Ymgyrchwyr yn 'pryderu' na fydd parc cenedlaethol newydd yn cael ei greu

- Cyhoeddwyd
Mae grŵp ymgyrchu yn dweud eu bod yn pryderu na fydd parc cenedlaethol yn cael ei greu yng ngogledd Cymru o dan lywodraeth Plaid Cymru.
Mae disgwyl cyhoeddiad ddydd Mawrth, 13 Hydref, ar y camau nesaf i greu Parc Cenedlaethol Glyndŵr, yn ardal Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Fe wnaeth y llywodraeth Lafur flaenorol gyhoeddi fis Mawrth y byddai'n cynnal ymholiad cyhoeddus ar ôl i gynghorau lleol godi pryderon am gyllid a rheolau cynllunio o fewn y parc.
Gwrthododd y llywodraeth wneud sylw cyn y datganiad.
'Gadewch i'r ymholiad fynd yn ei flaen'
Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement ar BBC Radio Wales, dywedodd Gareth Ludkin, o'r Campaign for National Parks: "Dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd y datganiad ddydd Mawrth, ond rydyn ni'n pryderu bod y llywodraeth ar fin canslo'r ymholiad cyhoeddus.
"Yr hyn rydyn ni'n ei ddweud yw: gadewch i'r ymholiad fynd yn ei flaen. Gall y llywodraeth wneud penderfyniad ar ôl hynny, ond dylid caniatáu holl ffeithiau'r achos."
'Colli cymunedau'
Mae Sarah Lewis, ffarmwraig o Lanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys, yn gwrthwynebu'r parc ac yn dweud ei bod yn pryderu y gallai gynyddu prisiau tai, yn enwedig i bobl ifanc
"Os nad ydyn nhw'n gallu fforddio prynu eiddo yn eu hardaloedd cartref, rydyn ni'n mynd i golli nid yn unig ieuenctid ond ein cymunedau," meddai.
"Ond hefyd iaith ein cymunedau, oherwydd bydd yn rhaid iddyn nhw brynu eiddo, efallai dros y ffin neu y tu allan i'n cymunedau gwledig."
Parc Cenedlaethol newydd yn 'gyfle unwaith mewn cenhedlaeth'
- Cyhoeddwyd15 Medi 2025
Cynnwys rhan o Wynedd mewn parc cenedlaethol yn 'risg i'r iaith'
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2025
Cyngor Sir Ddinbych yn gwrthod cefnogi parc cenedlaethol newydd
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2025
Mae polisi dros barciau cenedlaethol yn gyfrifoldeb i'r Gweinidog dros Wydnwch Gwledig, Llŷr Gruffydd, ond fe anogodd bobl i wrthwynebu cynllun Glyndŵr cyn i Blaid Cymru ddod i rym.
Y Gweinidog Cabinet Dafydd Trystan Davies fydd yn cyflwyno'r datganiad yn y Senedd yn lle hynny.
Roedd creu parc – y pedwerydd yng Nghymru – yn ymrwymiad ym maniffesto Llafur yn 2021.
Etifeddodd Plaid y cyfrifoldeb am yr ymchwiliad pan enillon nhw etholiad y Senedd ym mis Mai.
Fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru gynnal proses swyddogol rhwng 2022 a 2025 i ystyried a oedd yr ardal arfaethedig yn gymwys i fod yn barc cenedlaethol.
Ym mis Ionawr 2026, pleidleisiodd bwrdd y sefydliad i gefnogi'r cynigion a chyhoeddi gorchymyn i greu'r Parc Cenedlaethol Glyndŵr, sydd wedi ei enwi ar ôl Owain Glyndŵr.
Dywedodd pob un o'r pum cyngor a fyddai'n cael eu heffeithio gan ffin y parc fod ganddynt amheuon, gyda nifer yn cyflwyno gwrthwynebiad ffurfiol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.