloedd o bobl yn heidio i'r ardal ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.
Dywedodd fod hynny yn "ystyriaeth i ni".
"'Da ni wedi cysylltu â'r prif weithredwr bore 'ma, er mwyn rhoi sicrwydd iddyn nhw nad yw hyn yn effeithio ar eu trefniadau nhw o gwbl, ac mi fyddwn ni'n parhau i weithio'n agos gyda'r 'Steddfod dros yr wythnosau nesa - a gobeithio bod yno'n hunain yn mwynhau'r ŵyl."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
