Cynhadledd 'bwysig' am sbeicio - 'gallai ddigwydd i bobl ifanc a hŷn'

Dywedodd Tirion Richards iddi gael ei sbeicio tra ar noson allan gyda'i ffrindiau yn Aberteifi
- Cyhoeddwyd
Mae menyw o Sir Gaerfyrddin yn dweud bod "rhaid bod yn wyliadwrus dim ots lle wyt ti" ar drothwy cynhadledd gyntaf o'i math yng Nghymru sy'n trafod peryglon sbeicio.
Dywedodd Tirion Richards, 31 oed o Frechfa, iddi gael ei sbeicio tra ar noson allan gyda'i ffrindiau yn Aberteifi.
Mae sbeicio - pan mae alcohol neu gyffuriau'n cael eu rhoi i berson heb yn wybod iddyn nhw - yn drosedd sy'n gallu arwain at hyd at 10 mlynedd yn y carchar.
Yn ôl ffigyrau diweddaraf Heddlu'r Gogledd, dim ond wyth allan o 656 o achosion o sbeicio yn y gogledd ers 2021 sydd wedi arwain at gyhuddiad, ond mae'n broblem ledled Cymru - yng nghefn gwlad yn ogystal â dinasoedd.
Mae'r gynhadledd yn cael ei chynnal ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ddydd Llun er mwyn tynnu sylw at y mater a thrafod sut all bobl gadw'n ddiogel ar nosweithiau allan.
'Do'n i ddim yn bod yn wyliadwrus achos o'n i mewn tafarn wledig'
Yn siarad ar raglen Radio Wales Breakfast fore Llun, dywedodd Tirion nad oedd hi'n "disgwyl i rywbeth fel hyn ddigwydd yng nghefn gwlad Cymru".
"Do'n i ddim yn bod yn wyliadwrus achos o'n i mewn tafarn wledig ac o'n i'n derbyn diodydd gan bobl doeddwn i ddim yn nabod," meddai.
"O'n i'n teimlo'n sâl ar ôl, ond doeddwn i ddim yn siŵr os o'n i falle wedi cael gormod i yfed felly wnes i ddim adrodd o i'r heddlu'n syth.
"Ond pan o'n i'n trio cofio ac yn rhoi pethau at ei gilydd wnes i sylwi fod o ddim yn normal i fynd yn ddall a methu symud pan o'n i dal yn ymwybodol a dyna pan wnes i sylwi mod i 'di cael fy sbeicio ac es i at yr heddlu."
Tirion Richards sy'n rhannu ei stori o sbeicio ym mis Chwefror
Dywedodd Tirion ei fod yn bwysig adrodd i'r heddlu "hyd yn oed pan ti'n amau dy fod wedi cael dy sbeicio".
Fel y rhan fwyaf o achosion o sbeicio, daeth ymchwiliad yr heddlu i ddim yn y diwedd.
Ond ers y digwyddiad, mae Tirion wedi bod yn codi ymwybyddiaeth am y broblem.
"Wnaeth yr heddlu ofyn i fi roi sampl wrin a wnes i ond yn y diwedd doedden nhw methu gweld ddim byd ar y CCTV a dydi nhw heb ddod o hyd i'r rhai oedd yn gyfrifol," meddai.
"Nawr dwi'n codi ymwybyddiaeth ar y cyfryngau cymdeithasol gan obeithio nad yw e'n digwydd i neb arall."

"Mae'n bwysig ein bod ni'n gofalu am ein gilydd a'n sylweddoli fod y pethau yma'n gallu digwydd," meddai Mared Rand Jones
Mae cynhadledd, sydd wedi'i threfnu gan Stamp Out Spiking, yn trafod peryglon sbeicio yn cael ei chynnal ar faes y Sioe Frenhinol ddydd Llun.
Dyma'r gynhadledd gyntaf o'i math, yn ôl y trefnwyr, ac mae'n cael ei chynnal wedi i aelodau o fudiad y Ffermwyr Ifanc fynegi pryderon am sbeicio i Gyngor Powys.
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Mared Rand Jones, Prif Weithredwr mudiad y Ffermwyr Ifanc, ei fod yn "bwysig ein bod ni'n cael ein haddysgu ac yn deall y risgiau er mwyn i ni allu rhoi'r addysg 'na ymlaen i'n haelodau ni".
"Falle yng nghefn gwlad ni bach yn ddiniwed yn meddwl fod y pethau yma ddim yn digwydd ond ma' fe - felly mae'n bwysig fod ni'n cael yr holl wybodaeth er mwyn i ni sicrhau bod y wybodaeth yn mynd allan," meddai.
"Mae'n bwysig fod ni'n gofalu am ein gilydd a'n sylweddoli fod y pethau yma'n gallu digwydd. Hefyd sut i rwystro pobl rhag cael eu sbeicio, mae'n gallu digwydd i rai ifanc a hŷn, bechgyn a merched, felly mae angen i ni fod yn fwy gwyliadwrus.
"Mae'n bwysig fod ni'n trosglwyddo'r neges yna allan a'r fwyaf 'da ni'n gwneud hynny gyda'r mudiadau eraill gobeithio fydde ni'n cadw ein pobl ifanc yn ddiogel."
'Sbeicio yn digwydd yng nghefn gwlad Cymru, nid dim ond dinasoedd'
- Cyhoeddwyd25 Chwefror
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Rydym wedi cynyddu ein brwydr yn erbyn sbeicio drwy gyflwyno trosedd newydd, sy'n golygu y gallai unrhyw sy'n ei gael yn euog ohono wynebu hyd at 10 mlynedd yn y carchar.
"Rydym yn ariannu hyfforddiant am ddim i staff y diwydiant lletygarwch, gan helpu lleoliadau ledled y DU i adnabod digwyddiadau posibl, cefnogi dioddefwyr a chydweithio a lluoedd.
"Mae canllawiau a hyfforddiant pwrpasol wedi'u darparu i'r heddlu, ynghyd â chymorth ar gyfer prosiectau peilot arloesol ym maes plismona sy'n canolbwyntio ar ddioddefwyr, ac ymchwil bellach i fynd i'r afael â'r drosedd hon yn effeithiol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.