Angen i'r llywodraeth 'ddysgu gwersi' wedi'r holl danau gwyllt

- Cyhoeddwyd
Mae angen dysgu gwersi am y ffordd y mae'r wlad yn ymateb i danau gwyllt os yw rhagor o ddigwyddiadau o'r fath yn debygol yn y dyfodol o ganlyniad i newid hinsawdd, yn ôl Gweinidog.
Yn ystod ymweliad â Threherbert yn Rhondda Cynon Taf, dywedodd Dafydd Trystan Davies fod ymateb y swyddogion tân dros yr haf wedi bod yn "rhyfeddol".
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi cadarnhau y bydd y gefnogaeth gan y fyddin yn dod i ben yn ffurfiol ddydd Mercher ond y bydd dau hofrennydd dal ar gael i gefnogi gwaith allweddol.
Mae'r gwasanaeth hefyd wedi diolch i gymunedau am yr holl gefnogaeth y maen nhw wedi ei dderbyn wrth iddynt barhau i frwydro tanau gwyllt yn yr ardal.
Hofrennydd yn helpu i ymladd tân Rhinogydd wedi beirniadaeth
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf
Rhyddhau dynes ar fechnïaeth ar ôl i gartrefi gael eu dinistrio mewn tân
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad y byddai uwchgynhadledd yn cael ei gynnal yn ddiweddarach eleni er mwyn trafod yr ymateb i'r tanau.
"Mae'n rhaid i ni ddysgu o bob profiad er mwyn sicrhau ein bod ni'n ymateb yn y ffordd fwyaf effeithiol a sydyn phosib i wahanol heriau," meddai.
"Mewn cyfnod o newid hinsawdd ry'n ni am wynebu hafau poethach, ac felly ry'n ni'n debygol o weld mwy o danau gwyllt."
Mae plaid Reform wedi beirniadu ymateb Llywodraeth Cymru i'r sefyllfa ac yn benodol yr amser gymrodd hi iddyn nhw ofyn am gymorth y fyddin.
"Cafodd y cais ei wneud, roedd yr ymateb yn sydyn, ac oherwydd hynny rydyn ni wedi gallu cymryd camau ar y mynydd i atal y tân rhag lledu at dai pobl," atebodd Mr Davies.
"Oherwydd yr ymateb sydyn yna gan y gwasanaeth tân, y fyddin a'r gefnogaeth gan eraill, ry'n ni wedi gallu rheoli'r risg yna."

Fe aeth staff o siop sglodion Penaluna's yn Hirwaun â bwyd i swyddogion nos Sadwrn
Yn y cyfamser, mae siop sglodion yn Rhondda Cynon Taf yn dweud bod ymateb y gymuned wedi bod yn "wych" ers iddyn nhw fwydo swyddogion tân sydd wedi bod yn brwydro tanau gwyllt yn yr ardal.
Roedd tanau gwyllt ger Rhigos a Threherbert ymhlith y rhai fu'n cael eu taclo gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru dros y dyddiau diwethaf.
Nos Sadwrn fe aeth staff o siop sglodion Penaluna's yn Hirwaun â bwyd ychwanegol am ddim i swyddogion oedd yn gweithio ar y safle hwnnw, gan aros yno tan oriau mân y bore.
Dywedodd y gwasanaeth tân eu bod yn "hynod ddiolchgar" am garedigrwydd busnesau a grwpiau cymunedol – gan ychwanegu fodd bynnag fod gan eu staff gefnogaeth ddigonol, ac nad oedden nhw'n "chwilio am roddion na gweithgaredd codi arian".
'Wir yn gwerthfawrogi'
Dywedodd John Penaluna, 72, fod ei siop sglodion wedi darparu bwyd am ddim yn y gorffennol i ysbytai a chartrefi gofal yn ystod Covid, a bod y tanau gwyllt diweddar wedi eu sbarduno i helpu eto.
"Os 'dyn ni'n meddwl fod e wedi bod yn boeth yn ddiweddar, dychmygwch faint yn waeth mae e wedi bod iddyn nhw [y swyddogion tân]," meddai.
"Naethon ni jyst fynd amdani. Roedd ganddon ni fwyd ar ôl nos Sadwrn, felly aeth y mab Lee mas gyda'r tîm o tua 23:00 ymlaen, ac ro'n nhw yna nes 03:00.
"Roedd e'n waith caled, corfforol iddyn nhw, chi mas yna am bedair i chwech awr ac angen eich bwydo... Roedden nhw wrth eu bodd, wir yn gwerthfawrogi."

Er yn diolch i'r cyhoedd am roddion, mae swyddogion yn rhybuddio na ddylai aelodau'r cyhoedd deithio i leoliadau digwyddiad
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub y De: "Rydym yn ddiolchgar iawn am y caredigrwydd a'r gefnogaeth gan fusnesau lleol, grwpiau cymunedol ac aelodau'r cyhoedd yn ystod y tanau gwyllt diweddar.
"Mae ein criwiau yn hynod o ddiolchgar am yr adborth positif maen nhw wedi ei gael gan bobl yn y cymunedau maen nhw'n eu gwarchod.
"Rydym yn gwerthfawrogi'r cynigion hael yma, ond dydy'r gwasanaeth ddim yn chwilio am roddion na gweithgaredd codi arian gan fod gennym drefniadau sefydlog mewn lle i gefnogi lles a diogelwch ein diffoddwyr tân a'n staff.
"Rydym hefyd yn cydnabod y gall pobl fod eisiau dangos eu gwerthfawrogiad i'n criwiau, ac rydym yn eu hannog i gefnogi elusen sefydlog fel Elusen y Diffoddwyr Tân."
Ychwanegodd y gwasanaeth na ddylai aelodau'r cyhoedd "deithio i leoliadau digwyddiad", gan ofyn iddyn nhw gadw llwybrau mynediad yn glir a dilyn cyngor diogelwch cyhoeddus "er mwyn helpu i gadw'ch cymunedau yn saff".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.