Wilson yn 'debygol o fethu' gemau Cynghrair y Cenhedloedd

Harry WilsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Harry Wilson wedi ennill 69 cap a sgorio 17 gôl dros ei wlad

  • Cyhoeddwyd

Mae Harry Wilson yn annhebygol o fod ar gael ar gyfer dechrau ymgyrch Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd oherwydd anaf.

Wrth i Gymru ddychwelyd i Gynghrair A, cafodd Wilson, 29, ei gynnwys yng ngharfan Craig Bellamy i wynebu Portiwgal, Denmarc a Norwy yn yr wythnosau nesaf.

Cadarnhaodd rheolwr Wilson yn Leeds United, Daniel Farke, ddydd Gwener na fydd yn medru chwarae i'r clwb ddydd Sul.

Esboniodd ei fod wedi dioddef anaf i'w glun, gan ychwanegu y byddai "yn debygol o fethu gemau Cymru" hefyd.

"Yn bendant dydy hyn ddim yn newyddion da iddo fo nac i dîm Cymru chwaith," ychwanegodd Farke.

Mae Bellamy yn barod heb Joe Rodon, Dylan Lawlor, Ronan Kpakio, Isaak Davies, Rubin Colwill, na Nathan Broadhead.

Bydd Cymru'n chwarae pedair gêm o fewn 10 diwrnod ar ddechrau eu hymgyrch yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Fe fyddan nhw'n wynebu Portiwgal oddi cartref ar 24 Medi cyn teithio i herio Denmarc ar 27 Medi.

Yna bydd dwy gêm gartref yn erbyn Norwy ar 1 Hydref, a Denmarc ar 4 Hydref.

Mae Cymru bellach yn 38ain yn rhestr detholion Fifa - yr isaf iddyn nhw fod ers Awst 2014.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.