Deliwr cyffuriau o ardal Bethesda a wnaeth £150,000 i golli enillion

Mae Arthur Hughes o Rachub yn treulio dedfryd o dros dair blynedd o garchar am fod â heroin yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi, ac eiddo troseddol
- Cyhoeddwyd
Mae dros £80,000 o enillion troseddol wedi cael eu cymryd oddi ar werthwr cyffuriau o Wynedd yn dilyn gwrandawiad llys.
Mae Arthur Hughes, 75, o Faes Bleddyn yn Rachub yn treulio dedfryd o dair blynedd a dau fis o garchar, ar ôl cael ei ddedfrydu ym mis Mehefin 2026 am fod â heroin yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi, a bod ag eiddo troseddol yn ei feddiant.
Clywodd gwrandawiad yn Llys y Goron Caernarfon o dan y Ddeddf Enillion Troseddau (POCA), bod yna amcangyfrif bod yr elw o weithgarwch troseddol Hughes yn dros £151,730.
Fe wnaeth Heddlu'r Gogledd ddod o hyd i werth £80,401 o arian ac asedau troseddol, ac mae gorchymyn wedi ei roi i drosglwyddo'r swm hwnnw.
Mae yna orchymyn hefyd i'r cyffuriau a'r offer cysylltiedig gafodd eu darganfod yn ei gartref gael eu dinistrio.
Dywedodd y Cwnstabl Jacob Swift o Heddlu'r Gogledd:
"Rydym yn parhau i fynd ar drywydd y rhai sy'n ceisio gwneud elw o werthu cyffuriau, a byddwn yn defnyddio pob dull sydd ar gael inni i amddifadu troseddwyr o unrhyw asedau y maent wedi'u hennill o ganlyniad i'w gweithgarwch."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.