Cynllun canolfan ddata ar lan y Fenai yn codi ofnau, er addewid o waith i gannoedd

Dwylo gwrthwynebwr yn dal poster cartref gyda'r geiriau NA I GANOLFAN DDATA AR Y FENAI
GanLiam Evans
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Byddai canolfan ddata newydd ar lan y Fenai yn cael sgil-effeithiau "torcalonnus ar yr ardal a'r amgylchedd", yn ôl ymgyrchwyr sy'n gwrthwynebu'r cynllun.

Bwriad y cwmni datblygu ydy codi canolfan fyddai'n ymestyn dros 41 hectar rhwng Caernarfon a'r Felinheli ar safle'r hen ffatri Friction Dynamics, neu Ferodo fel y mae pobl leol yn ei adnabod.

Mae'r datblygwyr yn dweud y byddai'n arwain at tua 900 o swyddi yn y cyfnod adeiladu a 200 o swyddi parhaol wedi hynny.

Ond gyda bron i 15,000 o bobl wedi llofnodi deiseb yn gwrthwynebu'r cynllun, mae ymgyrchwyr yn dweud y byddai'n dinistrio golygfeydd ac yn dadlau nad yw'r safle'n addas.

Yn ôl y datblygwyr, cwmni Gwelyfenai, byddai'r datblygiad yn dod â hen safle sy'n adfail yn ôl i ddefnydd, yn creu swyddi lleol ac yn cael ei reoli mewn modd cynaliadwy.

Llun o gais cynllunio cwmni Gwelyfenai sy'n rhoi syniad pa mor fawr fyddai adeiladau'r ganolfan ddataFfynhonnell y llun, Gwelyfenai
Disgrifiad o’r llun,

Llun o gais cynllunio cwmni Gwelyfenai sy'n rhoi syniad pa mor fawr fyddai adeiladau'r ganolfan ddata - a sut fyddai'n edrych o gyfeiriad Ynys Môn

Mae'r datblygiad yn destun cais cynllunio i Gyngor Gwynedd, gyda'r cyfnod ymgynghori yn dod i ben ar 17 Hydref.

Mae'r cais cynllunio yn dangos y byddai'r ganolfan yn ymestyn dros safle 41 hectar ac y byddai'r adeilad uchaf ar y safle tua 30 metr o uchder.

Byddai'r safle'n cynnwys sawl warws lle fyddai peiriannau stori data yn cael eu cadw.

Map o'r safleFfynhonnell y llun, Dogfennau cynllunio
Disgrifiad o’r llun,

Map o'r safle arfaethedig o ddogfennau cynllunio

Dywedodd ymgyrchwyr eu bod yn poeni am y sgil-effaith ar yr amgylchedd, golygfeydd, defnydd dŵr a sŵn.

Mae cartref Emyr Davies, un o arweinwyr yr ymgyrchwyr sy'n gwrthwynebu'r cynllun, yn agos iawn at ffiniau'r datblygiad, pe bai'n derbyn sêl bendith.

"Mae'n mynd i newid tirlun o Sir Fôn yn sbïo draw tuag at Eryri am genedlaethau i ddod," meddai.

"Ddim jest yn weledol, mae'r sŵn yn poeni pawb

"Mae'r sŵn mae'r rhain yn cynhyrchu yn anghrediniol, ac agosach ydach chi ato fo, y mwyaf annioddefol ydy o.

"Mae 'na sôn am glustnodi 260 o refrigeration units ar eu topiau... ac mae hynny ar lefel 30 metr sydd yn direct am hitio pobl ar y lôn top."

Emyr Davies o flaen safle ger ffiniau'r datblygiad posib
Disgrifiad o’r llun,

Mae Emyr Davies yn rhybuddio y byddai codi'r ganolfan ddata yn unol â'r cais yn niweidio'r tirlun ar lan y Fenai

Mae Mr Davies hefyd yn poeni am faint o ddŵr y byddai'r cynllun angen ei ddefnyddio.

Yn ôl dogfennau cynllunio mae disgwyl y byddai'n defnyddio tua 700,000 litr o ddŵr y dydd, ond fe allai ddefnyddio hyd at 11,949,120 litr.

"Y senario mwyaf tebygol a nodir yn ein datganiad amgylcheddol yw y bydd angen tua 700,000 litr o ddŵr y dydd," mae'r dogfennau'n nodi.

"Mae hyn yn gymaradwy â gofynion dŵr gwesty mawr, ysbyty neu gyfleuster cynhyrchu bwyd."

Giatiau hen safle Ferodo
Disgrifiad o’r llun,

Mae safle ffatri Friction Dynamics, neu Ferodo i lawer, wedi cau ers 2008

Dros y penwythnos daeth dros 100 o bobl ynghyd mewn cyfarfod cyhoeddus yng Nghaernarfon i glywed am y datblygiad, gyda nifer yn mynegi pryderon am ei faint a'i effaith bosib ar fyd natur.

Yn ôl datblygwyr, byddai'r safle yn creu tua 950 o swyddi yn ystod y broses adeiladu, a dros 200 o swyddi parhaol.

Ond amau hynny mae rhai o'r ymgyrchwyr, sy'n credu y bydd nifer o'r swyddi yn rhai arbenigol ac y bydd pobl yn teithio o bell i'w cyflawni.

Emma Lewandowicz
Disgrifiad o’r llun,

Mae profiadau cymunedau yn yr Unol Daleithiau ar gyrion canolfannau data mawr wedi codi ofn ar Emma Lewandowicz

"Dwi'n meddwl fod AI yn rhywbeth rili newydd i'n bywydau ni, a dwi'n poeni am 'hein oherwydd dwi 'di gweld yr effaith yn y UDA," meddai Emma Lewandowicz, sy'n byw yn lleol.

"Pobl sydd heb ddŵr, y sŵn yn concerning, yr effaith ar anifeiliaid ac ar bobl leol.

"Fyddwn i ddim yn gweld y Fenai ddim mwy, tourism hefyd... ma'n torri calon."

Y Cynghorydd Gwion Emyr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ymateb ymhlith pobl leol wedi bod yn gryf, medd y Cynghorydd Gwion Emyr, sy'n cynrychioli Bethel a'r Felinheli ar Gyngor Gwynedd

Un o gynghorwyr lleol yr ardal ydy Gwion Emyr, sydd yn erbyn y cynllun ac yn annog pobl i ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus.

"Mae'r ymateb 'di bod yn gryf ac yn uchel, gyda'r rhan fwyaf o bobl dwi wedi siarad efo yn erbyn," meddai.

"Dwi ddim yn erbyn cael unrhyw ddatblygiad yn Ferodo. Mae angen rhywbeth yna - mae 'di bod yn wag ers dros 20 mlynedd.

"Mae 'na fanteision ac anfanteision a dydi creu swyddi... dylai o ddim fod ar draul yr amgylchedd neu'r ardal a iechyd pobl."

'Ni fydd dŵr yn cael ei dynnu o'r Fenai'

Wrth ymateb i bryderon, dywedodd y cwmni eu bod yn deall fod datblygiad tebyg "yn codi cwestiynau yn lleol ac rydym am sicrhau bod y drafodaeth yn seiliedig ar ffeithiau cywir".

"Mae'r safle yn hen dir diwydiannol segur sydd wedi bod yn wag ers blynyddoedd ac â phroblemau diogelwch.

"Mae'r cynllun yn cynnig cyllid preifat i'w lanhau a'i adfer i ddefnydd masnachol.

"Er y bydd yr adeiladau newydd yn fwy na'r rhai presennol, mae mesurau dylunio a thirlunio wedi'u cynnwys i leihau'r effaith weledol.

"Ni fydd dŵr yn cael ei dynnu o'r Fenai nac unrhyw ddŵr oeri yn cael ei ollwng iddi.

"Dim ond dŵr glaw glân fydd yn cael ei ryddhau drwy'r system ddraenio.

"Bydd y datblygiad yn cynnwys gwelliannau sylweddol i fioamrywiaeth ac mae asesiadau amgylcheddol, gan gynnwys sŵn, wedi'u cynnal.

"Disgwylir i'r prosiect greu dros 900 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu a thua 200 o swyddi parhaol o werth uchel wedi hynny.

"Rydym hefyd yn gweithio gyda sefydliadau addysg lleol i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol.

"Rydym wedi ymgynghori â'r gymuned ac yn parhau i ymgysylltu â thrigolion a rhanddeiliaid lleol wrth i'r cynlluniau symud ymlaen."

Dros 20 o wrthwynebwyr yn sefyll mewn rhes ger safle'r datblygiad arfaethedig
Disgrifiad o’r llun,

Mae dadleuon y datblygwyr yn annhebygol o newid meddyliau gwrthwynebwyr

Dywedodd Cyngor Gwynedd bod "hysbysiadau wedi eu gosod ar y safle" ac wedi eu cyhoeddi yn y wasg leol, a'u bod "wedi ymestyn y cyfnod ymgynghori hyd nes 17 Hydref".

"Bydd y cais yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor cynllunio maes o law, ynghyd ag argymhelliad swyddog, a bydd yn cael ei benderfynu yn unol â'r Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig, polisi a chanllawiau cynllunio cenedlaethol, ac unrhyw ystyriaethau cynllunio perthnasol eraill."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig