Cadw hen grefft yn fyw: Aled Roberts yn cipio teitl plygu gwrych Cymru

Aled Roberts o Lansannan yw pencampwr plygu gwrychoedd Cymru
- Cyhoeddwyd
Dros y penwythnos cynhaliwyd pencampwriaethau ar gyfer camp a oedd bron â mynd yn angof rai degawdau'n ôl.
Mae plygu gwrychoedd yn sgil unigryw, a phencampwr Cymru am y trydydd tro yn dilyn ei lwyddiant dros y Sul yw Aled Roberts o Lansannan.
Cynhaliwyd y gystadleuaeth yn Nhreletert, Sir Benfro. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd roedd y gamp dan fygythiad, wedi i genhedlaeth o ffermwyr a dynion ifanc o gefn gwlad golli eu bywydau ar faes y gad.
Wrth ddathlu ei lwyddiant, mae Aled hefyd yn bendant ei farn fod angen gwarchod yr hen draddodiadau amaethyddol.

Aled gyda'i dystysgrif a'i dlws
"Nes i ddechrau plygu gwrych pan o'n i tua naw oed gyda fy nhad. Roedden ni'n mynd rownd y ffermydd lleol yn gwneud hynny a dyna sut nes i ddysgu.
"Mae plygu gwrychoedd yn hen ffordd naturiol o rannu caeau. Ffens ydi hi yn y bôn ond ffens naturiol.
"Yn yr hen sir Gaernarfon roedd gyno chi lot fawr o waliau cerrig, ond yn Sir Ddinbych roedd y tirwedd yn wahanol, felly roedd plygu gwrych yn ffordd boblogaidd ymysg y ffermwyr o rannu eu tir," meddai.
O ran y dull o blygu gwrychoedd, mae gwahanol fathau o steil yn dibynnu ar leoliad.
Ffordd daclus o adeiladu ffens gyda llwyn a mieri yw plygu gwrych, ond mae'r rhaid iddi fod digon cryf i allu wrthsefyll yr elfennau.
"Dwi'n defnyddio'r hen ffordd Sir Ddinbych o blygu gwrych, sef dod â'r ddwy ochr y clawdd gyda'i gilydd.
"Os ewch chi lawr i Sir Gâr wedyn, mae eu ffordd nhw yn wahanol. Dyna ble mae un ochr o'r gwrych yn iawn un ochr ond yn hollol wych yr ochr arall.
"Does na ddim ffordd iawn o blygu gwrych, mae'n dibynnu ar ba steil yr ydych chi wedi arfer ei ddefnyddio," medd Aled.

Aled wrthi'n plygu'r gwrychoedd yn ystod y gystadleuaeth
Dros y penwythnos roedd gan Aled bum awr i blygu gwrych a chwblhau'r dasg o selio'r clawdd wyth metr o hyd.
"O'n i'n dechre tua 09:45 yn y bore a defnyddio hen dŵls fel cryman, bwyall a theclynnau mwy modern fel llif gadwyn.
"Roedd y clawdd gafon ni reit wan, felly roedd angen defnyddio ambell i bolyn i wneud yn siwr ei fod o'n sefyll fyny.
"O'n i 'di gorffen erbyn tua 13:00 a dim ond gwaith o'i dwtio wedyn fel y base hi'n torri coed yn eich gardd."
Llwyddodd Aled i ddod yn bencampwr Cymru am y trydydd tro a dod i'r brig y tro hwn yn erbyn saith arall oedd yn cystadlu.

Campwaith fuddugol Aled
Y tro cyntaf i Aled gystadlu ym Mhencampwriaethau Cymru oedd yn 2018. Daeth yn drydydd y tro hwnnw ac ennillodd y wobr gyntaf am y tro cyntaf yn 2023 yn Llanon, Ceredigion.
Daeth ei lwyddiant am yr ail dro y llynedd ac eleni yw'r trydedd tro iddo gipio'r anrhydedd.
"Dwi wrth fy modd yn plygu'r gwrych, er ei fod o'n waith llafurus mae'n ffordd dda o ymlacio.
"Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig i barhau efo'r math yma o waith amaethyddol hefyd achos fe wnaeth o bron â diflannu ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
"Pan aeth miloedd o ffermwyr a dynion ifanc cefn gwlad i ryfel a cholli eu bywydau, roedd 'na genhedlaeth goll o blygu gwrych. Diolch byth tua'r 1960au fe ddechreuodd godi'i ben eto.
"Mae 'na hanes i'r grefft felly mae'n bwysig cario fo 'mlaen," meddai Aled.
Er mai hobi yw plygu gwrych i Aled mae'n falch iawn o'r llwyddiant mae wedi'i gael ac yn gobeithio bydd plygu gwrych yn parhau i gael ei ddefnyddio'n gyson gan amaethwyr y dyfodol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi

- Cyhoeddwyd24 Awst
