Ateb y Galw: Kayley Roberts

- Cyhoeddwyd
Awdur, bardd a chwnselydd o Gaernarfon ydi Kayley Roberts.
Yn hoff o'r swreal, yr abswrd, a'r ffantasiol, mae gwaith Kayley - Bardd y Mis ar Radio Cymru - yn aml yn archwilio pynciau o hunaniaeth cwiar, cymuned a pherthyn.
Beth yw eich atgof cyntaf?
Does genna' i ddim syniad!
Mae genna' i lot o atgofion cynnar, ond fyswn i methu deud p'run 'di'r cyntaf. Dwi'n cofio sgwennu fy 'nofel' gyntaf, pan o'n i tua pump oed, a rhoi clawr caled iddo efo'r cardfwrdd sy'n dod fel clawr cefn notebook A4!
Genna'i lot o atgofion o Dad yn darllen llyfra i ni'n ifanc, ac o Mam yn dysgu ni sut i sgwennu. Felly, mae o yn y gwaed ers blynyddoedd maith!
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

Chwiaid a mwy... ffotograffau o rai o'r adar mae Kayley wedi eu gweld ym Mharc y Dre
Mae'n rhaid i fi ddewis Caernarfon. Cofi Dre ydw i, a fyswn i'n medru deud ffenast top Caffi Maes, neu wal Anglesey, ond wna i fod fwy penodol a dweud Parc y Dre - neu Barc Chwiaid, fel 'da ni'n galw hi'n tŷ ni…
Fanna dwi'n mynd i feddwl, i wrando ar a gyrru voicenotes i fy ffrindia, ac i weld yr adar.
Dwi'm yn gwybod be' sy'n y dŵr 'na, ond mae 'na gymaint o adar gwahanol yn dod i ymweld yna. Mae 'na syrpreis bach yna'n aml.
Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?

Perfformiad "swreal... a bythgofiadwy" yn Eisteddfod Genedloaethol 2025
Gormod i fi ddewis dim ond un - ond mae'n rhaid i fi sôn am y noson yn 'Steddfod flwyddyn dwytha pan ges i chwarae yn band Creiriau efo rhai o fy ffrindiau, yng nghanol Cerrig yr Orsedd, o dan leuad lawn.
Tro cynta' i fi chwara'r sax yn gyhoeddus, ac roedd yr holl beth mor swreal, noson fythgofiadwy.
Roedd Melda Lois ar y gitâr, Kez O'Hare ar dryms ac Ellis Walker o Mellt ar y bas, a Megan Lloyd ymysg y beirdd arbennig - dyna hi yn y llun! Dwi dal ddim yn siŵr os 'naeth hyn acshyli digwydd ta rhyw fath o fever dream oedd yr holl beth.
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.
Creadigol, cefnogol, annibynnol
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Encil Kathod
Encil Kathod yn Nhŷ Newydd.
Roedd hi'n benwythnos o greu, canu, sgwennu, a jyst cael amser arbennig iawn efo criw o ferched a phobl anneuaidd hynod o dalentog.
Fel sydd bob tro yn Nhŷ Newydd, roedd 'na hud a lledrith ar waith, a'r syniadau creadigol yn llifo. Dwi'n meddwl fod ni wedi creu llond albym o ganeuon efo'n gilydd - ella rhyw ddydd gewch chi glywed nhw!
Honorouble mention i lansiad fy nofel gyntaf, Lladd Arth, yn Palas Print wrth gwrs - roedd 'na lot o gariad yn yr ystafell y noson honno!

Cynulleidfa yn gwrando ar Kayley Roberts yn lansio ei llyfr
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?
Un tro nesh i ddreifio ar yr A55 am tua 10 munud yn ganol nos heb roi gola'r car ymlaen.
O'n i'n siŵr fod nhw ar yn barod ac o'n i methu dallt pam bod fi methu gweld, ac yn y diwedd o'n i'n meddwl bydd rhaid fi rhoi full beam ar...dyna pryd nesh i sylwi... dwi dal i crinjio...
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Gesh i weithio ar Dynolwaith blwyddyn dwytha (Sherman/Frân Wen).
Fi oedd y cyfarwyddyd cynorthwyol ac roedd bod yn yr ystafell ymarfer gyda phobl mor dalentog a brwdfrydig, a chael gweithio dipyn bach ar y sgript, yn brofiad breintiedig iawn.
Yn sicr ddim fi oedd yr unig un oedd yn teimlo'n emosiynol yn gweld y stori bwysig yna'n dod at ei gilydd, a phan gafodd Leo Drayton standing ovation bob un noson, nesh i grio efo hapusrwydd a balchder!
Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Ail-adrodd yr un stori i bobl a ddim cofio bod fi wedi'i dweud hi'n barod! A gwario gormod o amser ar fy ffôn.
Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
Dwi'n caru cyfres Robin Hobb, The Realm of the Elderlings.
Mae'r stori yn anhygoel, ac efo bob dim dwi'n licio gweld mewn nofel - hud a lledrith, dreigiau, ffrindiau a chymuned, a chwip o stori, gan rywun sydd yn gwybod sut i sgwennu pobl yn realistig a gyda sensitifrwydd. Gen i tatŵ o un o'r cymeriadau hyd yn oed!
Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?
Fyswn i'n medru enwi ryw seleb neu ffigwr pwysig hanesyddol, ond sa'n well gen i gael diod efo ffrindia' fi - dwi'n caru nhw ac maen nhw'n laff!
Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Fedra'i siarad dipyn bach o Japanese!
Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?
Mynd am dro braf efo ffrindiau a nofio mewn llyn neu'r môr, cael picnic a choffi neis efo'n gilydd, chwara' bach o gerddoriaeth rownd y tân, chwerthin a rhannu straeon am oriau.
Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?
Mae lluniau'n mynd yn llai pwysig dyddiau yma fel 'da ni gyd yn cymryd cannoedd ohonynt yn ddyddiol - tydi hynny ddim yn ddrwg neu'n dda, mae o jyst yn ffaith.
Mae'n siŵr mai'r llunia o fi a 'nheulu pan o'n i'n blentyn ydi'r mwya' pwysig, am eu bod nhw'n unigryw, dim ond un copi sy'n bodoli. Lluniau o fi'n tyfu fyny, drwy lygaid fy rhieni.
Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddech chi'n ddewis?
Dwi'n ddigon hapus bod yn fi'n hun.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd27 Ebrill

- Cyhoeddwyd18 Mai
