Tîm merched y Llewod i greu hanes mewn gêm gartref yn erbyn Ffrainc

- Cyhoeddwyd
Bydd tîm merched y Llewod yn chwarae am y tro cyntaf yn erbyn Ffrainc mewn gêm hanesyddol yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd cyn eu taith i Seland Newydd yn 2027.
Bydd tîm Jo Yapp yn wynebu Ffrainc – sy'n bedwerydd yn y byd – yn y brifddinas am 19:30 ddydd Gwener, 27 Awst.
Mae'r Llewod yn wynebu tîm Black Ferns XV y penwythnos canlynol yn Whangarei, cyn y cyntaf o dair gêm brawf yn erbyn Seland Newydd ar 11 Medi.
"Mae 'na achlysuron mewn chwaraeon sy'n digwydd unwaith yn unig – ac mae hon yn un ohonyn nhw," meddai'r prif hyfforddwr Yapp.
"Bydd yn rhywbeth arbennig dros ben i'n tîm gamu ar y cae am y tro cyntaf, mewn gêm gartref ac o flaen ein cefnogwyr."

Mae teithiau tîm dynion y Llewod, sy'n cynnwys chwaraewyr o Loegr, yr Alban, Cymru ac Iwerddon, wedi cael eu cynnal ers 1888.
Bydd y menywod yn teithio i Seland Newydd ar gyfer taith o bum gêm sy'n cynnwys gemau prawf yn Auckland, Wellington a Christchurch.
Cafodd y gêm a gollwyd yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Stadiwm Principality yn 2025 ei chwarae o flaen 21,186 - sy'n record ar gyfer gêm gartref tîm merched Cymru mewn unrhyw gamp.
"Bydd yn gêm rygbi ac yn achlysur gwych," meddai Carol Isherwood, cadeirydd pwyllgor menywod y Llewod.
"Mae'n gyfle i ddatblygu'r gamp a gadael gwaddol, fel y gallwn barhau gyda thîm y Llewod drwy osod y sylfeini a rhoi cyfle i bawb weld gêm y menywod ar ei gorau."
Gemau'r Llewod
27 Awst, Caerdydd, Stadiwm Principality, yn erbyn Ffrainc
4 Medi, Whangarei, Stadiwm Semenoff, yn erbyn Black Ferns XV
11 Medi, y gêm brawf gyntaf - Auckland, Stadiwm Go Media, yn erbyn y Black Ferns
14 Medi, Hamilton, Stadiwm FMG Waikato, yn erbyn Invitational XV
18 Medi, yr ail gêm brawf - Wellington, Sky Stadium, yn erbyn y Black Ferns
25 Medi, y trydydd gêm brawf - Christchurch, Stadiwm One NZ, yn erbyn y Black Ferns
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Medi

- Cyhoeddwyd18 Medi

- Cyhoeddwyd27 Mehefin
