Gobaith y bydd dirwyon £150 am adael injan ymlaen yn 'newid arferion'

Daw'r newidiadau i rym yn dilyn pleidlais yn y Senedd fis Mawrth
- Cyhoeddwyd
Bydd gyrwyr sy'n gadael injan cerbyd ymlaen tra eu bod wedi parcio yn wynebu dirwyon o hyd at £150.
Daw hyn yn dilyn mesur newydd gan Lywodraeth Cymru i geisio lleihau llygredd niweidiol ac i amddiffyn iechyd plant.
Cafodd y ddirwy o £20 ei chyflwyno yn 2003 ac mae wedi aros yr un fath ers hynny, ond bydd cynghorau nawr yn cael pwerau i osod dirwyon rhwng £75 a £150.
Gobaith Llywodraeth Cymru yw y bydd y newid yma yn "newid arferion pobl sy'n llygru cymunedau".
'Yn gryfach arf i daclo llygredd'
Dywedodd Llyr Gruffydd, y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, fod gadael yr injan ymlaen yn "creu llygredd, yn creu risg i iechyd y cyhoedd yn ogystal â chreu problemau amgylcheddol".
"Be ni'n gwneud nawr yw rhoi cyfle i awdurdodau lleol gynnig dirwyon uwch a hynny'n amrywio o £75 i £150.
"Mae fyny iddyn nhw yn seiliedig ar eu hamgylchiadau lleol nhw lle maen nhw am osod hynny.
"Ond ni'n gobeithio'n fawr y bydd hynny'n gallu bod yn gryfach arf i daclo rhywbeth sydd yn broblem y tu allan i ysgolion yn enwedig, ond hefyd mewn llefydd eraill fel canolfannau iechyd."
Ychwanegodd nad oedd y ddirwy o £20 yn gweithio ac felly mae'n gobeithio y bydd newid hynny i ystod o £75-£150 yn "gwella arferion pobl sy'n llygru cymunedau".

Mae lleoliadau fel ysbytai, meddygfeydd ac ysgolion yn cael eu hystyried yn rhai risg uchel
Mae nifer o leoliadau lle allai'r ddirwy fod yn berthnasol, o fwytai bwyd cyflym i groesffyrdd.
Ond mae ardaloedd fel tu allan i ysgolion yn cael eu nodi fel ardaloedd risg uchel lle mae allyriadau yn achosi pryder.
Mae ysbytai, meddygfeydd, cartrefi gofal a chyfleusterau gofal iechyd eraill hefyd yn cael eu nodi fel lleoliadau risg uchel.

Roedd Chiara (chwith) a Wendy (dde) o Gaerdydd yn croesawu'r syniad
Dywedodd Anna, a oedd yn casglu ei phlant o Ysgol Treganna fod yr ardal yn "hynod o brysur achos mae ceir ymhobman o amgylch yr ardal, a pan 'dy'n ni eisiau gadael i fynd i rywle, ry'n ni methu amser yma [diwedd diwrnod ysgol]."
Gyda hithau a'i theulu yn byw gerllaw, ychwanegodd ei fod wedi cymryd tua 45 munud iddi gyrraedd diwedd y stryd un diwrnod.
"I ni, dwi'n meddwl ei fod yn beth da, achos bydd yn rhwystro llawer o'r ceir rhag parcio yma," meddai.
Ychwanegodd Chiara Rinaldi, rhiant arall, fod y syniad yn dda mewn egwyddor, ond yn ymarferol yn anodd i'w weithredu.
"Mae'r teithiau i'r ysgol yn anhrefnus fel y maen nhw, ond fyddwch chi byth yn gweld yr heddlu yma yn gorfodi dirwyon.
"Mae'n syniad gwych, ond ni fydd yn digwydd byth."
'Dim ond peth da all hyn fod'
Un oedd yn croesawu'r newid oedd Wendy Vernon-Fulook.
Wrth gasglu ei phlant o'r ysgol, dywedodd: "Dwi'n meddwl ei bod hi'n beth da; ni ddylech chi adael yr injan yn rhedeg – yn amlwg, nid yw'n dda i'r amgylchedd.
"Gallai hyn atal pobl rhag gwneud hynny, neu efallai na fydd yn llwyddo; yn anffodus, efallai y bydd pobl yn parhau i'w wneud.
"Ond rydyn ni'n ceisio annog pobl i gerdded cymaint â phosib, felly dim ond peth da all hyn fod."

Dywedodd Bobby Peak fod angen "newid y ffordd o feddwl"
Draw yn ochrau Caerfyrddin roedd Bobby Peak o Lanarthne yn "cytuno na ddylai pobl adael yr injan ymlaen achos mae asthma ar un o'r wyrion, er enghraifft".
"Mae llygredd awyr yn bwysig a s'dim eisiau fe. Ar y llaw arall, os ti yn dirwyo pobl, mae pobl yn dioddef am wythnos, maen nhw'n mynd yn grac, ond dyw e ddim yn newid dim byd yn eu ffordd o fyw a'u meddyliau nhw."
Ond dywedodd mai "angen newid y ffordd o feddwl" sydd angen gwneud, a bod hithau'n "ymwybodol iawn o'r amgylchedd".
Ychwanegodd Mair Phillips fod y newid yn "berffaith deg i ddweud y gwir".
"Sai'n credu bod angen cadw'r engine i fynd o hyd ta beth.
"Mae e'n wastraffus a dyw e ddim yn dda i'r environment so sai'n gweld dim trwbl yn hwnna o gwbl."
Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, yr Athro Isabel Oliver fod "llygredd aer yn broblem ddifrifol i iechyd cyhoeddus, gan gyfrannu at ystod o gyflyrau gan gynnwys clefyd y galon a'r ysgyfaint".
Ychwanegodd fod "gadael yr injan i redeg yn edrych fel arfer bach, ond bob dydd, mae'n adio fyny".
"Pob tro mae injan yn cael ei ddiffodd yn hytrach na'i adael ymlaen, rydym yn lleihau faint o lygredd gwael yr ydym yn anadlu yn yr awyr, yn enwedig o amgylch ysgolion, ysbytai a llefydd eraill lle mae pobl fregus yn treulio amser."
Daw'r newid hwn i rym yn dilyn pleidlais yn y Senedd fis Mawrth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mawrth
