Pryder y gall perchnogion cychod adael marina Aberystwyth

marina
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r marina wedi bod o dan weinyddwyr ers tair blynedd ar ôl i'r perchnogion blaenorol fethdalu

GanCraig Duggan
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae pryderon yn Aberystwyth y gallai perchnogion cychod fynd â'u cychod i rywle arall oherwydd diffyg buddsoddiad ym marina'r dref ac ansicrwydd ynghylch ei ddyfodol.

Mae'r marina wedi bod o dan weinyddwyr ers tair blynedd ar ôl i'r perchnogion blaenorol fethdalu, gan adael staff heb eu cyflogau a dyledion o filiynau o bunnoedd.

Mae cwmni newydd sef Western Marinas – sydd â'i bencadlys yng Nghaerdydd – eisiau rhedeg y marina.

Mae'r cwmni yn dweud ei fod yn barod i fuddsoddi yn y safle, ond maen nhw'n teimlo'n "rhwystredig" ar ôl gwneud cais aflwyddiannus dair gwaith am drwydded weithredu gan Gyngor Ceredigion.

Dywedodd Cyngor Ceredigion ei fod yn "gwbl ymrwymedig i sicrhau gwelliannau i ardal yr harbwr".

Adam Knowles
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen trwydded cyn gwario ar y marina, medd y rheolwr Adam Knowles

Mae gan marina Aberystwyth le i 154 o gychod, ac fe'i defnyddir yn helaeth gan berchnogion cychod hwylio cychod modur, cychod pysgota ac iotiau.

Dywedodd rheolwr y marina, Adam Knowles, fod yr angorfeydd fel arfer yn 85% yn llawn, ond bod pryderon ymhlith perchnogion cychod ynghylch y dyfodol, oherwydd yr hyn y mae Mr Knowles yn ei ddisgrifio fel buddsoddiad sydd ei angen "yn fawr" ar seilwaith y marina.

Ddwy flynedd yn ôl, dechreuodd Western Marinas redeg y marina ar ran y gweinyddwyr.

Mae'r cwmni'n dweud eu bod eisiau prynu'r marina a'i redeg yn y tymor hir, ond cyn gwneud hynny, mae angen trwydded weithredu arnynt gan Gyngor Ceredigion.

'Gorfod peidio defnyddio'r iard am y tro'

Mae Western Marinas yn dweud ei fod wedi gwneud cais am drwydded dair gwaith heb lwyddiant.

Er bod y cwmni eisoes wedi buddsoddi yn y marina – mewn pontŵn tanwydd newydd a thrwy gyflogi'r staff – maen nhw'n deud nad ydyn nhw'n barod i wario mwy heb drwydded.

Dywedodd Adam Knowles fod angen buddsoddiad i adnewyddu peiriant sy'n codi'r cychod allan o'r dŵr er mwyn eu cynnal a chadw.

"Mae'r offer ry'n ni'n defnyddio wedi cyrraedd diwedd ei oes i raddau helaeth. Mae angen un newydd gan ei fod yn mynd yn ddrutach i'w gadw. Felly, ry'n ni wedi gorfod atal y defnydd o'r iard gychod am y tro.

"Dredgio yw'r peth arall sydd angen ei wneud. Mae angen glanhau'r harbwr yn enwedig, ac os na chaiff hynny ei wneud, fydd y cychod hwylio mawr ddim yn gallu dod yma.

"Bydd hynny'n arwain at ostyngiad yn nifer y cychod sy'n defnyddio'r lle."

Ychwanegodd Mr Knowles, heb welliannau i'r cyfleusterau yn y marina, y gallai cwsmeriaid adael.

"Ry'n ni'n cyrraedd y pwynt nawr lle mae'n bosib y bydd pobl sydd ag angorfeydd yma yn dechrau edrych rhywle arall."

Mae Damian Sidnell wedi cadw cwch yn Aberystwyth ers 2002 – dywedodd ei fod yn gwybod am berchnogion cychod eraill a allai benderfynu gadael y marina.

"Mae rhai sy' wedi dweud wrtha i y byddan nhw – os na chaiff y mater ei ddatrys erbyn mis Ebrill nesaf, pryd mae'n bryd adnewyddu – yn bendant yn ystyried mynd â'r cwch i rywle arall.

"Ry'n ni jyst am i Gyngor Ceredigion fod yn agored a dweud wrthym pam eu bod yn oedi. Does neb yn deall pam nad yw Ceredigion wedi rhyddhau'r brydles."

Winston Phillips
Disgrifiad o’r llun,

Mae marina Aberystwyth yn un o'r goreuon, medd Winston Phillips

Mae Winston Phillips yn bysgotwr sydd wedi ymddeol ac yn ddyn busnes sy'n wreiddiol o Geinewydd. Mae e wedi treulio'r chwe blynedd diwethaf yn teithio ar ei gwch o amgylch y Deyrnas Unedig ac Ewrop.

"Rwy'n credu fy mod wedi bod i 73 marina yn y chwe blynedd diwethaf," meddai, "felly mae gen i lawer o brofiad o marinas yma a thramor, a dyma un o'r goreuon."

Fe wnaeth Mr Phillips ganmol y staff a'r cyfleusterau, gan ychwanegu: "Byddai'n drueni mawr pe na bai'r cyngor yn bwrw ymlaen â rhoi'r brydles iddyn nhw fel y gallan nhw fuddsoddi, yn enwedig o ran y gwaith 'dredgio' sydd angen ei wneud."

Dywedodd David Hardy – diffoddwr tân wedi ymddeol o Fanceinion – fod marina Aberystwyth wedi'i achub pan gafodd drafferth gyda'i gwch ar ôl hwylio trwy Swnt Dewi ger Sir Benfro.

Dywedodd Mr Hardy: "Ffoniais nhw a dweud, 'Drychwch, mae gen i broblem. Dwi'n credu fy mod i'n suddo achos bod dŵr yn dod i mewn o hyd.' A dywedon nhw, 'Dewch yma. Byddwn ni'n trefnu rhywbeth a ffeindio lle i chi. Dewch, a byddwn ni'n datrys y broblem.'"

Dywedodd, ers cyrraedd Aberystwyth, fod y profiad wedi bod yn "wych dros ben! Allen nhw ddim fod yn fwy parod i helpu. Mae pawb yma wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu."

David Hardy BBC
Disgrifiad o’r llun,

Dywed David Hardy o Fanceinion bod marina Aberystwyth wedi'i achub pan aeth i drafferthion

Mae'r cwmni eisoes yn rhedeg marinas yng Nghaerdydd ac yn Watchet yng Ngwlad yr Haf - aeth y ddau ohonyn nhw i ddwylo gweinyddwyr ar yr un pryd â marina Aberystwyth.

Mae Adam Knowles yn dweud bod y broses o drafod y trwyddedau yn y llefydd hynny wedi bod yn llawer haws nag yng Ngheredigion.

"Dyna ddau gyngor (ry'n ni) wedi gweithio'n adeiladol gyda nhw, ac yn parhau i wneud hynny. Mae pethau wedi cael eu datrys o fewn cyfnod rhesymol o amser.

"Ond yma yn Aberystwyth, mae dwy flynedd wedi mynd heibio, ac mae'n rhwystredig iawn pan fo pob un ohonom ni eisiau'r un peth yn y pen draw - marina llwyddiannus a phrysur."

Mae gan Gymru farinas ar hyd ei harfordir hir - ymhlith y mwyaf mae Abertawe (550 o angorfeydd), Conwy (512) a Phwllheli (400).

Maen nhw'n cefnogi swyddi ac yn denu ymwelwyr, gan roi hwb i'r economi leol. Daw llawer o'r bobl sy'n cadw cychod yn Aberystwyth o ganolbarth Lloegr.

'Y cyngor angen sicrwydd fod popeth yn iawn'

Cadeirydd pwyllgor craffu Cymunedau Ffyniannus Cyngor Ceredigion yw'r cynghorydd Gwyn Wigley Evans. Dywedodd ei fod am weld y marina yn llwyddo ond ei fod yn deall pam fod Cyngor Ceredigion yn ofalus gan gofio bod y perchnogion blaenorol wedi methdalu.

"Mae'r ansicrwydd 'ma wedi bod yn broblem" meddai'r Cynghorydd Evans, "(ond) alla i ddeall o ochr y cyngor hefyd a bod yn deg… maen rhaid iddyn nhw fod yn siŵr fod popeth yn mynd i fod yn iawn ac yn gywir."

Ychwanegodd ei fod e'n bersonol yn gobeithio y bydd pethau'n "symud ymlaen" a bod yr agwedd o fewn y cyngor yn "hollol gefnogol i ddod â'r (ansicrwydd) i ben a gweld hwn yn ffyniannus."

Mae'r cynghorydd lleol Carl Worrall eisiau gweld dyfodol y marina yn cael ei ddatrys yn gyflym er budd y dref yn ehangach.

"Mae angen marina sy'n gweithio'n dda arnom ni, lle mae gennym ni swyddi a phrentisiaethau. Hefyd, mae cael marina o safon yn denu pobl i ymweld ag Aberystwyth. Felly nid y marina yn unig sy'n bwysig, mae'n fater o gynyddu nifer yr ymwelwyr a gwella ein tref hyfryd."

Mae'r Cynghorydd Worrall hefyd yn pryderu, os bydd yr ansicrwydd yn parhau, y gallai rhai perchnogion cychod adael.

"Rwy'n 'nabod llawer o berchnogion cychod, a rhai o'r pysgotwyr, ac maen nhw'n poeni. Os nad ydyn nhw'n gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd yma, ble maen nhw'n mynd i roi eu cychod? Beth sy'n mynd i ddigwydd? Mae cymaint o ansicrwydd."

Mae Western Marinas yn dweud eu bod wedi talu rhent chwe mis ymlaen llaw ar gyfer marina Aberystwyth tan ddiwedd 2026, ac wedi talu ardrethi busnes tan ddiwedd mis Mawrth nesaf.

Maen nhw hefyd wedi cyflwyno cais am drwydded am y pedwerydd tro yn ddiweddar.

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Ceredigion eu bod wedi derbyn ceisiadau i drosglwyddo les y marina i Western Marinas, a bod y rhesymau am wrthod y ceisiadau hyd yma "bob amser wedi'u hesbonio'n llawn yn ymatebion y cyngor".

Ychwanegodd y cyngor fod y rhesymau am wrthod wedi cynnwys "gofyniad i sicrhau bod rhwymedigaethau trethi annomestig a thaliadau rhent yn cael eu talu a bod y cyfrifon cysylltiedig yn cael eu cadw'n gyfredol".

Mae'r cyngor hefyd wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn cais arall am y les gan Western Marinas, ac mae gohebiaeth ynghylch hyn yn parhau.

Dywedodd Cyngor Ceredigion eu bod "yn parhau'n gwbl ymrwymedig i sicrhau gwelliannau i ardal yr harbwr a'r dref ehangach, fel rhan o'i strategaeth economaidd", ac na allai roi rhagor o wybodaeth oherwydd bod "trosglwyddo lesoedd yn fater cyfreithiol".

Pynciau cysylltiedig